Wednesday 8 April 2020

Albym Cerys Hafana, Herald Gymraeg 8 Ebrill 2020



‘Cwmwl’ yw albym newydd Cerys Hafana, Dyma albym cyntaf Cerys ond dyma albym rhyfeddol am albym gyntaf. Does dim beirniadaeth gennyf dim ond canmoliaeth. Does dim gair o gyngor gennyf mwy na ‘caria ymlaen hefo’r gwaith da Cerys!’ Mae’r delyn deires yn fyw ac yn iach. Mae enaid ac ysbryd Nansi Richards / Llio Rhydderch wedi cyrraedd cenhedlaeth arall ifanc – y genhedlaeth nesa!

Dechrau eleni ddos i ar draws Cerys am y tro cyntaf. Un o fanteision cyflwyno’r sioe radio nos Lun ar Radio Cymru yw fod y tim cynhyrchu yn BBC Bangor yn fy mwydo gyda stwff newydd, caneuon a thraciau, storiau ac erthyglau. Erthygl yn y cylchgrawn ‘O’r Pedwar Gwynt’ gan Cerys ysgogodd drafodaeth ar y sioe am y diffygion o fewn diwylliant Cymraeg i gynnwys pawb.

Ers ddechrau’r cysyniad o ‘arddegau’, efallai gyda Jazz yn y 1920au neu Sgiffl yn y 50au a wedyn yn sicr Rock’n Roll mae pobl ifanc wedi chwilio am gerddoriaeth, ffasiwn, steil a llefydd i fynd allan sydd yn fodd o ddiffinio eu cymeriadau a’u diddordebau. Mae hyn yn rhywbeth hollol naturiol.

Yn aml iawn, y bobl sydd ddim yn ‘ffitio mewn’ i’r prif ffrwd neu’r canol y ffordd yw’r rhai sydd yn gwthio’r agenda yn ei flaen – rhain yw’r arloeswyr a’r creadigol. Nid drwy gyd-ymffurfio mae newid pethau. Ewch i ddarllen erthygl Cerys neu mae clip o’r sgwrs ar gael ar gwefan BBC Sounds / Recordiau Rhys Mwyn / Clipiau.

Does dim hawlfraint ar Gymreigtod a changymeriad yw cymeryd yn ganiataol fod yr iaith yn ddigon i uno pawb o dan un cwmwl Celtaidd ysbrydol Tir Na Nog-aidd. Nid un teulu bach hapus yw siaradwyr Cymraeg on yn hytrach gwahanol bobl hefo iaith gyfathrebu yn gyffredin. O ddilyn y ddadl yma mae’n hollol rhesymol gweld Mods sydd yn siarad Cymraeg ond does dim disgwyll iddynt fod yn ffans o Eden. Dim o’i le hefo hynny – felly mae hi.

Mae ‘youth cults’ yn rhywbeth rhyngwaldol sydd wedi bod hefo ni ers genedigaeth yr ‘arddegau’. Weithiau mae’r ‘Byd Cymraeg’ yn methu dallt hynny – Steddfod yw popeth – mae hyn yn ddiffiniad llawer rhy gyfyng. Yn amlwg!

Y ffordd orau o ddathlu Cymreigtod yw yn ei holl amrywiaeth, yn ei holl liwiau – a dyma wedyn ganiatau adfywiad i’r delyn deires yn y presennol. Yr ‘here and now’ fel dywed y Sais. Rwan hyn! Dyma’r dyfodol. Beth am wneud datganiadau mawr.



Rwyf wedi dilyn gyrfa y grwp Adwaith o Gaerfyrddin dros y ddwy flynedd dwetha. Grwp sydd wedi datblygu o fod yn ‘addawol’ i ‘eitha da’ neu ‘diddorol’ i fod yn hollol hanfodol. Bellach mae Adwaith yn sefyll allan fel grwp pop sydd yn ymylu ar fod yn berffaith – caneuon, delwedd, agwedd. Funky.

