Wednesday 22 August 2018

Herald Gymraeg 22 Awst 2018





Heb os, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bae yng Nghaerdydd yn llwyddiant ysgubol – mewn sawl ystyr a mewn sawl ffordd. Dwi ddim am ddechrau dadansoddi hynny yn y golofn hon. Byddai trafod y rheol iaith yn sgwarnog ddiddorol – beth am Gwenno yn canu yn y Grenyweg neu Bob Delyn a’u caneuon Llydaweg? Na! Na! Na! Mae well gennyf adael i’r ‘trydarati Cymraeg’ fynd ar ôl hunna.

Cian Ciaran o’r Super Furry Animals oedd mwyaf gyfrifol am roi pin yn y swigen a deffro Mr Mwyn o’i drwmgwsg. Ers amser bellach mae Cian wedi bod wrthi yn ymgyrchu yn ddidwyll, yn gofyn cwestiynau, yn herio’r gwleidyddion. Gwrthwynebu Wylfa B oedd / yw ymgyrch amlycaf Cian ond yn ddiweddar dyma bennod arall yn y bennod niwclear – un angrhedadwy bron.

Dyma glywed fod pridd a mwd ymbelydrol (ond hollol saff medda nhw, wrthgwrs ei fod o!) am gael ei symud o safle Hinkley Point A – safle creu arfau niwclear – a’i ollwng ar ochr arall moryd Hafren ger Caerdydd. Byddai’r craff (Cian yn un) wedi sylwi fod cwmni Horizon ymhlith noddwyr yr Eisteddfod.

Ond dyma’r eironi. Pŵer Niwclear Horizon oedd noddwyr sioe Hwn yw Fy Mrawd. Meddyliwch am hyn am eiliad. Dwi’n eistedd i lawr. Yn ysgwyd fy mhen. Ddim yn siwr os dwi fod i chwerthin neu crio. Rwan dwi angen gwneud un peth yn hollol hollol glir. Rwyf yn credu fod y syniad o’r sioe agoriadol o Hwn yw Fy Marwd yn dathlu Paul Robeson – y canwr a’r ymgyrchydd yn un rhagorol a hanfodol.

Heb os, mae rhoi ‘Paul Robeson’ ar lwyfan yr Eisteddfod yn hollol amserol, 60 mlynedd ers ei ymweliad a’r Steddfod yng Nglyn Ebwy ac yn hollol berthnasol os nad angenrheidiol heddiw yn 2018, Brexit. Rwyf a pharch mawr i Robat Arwyn a Mererid Hopwood – dwi isho bod yn glir am hynny.

Ond petae Robeson yn fyw heddiw – oes unrhwyun yn meddwl am eiliad byddai Robeson wedi canu mewn digwyddiad wedi ei noddi gan Horizon ac o ganlyniad felly yn (an-)uniongyrchol arfau niwclear?



Gyda chyfyng gyngor meddyliol, ideolegol, gwleidyddol fel hyn – rwyf yn gorfod troi at y Beibl a gofyn beth fydda Joe Strummer a’r Clash wedi neud? Mewn difri calon – a fydda Strummer wedi perfformio ar lwyfan wedi ei noddi gan Horizon? Mwy na fydda Woody Guthrie, Billy Bragg, Joan Baez, Sister Rosetta Tharpe, Mahalia Jackson neu Nina Simone?

Rhyfedd o fyd – mae Cian, Robat a Mereid ôll wedi bod yn westeion ar fy sioe radio ar nos Lun. Fel dywedais mae fy mharch i’r tri yn ddiffuant. Os yw rhywun yn rhestru ‘arwyr’ mae Robeson yn uchel ar y rhestr os nad ar frig unrhyw restr. Roedd recordiau Robeson yn ein cartref fel plant – tyfais i fyny yn gyfarwydd ac ‘Ol’ Man River’ a ‘Solitude’.

Ond yn fy arddegau – yn chwilio am rhyw ffordd o wneud synnwyr o’r byd roedd caneuon The Clash yn agosach na dim. Roedd yr ymgyrch Rock Against Racism yn gwneud synnwyr. Roedd naratif Punk Rock yn rhoi chwistrelliad o realaeth i freuddwydion y Hipis a’r 60au hwyr. Wrthgrws fel rhywun a aned yn 1962 doedd yr Hipis rioed yn berthnasol. Erbyn 1977 roedd angen naratif newydd.

Arhosodd y maniffestos a’r gwleidyddiaeth gyda rhywun – hyd yn oed heddiw, 40 mlynedd yn ddiweddarach a Strummer yn ei fedd – mae darllen y Beibl yn cadarnhau pethau. Y Beibl yw ‘White Man in Hammersmith Palais’ os mynnwch, neu ‘Ku Klux Klan’ gan Steel Pulse – dio’m ots go iawn cyn belled a fod rhywun yn gweld llinell glir, yr ochr iawn, ochr cyfiawnder.

Ers refferendwm Brexit, gyda hiliaeth yn cael ei normaleiddio, an-llythrennedd gwelidyddol yn cael ei groesawu a chelwyddau noeth gan wleidyddion yn cael eu derbyn yn ddi-gwestiwn ar y Cyfryngau – mae’r hen ‘norms’ yn cael eu chwalu yn rhacs.

Fy mhoen meddwl y dyddiau yma yw teimlo nad wyf yn ‘deall’ beth sydd yn digwydd mwyach. Mae’n fwy fwy amlwg nad yw Brexit yn syniad da iawn o ran economi’r wlad – ond doedd Brexit rioed yn syniad da wrth reswm. Bellach mae hyd yn oed etholaeth Leanne Wood yn dechrau ‘ail-feddwl’. Eironi arall – mewn sawl ffordd.

‘Paid Digaloni’ oedd cyngor Huw Jones ar ei record yn y 1970au ac yn sicr dyna neges yr holl werslyfrau sydd wedi eu cynnwys yng ngeiriau caneuon protest – boed yn ‘Glad To Be Gay’ Tom Robinson neu ‘Croeso Chwedg Nain’ Dafydd Iwan. Ond does neb wedi sgwennu cân am beidio cael ei ddrysu.

Dryswch yw’r teimlad bellach – dwi ddim yn gallu prosesu Robeson a Horizon. Dwi ddim yn gallu prosesu Llywodraeth Cymru yn caniatau symud mwd ymeblydrol o fewn tafliad carreg i Fae Caerdydd mwy na dwi’n gallu prosesu Brexit.



Yn sgil Brexit roedd yna deimlad cryf fod angen ymateb yn erbyn yr holl hiliaeth a ddaeth yn sgil y refferendwm. Fe es ati i drefnu cyngerdd hefo’r cerddor reggae-dub Dennis Bovell ym Mangor ddiwedd 2017 dan faner ‘Rock Against Racism’ a llwyddais i werthu 13 tocyn o flaen llaw. Rhaid oedd gohurio. Pwysodd y siom yn fawr arnaf. Heb anobeithio, tydi rhywun ddim yn anobeithio, rhaid oedd cymeryd cam yn ôl. 

Dwi dal yn y camu yn ôl – dwi ddim yn dallt hyn i gyd – ond dwi’n sicr o un peth – does dim o hyn yn gwneud synnwyr – ddim go iawn.

https://nation.cymru/opinion/wylfa-newydd-b-plaid-cymru/



No comments:

Post a Comment