Un o ddyfyniadau Van Gogh oedd ‘Art is to console those broken by life’. Dyfyniad sydd yn gwneud
rhywun feddwl yntydi. Pa bwrpas celf? Wrthgwrs mae’r ateb yn llawer mwy
cymhleth na un dyfyniad – hyd yn oed os ydi’r dyfyniad hynny gan Van Gogh.
Ar hyn o bryd yn yr oriel fach yn Storiel, Bangor, mae
arddangosfa o waith gan artistiaid o Syria dan yr enw ‘Cyffwrdd Syria’. A fel
bydda rhywun yn ddisgwyl mae’r delweddau yn aml yn ymwneud a’r sefyllfa
wleidyddol a’r rhyfel gartref drychinebus yn Syria. Rhywbeth sydd tu hwnt i’n
hamgyffred ni go iawn yma yng Nghymru fach, dim ots sawl bwletin newyddion da
ni yn ei wylio.
Un o’r artistiad sydd yn gysylltiedig a’r prosiect yw
Khaled Youssef, meddyg o ran ei alwedigaeth ond sydd hefyd yn ychwanegu bardd at
ei CV diwylliannol. Gweithio yn Ffrainc fel meddyg mae Youssef, o ddewis.
Cydweithiodd a chwmni Dr Zigs, cwmni bybls o Gymru, gan dynnu lluniau dros y Byd
o blant yn bennaf yn chwarae hefo bybls.
‘Bybls i bawb o bobl y Byd’ medda ni. Ond mae’r cysyniad
celfyddydol yn ddigyfaddawd er ei symlrwydd. Rhowch i blant bybls a fe gewch
wen a hapusrwydd (os ond am eiliadau neu funudau). Syml. Rhoi gwen ar wyneb y
plant sydd yn creu yr effaith – dros y Byd i gyd – ta beth sydd yn digwydd yn y
cefndir. O ran Syria amcangyfrifir fod oleiaf 11 miliwn o bobl wedi gorfod
symud o’u cartrefi, 6 miliwn o fewn Syria a 5 milwin arall wedi gorfod gadael
Syria.
Dros y ffordd a Storiel mae Pontio. Pnawn Sadwrn roedd y bardd
o Gymru, yn wir y prifardd, Ifor ap Glyn yn cynnal sesiwn sgwrs a holi gyda
Youssef a bardd arall o Syria o’r enw Bashar Farahat – eto dan faner a gweithgareddau
‘Cyffwrdd Syria’.
Bellach esboniodd Farahat mae’n athro yn Llundain. Mae Bashar
hefyd yn fardd a fel Khaled yn feddyg o ran ei alwedigaeth gwreiddiol. Alltud
gwleidyddol yw Farahat. Nid drwy ddewis, ond yn dilyn cyfnodau o garchar ac
arteithio gan y Llywodraeth doedd dim modd aros yn Syria.
’Art, Culture & War’ oedd teit y sgwrs rhwng Ifor a’r
ddau fardd o Syria. Doedd dim disgwyl i hyn fod yn wrando hawdd ac eto cafwyd
hiwmor a thrafodaeth bwyllog a gonest. Cafwyd drafodaeth am reolau barddoniaeth
hefyd – am y mesurau caeth yn y Gymraeg a’r Arabeg.
Fel un uniaethodd gyda barddoniaeth Attila the Stockbroker,
Porky the Poet a John Cooper Clarke yn fy arddegau fyddwn i ddim yn rhuthro
allan i brynu llyfrau barddonaiaeth y ddau o Syria. Byddwn yn fwy tebygol o
chwilio am band rap neu pync o Syria er mwyn uniaethu yn ddiwylliannol.
Er hyn roedd ambell beth yn ystod y sgwrs, lle roeddwn yn
gweld yr agwedd rap neu pync yn amlygu ei hyn – iaith Rock’n Roll os mynnwch.
Fe ddwedodd un o’r beirdd ‘humainity is the only nation’. Yn union fel petae
aelodau o band anarchaidd fel Crass wedi eu geni yn Damascus.
Drwy awgrymu mai dynolryw yw’r unig genedl neu wladwriaeth
roedd yma awgrym yn cynnig rhywbeth tu hwnt i ‘genedlaetholdeb’. Diddorol iawn –
brawddeg y dydd i mi yn sicr. Wrth deithio gyda’r Anhrefn o amgylch Ewrop
yn ystod y 1980au hwyr a’r 1990au cynnar
fe ddatblygodd ein syniadau ‘gwelidyddol’ ni du hwnt i ffiniau cenedlaetholdeb
arferol Cymru Rydd.
Sawl gwaith o’r llwyfan gyda’r Anhrefn gweiddais ‘get rid
of passports, get rid of borders’ wrth ein ffrindiau yn Prag neu Donegal,
Bryste neu Berlin. Rhywsut roedd geiriau Bob Marley ‘One Love’ yn cadarnhau ein
bod yn iawn. Rydym yn un bobl, yn frodyr a chwiorydd. Dwi dal felly, dal i
deimlo mai brodyr a chiorydd ydym – dwi ddim yn berson ffiniau a pasport glas.
Dyma ni yn rhedeg i Fangor. Ar drywydd diwylliant. Mae o
yma yng ngogledd Cymru ond i ni fod yn fodlon gwneud yr ymdrech. Rhaid chwilota
hefyd (weithiau). Fyny grisiau yn Storiel – cyn mynd mewn i’r oriel fawr mae
yna arddangosfa o waith Brenda Chamberlain. Rydych yn adnabod gwaith
Chamebrlain yn syth. Delweddau o Enlli fel y disgwyl a’r cymeriadau gyda gwynebau
pinc mymryn rhy hir a chul i fod yn naturiol. Bendigedig.
Drws nesa yn Pontio, ym Mhontio, mae gwaith newydd gan Ann
Catrin Evans, y gof a’r grefftwraig artisan. Gwaith pren wedi ei gerfio neu ei
lunio gan beiriant argraffu laser. Cyd weithio gyda’r FabLAB / Arloesi Pontio fu
Ann gyda sawl artist arall er mwyn creu gwaith newydd sydd ddim yn nodweddiadol
o waith arferol yr artistiaid – yn sicr o ran defnydd o dechnoleg.
Cewch groesi’r ffordd, A5 Thomas Telford, nol ac ymlaen
rhwng Pontio a Storiel felly. Dilynwch y trywydd a’r diwylliant o un ganolfan i’r
llall. Treuliwch amser gyda gwaith Ann Catrin wedyn ewch yn nol at Brenda
Chamberlain. Fe gewch bleser pur.
Llosgodd Ann ei phren cyn ei sgleinio. Torrodd yr
argraffydd laser gynlluniau Ann oedd yn bodoli yn unig yn ei dychymyg a wedyn
ar raglen gyfrifiadur. Nid dyma’r trywydd arferol celfyddydol. Dyna’r pwynt.
Fel gyda’r bybls. Fel gyda’r gosodiad mai dynolrwy yw’r unig genedl. Does dim
malu awyr yma o gwbl, boed yn Ann Catrin neu Chamberlain.
Gedewir digon o ofod i’r dychymyg. Fe gewch synfyfyrio a
chroeso. Ond mae yma gelf sydd yn gwneud y pwynt ac yn ei wneud o yn gynnil ac i
bwrpas.
No comments:
Post a Comment