Rwyf yn falch fod ein sioe bach radio ni ar nos Lun wedi gallu cynnig cefnogaeth cyson i Adwaith. Nid cefnogi er mwyn cefnogi yw hyn. Cefnogi achos fod rhywun yn gwybod fod RHAID datgan cefnogaeth yw hyn. Dyma’r dyfodol. ‘This is the Future of Rock’n Roll’ – y math yna o ddatganiad.

A dyma Cerys Hafana – y nesa yn y llinach. Da chi jest yn gwybod fod hi yn seren ddisglair. Fel Nico, Patti Smith, Chrissie Hynde, Polystyrene a Cerys Matthews – mae o gan Cerys Hafana hefyd. Heb os.

‘Emyn y Glaw 1’ yw’r trac cyntaf ar yr albym. Trac ar y delyn deires. Trac llawn egni ac angerdd. Trac sydd yn gosod yr agenda ar gyfer gweddill yr albym. Gyda’r ail drac ‘Ymadawiad/ Hyd y Frwynwen / Dawns Elmo’ mae’r Delyn yn dal i dincian gyda’r un dwyster. Hanfodol yw’r gair allweddol yma dwi’n credu.

Trac 3 yw’r ‘clasur’ Bwthyn Fy Nain / Tŷ Bach Twt. Mae‘r trac yn ‘glasur’ yn barod. Gan atgoffa rhywun o’r Velvet Underground neu ‘Gyda Gwen’ sengl gyntaf Catatonia mae hwn yn Rock’n Roll a gwerin heb unrhyw gyfaddawd. Mae o yna ochr yn ochr a John Cale yn cyfeilio i Nico.

Y gitar drydan yw’r prif offeryn yma – dyna pam y gymhariaeth hefo’r Velvets. Ond mae’n drac gwerin hefyd. Sut cafwyd y sain perffaith yma ar y trac? Achos mae o yn berffaith o ran dal ysbryd angerddol llais Cerys. Dwi’n rhyfeddu a gwirioni – ac yn chwarae eto. Drosodd a throsodd.

Yn dilyn mae ‘Bwlch Llanberis / Tri a Chwech / Marwnad yr Heliwr’. Unwaith eto cawn y delyn deires yn tincian. Nid y delyn mewn gwers ysgol neu llwyfan eisteddfodol sydd yma. Nid darn mewn amgueddfa. Dyma gerddoriaeth gyfoes sydd yn rhoi cic anferthol i’r traddodiadol allan o unrhyw drwmgwsg parchus mae’r gwybodusion yn trio ei warchod.

Dyma gerddoriaeth o’r pridd. Yn fyw ac yn iach. Dyma ysbryd Gwilym Cowlyd a Iolo a Dr William Pryce. Dyma ddathlu Cymreigtod tra’n chwalu pob mur a phob parchusrwydd diwylliannol.

Y piano wedyn sydd yn tincian ar ‘I bhFolach Faoin gGloch’. Hyfryd. Y piano yn creu awyrgylch, ddim rhy bell o sain piano mewn neuadd bentref ond eto yn swnio yn glir – unwaith eto dwi’n gofyn sut recordwyd hyn mor berffaith.

Mae na rhywbeth am llais Cerys – o fewn eiliadau o glywed ‘Y Ferch o Blwy’ Penderyn’ mae rhywun unwaith eto yn gwybod eich bod yn gwrando ar athrylith, ar y peth go iawn, ‘the real deal’, seren ddisglair iawn.

Dyma bwer cerddoriaeth ynde – fel clywed Bob Dylan neu’r Pistols am y tro cyntaf – mae hwn yn hollol hollol rhyfeddol. Prynwch yr albym !

https://open.spotify.com/track/21fpelsJTgF6x8dwqk5AnY?si=Mu0k5LyVTS-k2RY7dWVPzw




No comments:

Post a Comment