Llyfr Peter Finch ‘The
Roots of Rock from Cardiff to Mississippi and Back’ (2015, Seren) sydd wrth
ochr y gwely. Awdur y gyfres Real Cardiff
a seicoddaearyddwr o fri yw Finch, bardd yn ogystal ac awdur. Rhywun sydd
wedi crwydro strydoedd Caerdydd, rhywun sydd yn crybwyll Geraint Jarman (bardd
arall) yn ei lyfrau.
Trof at Finch yn aml pan yn chwilio am ysbrydoliaeth.
Ysbrydoliaeth a mymryn o seicoddaearyddiaeth ar ben y gacan sydd yn caniatau
rhywun i greu ac i gerdded /crwydro gyda’r llygaid ar agor. Arsylwi a gweld.
Edrych a gweld. Mae modd edrych heb weld.
O droi at lyfrau Finch nawr ac yn y man mae rhywun yn
paratoi at yr ymryson diwylliannol nesa sydd yn wynebu rhywun – rhyw fath o
ioga i’r amenydd.
Trafodaeth ar gelf ac archaeoleg oedd hi yn Oriel Plas Glyn
y Weddw wythnos dwetha. Neu trafodaeth ar archaeoleg a chelf? Mae’r ddau yn
gweithio. Mae’r ddau yn gywir. Un o drysorau Llŷn, un o drysorau gogledd Cymru,
Plas Glyn y Weddw yw’r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Plasdy gothig, hanes
Elizabeth Jones Parry a’r dyn busnes Solomon Andrews yn ddiweddarach yn arllwys
o furiau’r plasdy.
Profiad braf pob amser yw ymweld a Phlas Glyn y Weddw. Anodd
esbonio’r teimald ond mae yma groeso bob amser, awyrgylch hamddenol, caffi
rhagorol ond dim modd osgoi’r celf. Efallai mai dyma’r peth ynde – does dim
modd osgoi’r celf. Mae’r celf yn gwneud ei waith – yn ysgogi trafodaeth – a
hynny ym meddwl rhywun (yr unigolyn) neu mewn trafodaeth (gyda chwmni).
Celf cysyniadol yw’r celf sydd wedi ei ysbrydoli gan y
gwaith cloddio ym mryngaer Oes Haearn Moel y Gaer ger Bodfari. Dau artist, Simon
Callery a Stefan Grant yn ymateb i waith cloddio Gary Lock, Prifysgol Rhydychen.
Caer fechan yw Moel y Gaer, un o nifer ar fryniau Clwyd a beth bynnag fydd
canlyniadau’r gwaith cloddio – rydym yn siwr o ychwanegu at ein dealltwriaeth
o’r caerau yma ar fryniau Clwyd.
Rwyf yn dweud ‘cysyniadol’ wrth ddisgrifio’r celf. Yn sicr
mae Callery a Grant yn gallu damcaniaethu y cysyniadol. Bron bod y damcaniaethu
yn rhagori ar y celf. Neu efallai ddim? Dwi angen mwy o amser hefo’r gweithiau –
angen disytyru’r damcaniaethau a gweld os gallaf gysylltu a’r celf. Byddaf yn
dychweld i Blas Glyn y Weddw yn fuan.
‘Roadtrip’ – dyna chi ddisgrifiad da. Swnio fel rhywbeth
allan o ‘On the Road’, Kerouak. Dwi’n
teithio hefo’r BBC i Gaerdydd i weld cyngerdd y Crumblowers. Da ni yn
recordio’r gig ar gyfer y sioe radio ar Nos Lun. Dwi heb weld y Crumblowers yn
canu yn fyw ers ddechrau’r 1990au. Prifysgol Llanbed oedd y tro dewtha efallai
neu y Powerhaus yn Islington, Llundain?
Rhaid cyfaddef roedd y syniad o’r A470 ar bnawn Sadwrn yn
apelio. Y BBC oedd yn dreifio felly roedd cyfle i mi fwynhau y daith, edrych o
gwmpas, sylwi ar bethau heb boeni am y gornel neu’r gyffordd nesa. Diolch byth
nad yw’r A470 yn union syth ac yn ffordd ddeuol. Gwell fel hyn – cylchfan Dinas
Mawddwy, heibio colofn David Davies yn Llandinam, Castell Cyfarthfa wedi ei
fframio gan arwydd McDonalds wrth gyrraedd Merthyr.
Does dim angen i mi son am y ‘Steddfod yn y Bae’, bydd
digon wedi gwneud hyn yn barod. Hyd at syrffed o bosib. Ond ga’i jest ddweud un
peth – roedd gweld pobl o dras Indiaidd, o dras Somali, y di-Gymraeg yn dawnsio
i’r Crumblowers yn profi’r pwynt yndoedd – agorwch y blydi drysau. Os am
gyraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg mae angen agor y drysau.
Cyn gorffen fy ‘rant’ bach – efallai ei bod yn amser i’r
Steddfod agor y drysau i’r gigs gyda’r nos. Gadewch i bobl ‘y pethe’, y
dosbarth canol breintiedig Cymraeg dalu crogbris i cael cwrydro’r Maes yn ystod
y dydd. Mae pobl fel fi yn gallu fforddio hynny. Ond da chi Steddfod 2019
agorwch y drysau wedyn am 6pm – a gadael i’r werin bobl ddod mewn i weld bands
Cymraeg.
Efallai na fydd hyn yn ddigon i gyrraedd y milwin ond mi
fydd yn gwneud mwy o les na’r polisi arferol. RHAID fod pawb yn gweld faint o
les mae Bae Caerdydd wedi ei wneud!
Ac i droi yn nôl at y gwaith. Yno ar ran y sioe Nos Lun ar Radio
Cymru oeddwn’i – yno i recordio gig byw y Crumblowers. Gyda’r haul allan a
miloedd o bobl yn lolian o amgylch y Bae doedd dim dwy waith fod awyrgylch neu ‘vibe’
fel da ni yn ei alw o yn y Byd Pop, da iawn wrth i bawb aros am 9pm.
Fel daeth Crumblowers i’r llwyfan roedd hi’n dechrau nosi,
y sioe oleadau yn gweithio a’r band yn edrych yn dda, wedi gwisgo yn dda, heb
golli gwalltia a heb folia cwrw – ‘lean machine’ yn Saesneg. Gan chwydu tiwns –
un ar ôl y llall, fe gafwyd ‘Wyth’, ‘Archesgob’, ‘Achub Fi’ a’r hit mawr ‘Syth’.
Bendigedig. Miloedd o bobl hapus iawn. A pobl di-Gymraeg yn dawnsio ar ‘faes’
yr Eisteddfod. Cool.
Ar ddiwedd set Crumblowers, daeth Marc Roberts (Cyrff /
Catatonia) ymlaen i chwarae gitar ar ‘Wyth’ a mi a’th y lefel o 12 i fyny at
120. Pawb yn hapus,wrth eu boddau ond doedd gan neb y syniad cyntaf o beth oedd
yn mynd i ddigwydd wedyn.
Dyma glywed cordiau cychwynnol ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ a
dyna 5,000 o bobl yn rhuthro at y llwyfan, a’r sgrechfeydd yn faddarol. Dyma un
o’r tri munudau gorau o fy mywyd hyd yma – Marc Cyrff yn nol ar y llwyfan – a mae’r
cyfan wedi ei recordio gan y BBC – ewch draw i Recdordiau Rhys Mwyn ar BBC
iPlayer.
https://www.bbc.co.uk/programmes/b0bdvhd6
No comments:
Post a Comment