Pennawd BBC News, 21 Tachwedd 2017 ‘Row over Llanberis
Sword Location’. A dyma fi mor euog yn dechrau’r golofn hefo beth sydd yn cael
ei ddisgrifio fel ‘clicbait’ pan mae pobl yn gwneud hyn ar-lein neu ar y
cyfryngau cymdeithasol. Defnyddio pennawd neu frawddeg ddadleuol neu drawiadol
er mwyn denu eich sylw.
Cofiwch, mae penawdau ‘dadleuol’ neu’r holl beth o greu
dadl er mwyn denu sylw yn gallu bod yn effeithiol iawn. Na’th bod yn ‘ddadleuol’
ddim drwg i werthiant recordiau y Rolling Stones, y Sex Pistols na Frankie Goes
To Holywood, Yn yr un modd, doedd bod yn ‘enfant terrible’ yn y Byd Celf ddim
yn beth rhy ddrwg ar CV artistiaid fel Francis Bacon neu Lucian Freud.
Yn ddiweddar mae enw da (neu enw drwg) Banksy yn sicrhau
sylw rhyngwladol pan mae darn o graffiti Banksy yn ymddangos ar wal mewn rhodfa
gefn ym Mhort Talbot. Beth fydd tranc y celf dros nos yma sgwn’i? Tŷ gwydr parhaol
drosto efallai gyda tal mynediad?
Meddyliaf wedyn am Gaban gwyrdd Joseph van Lieshout ger
Pontio ym Mangor, yn eistedd yn daclus o dan y Coleg ar y bryn. Dadleuol. Oedd
ac ydi - a bu llythyru cyson a’r wasg leol am wythnosau wedyn. Felly beth am y
cleddyf yn Llanberis?
Gwaith y gof Gerallt Evans yw’r cleddyf 20 troedfedd o
uchder. Cleddyf heb du mewn – cnociwch arno a fe glywch mai ‘cast’ neu cleddyf
wedi ei greu mewn mowld yw hwn. Nid arf felly. Wedyn mae’r cleddyff yn eistedd
gyda blaen y llafn mewn sylfaen o goncrit. Y carn yn yr awyr – 18-20 troedfedd i
fyny.
Yn ddiddorol iawn does dim esboniad o gwbl yma ar lan Llyn
Padarn, ger y maes parcio ar ymyl y llyn. Dim byd i ddweud pwy, pam be. Rhan o
gynllun ‘Blwyddyn y Chwedl’ (2017), Llywodraeth Cymru gyda chymorth Cyngor Gwynedd.
Nid mwy o sylw drwg sydd yma ond trafodaeth bellach.
O ran Hanes Cymru ac Archaeoleg Cymru mae parhau a’r drafodaeth
yn bwysig. Mae unrhyw drafodaeth yn well na dim trafodaeth. Byddaf yn datgan yn
aml fod bwrlwm yn creu bwrlwm ond mae distawrwydd yn arwain at ddistawrwydd
llethol. Tydi hynny ddim yn iach.
Rwyf hefyd wedi datgan mor aml yn y golofn hon fod y diffyg
Cymraeg yn y byd archaeolegol Cymreig yn pwyso yn drwm arnaf. Digaloni – ydw weithiau.
Ymladd yn ôl – ydw weithiau. Tro ar ôl tro byddaf hefyd yn dychwelyd at ein ‘difaterwch
ni’ – meddyliwch am gan Huw Jones ‘Sut Fedrwch chi anghofio’. Mae’r Cymry yn
arbenigwyr ar gwyno am gestyll Edward I – ond beth yw arwyddocad y cleddyf ger
y llyn?
Tywysogion Gwynedd sydd yn cael eu dathlu / cydnabod yma
gan gleddyf rhydlyd coch / oren Gerall Evans. Felly yn bennaf rydym yn son am
dywysogion Gwynedd yn ystod y 13eg ganrif. Y ddau Llywelyn – ab Iorwerth ac ap
Gruffudd, Fawr ac ein Llyw Olaf. Nid cymaint felly Owain Glyndŵr?
Dwi wedi clywed enw Glyndŵr yn cael ei grybwyll yng nghyd
destun cleddyf Llanberis ond mae gwrthryfel Glyndŵr yn digwydd dros ganrif ar ôl
brwydrau’r ddau Llywelyn hefo Harri III a Edward I. Er fod hyn oll yn rhan o ‘Hanes
Cymru’ tydi taflu Glyndŵr i’r un pair a’r ddau Llywelyn ddim cweit yn fanwl
gywir. Daeth teyrnasiad tywysogion Gwynedd i ben go iawn pan ddaliwyd Dafydd ap
Gruffudd ar Bera yn y Carneddau ym Mehefin 1283.
Tydi’r dyddiad yna yn Rhagfyr 1282 ddim cweit yn iawn
chwaith felly. Er mor bwysig yw cofio am Llywelyn ap Gruffudd a Chilmeri –
rhaid peidio gwneud hynny ar draul Dafydd druan – y brawd a achosodd y rhyfel
yn y lle cyntaf – a’r person cyntaf i’w ddienyddio am deyrn-fradwriaeth. A hynny
yn yr Amwythig ar y 3dd Hydref, 1283.
Gan ddychwelyd at ein cleddyf rhydlyd ar lan Llyn Padarn.
Bu ymateb ddigon negyddol gan nifer. Ymhlith yr ymatebion yw fod y cerflun yn ‘hyll’
neu ‘ddim yn gweddu’. Hmmmm, dwi ddim mor siwr am hynny. Os mai cynrychioli
tywysogion Gwynedd oedd (ac yw) y nod – sut fedrith hynny fod yn beth drwg?
Saif pentref Llanberis, pentref chwarelyddol yn hanesyddol,
tu allan i ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Yr un yw’r stori ym Methesda a
Blaenau – y pentrefi rhy ddiwydiannol neu ôl-ddiwydiannol i gael eu cynnwys o
fewn ardal o harddwch naturiol? Hanes yw hanes. Onid yw’r trefol a’r archaeoleg
diwydiannol yr un mor hardd mewn gwirionedd – ac yn sicr yr un mor bwysig.
Yn y cefndir – i’r gogledd ddwyrain, pen pella’r llyn, tu
cefn y cleddyf gallwn weld tŵr crwn Castell Dolbadarn. Castell Llywelyn ab
Iorwerth a Siwan a godwyd rhywbryd yn ystod y 1220au a’r 1230au. Cartref brenhinol
i dywysog Gwynedd a merch y Brenin John. Heb os mae Castell Dolbadarn yn
bwysicach na rydym yn sylweddoli.
Mewn cyd-destun felly, os edrychwn yn holistaidd ar hanes
tywysogion Gwynedd – mae cleddyf Gerallt Evans yn gwneud synnwyr. Yn hanesyddol
felly ac yn ddaearyddol felly – ond doedd hynny ddim yn cael sylw ar y Cyfryngau
yn ôl yn 2017.
Sylwch hefyd fy mod wedi gallu sgwennu colofn gyfan heb
unrhyw grybwyll o’r Brenin Arthur. Beth bynnag eich barn am gleddyf Llanberis
mae yn holl bwysig fod yr arweinydd 5ed ganrif DDIM yn cael ei daflu mewn i’r
pair. Does DIM yw DIM cysylltiad yma a’r brenin Arthur.
No comments:
Post a Comment