Wednesday 26 February 2020

Dinas Emrys a'r European Regional Development Fund, Herald Gymraeg 26 Chwefror 2020


Craflwyn / Dina Emrys



Bore Sul fe ddeffrais gan wybod mai Dinas Emrys fydda fy nhaith gerdded pnawn Sul. Yn aml iawn rwyf yn gadael fy ngreddf / teimlad mewnol benderfynu lle dwi am fynd i gerdded. Does dim mapiau OS allan ar y bwrdd y noson gynt nac unrhyw baratoi manwl, dwi jest yn codi ac yn gwybod lle dwi am fynd. Lle dyliwn i fynd!

Peth rhyfedd yw hyn mewn ffordd ond y disgrifiad gorau yw fod rhywun yn ‘gwrnado’ ar ei ‘deimladau’. Os di’r teimlad yn iawn dyna ni – ffwrdd a ni. Wythnos yn ôl roeddwn yn llai sicr ond yn gwybod fod rhaid anelu am Eifionydd. Dyma yrru yn y car i gyfeiriad Llangybi a phenderfynu munud olaf y byddwn yn mynd draw at Ffynnon Gybi. Unwaith ro’ ni wrth y ffynnon dyma benderfynu fod angen mwy o awyr iach a felly dyma fras gamu fyny at fryngaer Oes yr Haearn, Garn Bentyrch.

Wythnos yn ôl roedd y gwynt yn gryf. Prin fod modd sefyll ar gopa Garn Bentyrch a’r unig loches oedd yn y ffosydd rhwng y tri clawdd sydd yn amgylchu’r gaer aml-gyfnod. Ond, roedd y golygfeydd dros Eifionydd yn gwneud yr ymdrech yn un werth chweil. Does dim gwell nagoes, na sefyll ar gopa a gallu gweld yn bell.


Castell tywysogion Gwynedd

Wrth deithio am Ddinas Emrys roedd y blodau melyn allan ar y cennin Pedr. Welais i ddim ŵyn bach ond roedd na rhyw deimlad fod y Gwanwyn ar droed. Roedd yr Haul allan yng Nghraflwyn. Y maes parcio yn weddol ddistaw. Tynnais lun o arwydd ERDF yn cofnodi fod arian Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r arddangosfa tywysogion Gwynedd.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe weithiais gyda staff Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn ar gynllun Ein Treftdaeth yn dehongli Dinas Emrys. Fel archaeolegydd llawrydd fe gefais waith pellach ar gynllun Ein Treftadaeth gan Cadw a Chyngor Gwynedd. Meddyliwch cael ein talu i ddehongli Hanes Cymru. Diolch i arian Ewrop. Wel mae hunna wedi mynd rwan yndo.

Mae mor anodd peidio bod yn flin hefo’r ‘Little Englanders Brecsitaidd’. Mae nhw di cael yr hawl i basport glas. Llongyfarchiadau. Dyna’r unig beth mae nhw yn mynd i gael. Ond mae o yn gwylltio rhywun pan mae rhywun yn sylweddoli fod rhan o incwm rhywun am ddiflannu am byth.

Fel nifer o bobl llawrydd rwyf yn gwenud gwaith tywys dros yr Hâf. Rwyf wedi dilyn cwrs er mwyn derbyn Bathodyn Glas fel tywysydd Cymreig a rhaid cyfaddef fod yr incwm da ni’n ennill drwy dywys Americanwyr o amgylch cestyll Cymru dros yr Haf yn gwneud byd o wahanaieth. Siawns bydd yr Hâf yma yn OK ond beth am 2021? Beth fydd sefyllfa tollau Caergybi erbyn 2021. A fydd y llongau Cruise dal i ddod ar ôl Brexit?

Dwi’n gwybod bydd llawer yn ddrwgdybus am ‘werthfawrogi’ cestyll Edward I ond hebddynt byddai economi gogledd Cymru llawer tlotach. Chydig iawn o waith tywys sydd i’w gael gan Gymry Cymraeg, felly da ni’n ddiolchgar i’r Americanwyr a’r Almaenwyr. Dyma’r pris os am gadw busnesau Cymraeg yn fyw. Di’o ddim yn bris go iawn – dwi rioed wedi tywys neb o amgylch Caernarfon, Harlech, Conwy na Biwmares heb grybwyll Llywelyn ab Iorwerth, ap Gruffudd a Glyndŵr.

Rhaid trafod y cyd-destun ehangach os am ddealltwriaeth o’r Hanes – does dim Hanes Cymru heb ddeall Edward I. Ffaith – yn hynny o beth rwyf yn cytuno hefo Kirsty Williams – mae hanesion Cymru yn plethu i greu yr Hanes cyfan.

Gan fod y Cymry heb gael hanes Cymru yn yr ysgol – does dim cymaint o ddiddordeb nagoes. Be fyddwn wedi ei alw yn ‘self-imposed stupidity’. Ches i ddim gwersi gwylio adar na astronomeg yn yr ysgol ond dwi’n nabod y robin goch a sêr Orion. Does dim rhwystr rhag darllen, darganfod, teithio, Google hyd yn oed. Rhaid cael gwared a’r ‘victim culture’ os da ni am symud ymlaen. Pa ots be mae cyflwynwriag Sky yn ddweud am yr iaith – da ni uwchlaw hynny.

Ofnaf y bydd Brexit yn niweidiol i’r gwaith tywys – cawn weld. Heb os bydd Brexit yn niweidiol i’r maes treftadaeth ac archaeoleg. Ah wel, oleiaf mae gennyf fy sioe radio ar nos Lun – fydda’i ddim yn y wyrcws fel fydda nain yn deud. Ond Rhys bach – dyna’r targed nesa. Am ryw reswm mae’r Brexiters wedi troi ar y BBC rwan. Os bydd y wasg boblogaidd adain-dde a’r cyfryngau yn parhau a’r iaith ymosodol, y BBC fydd nesa ar ol yr UE - ar fai am bopeth, gan gynnwys siap bananas. Does dim taw ar hyn.

Tydi Brexiters ddim yn poeni am sioe Huey ar fore Sadwn ar BBC 6 Music mwy nac ydynt yn poeni am sioe Georgia ar nos Fawrth ar Radio Cymru.Yn eu hatgasedd blin di-ddiwedd maent am wared a phopeth bron. Unrhywbeth sydd yn rhoi pleser. Yn ogystal a chael gwared a gofalwyr a staff yr AIG mae Priti am rwystro cerddorion ac artistiad rhag teithio a pherfformio.

Nid jest gadael sefydliad yr Undeb Ewropeaidd yw hyn, tydi hynny ddim yn ddigon – mae nhw am rwystro ni rhag fwynhau cyngherddau rhynglwadol yn y theatr a gwrando ar gerddoriaeth amgen ar y radio. Mae nhw yn mynd yn fwy fwy blin.

Dwi’n mynd i gerdded er mwyn teimlo yn well. Dwi’n gweld arwyddion ERDF ym mhobman – o Fryn Celli Ddu i Gastell Henllys ac yn cael fy atgoffa fod Brexit yn ymosodiad ar ein ffordd o fyw ac ar ein cyfloedd i gael mwynhad.

No comments:

Post a Comment