Wednesday 25 July 2018

Angerdd. Beth ydi Angerdd? Herald Gymraeg 25 Gorffennaf 2018



Rwyf am geisio troedio llinell denau yr wythnos yma. Rwyf am droedio a chroesi a drysu’r ffiniau ond dwi ddim yn siwr eto ar gychwyn sgwennu’r golofn os wyf yn mynd i lwyddo. Efallai mai colofn o sgwennu ‘creadigol’ fydd hi yr wythynos hon neu ymdrech fregus i roi fy meddylia ar bapur – cawn weld.

Beth am ddechrau gyda ambell ddyfyniad felly. Steve Jones gitarydd y Sex Pistols ddwedodd mewn cyfweliad cynnar iawn “we’re not into music, we’re into chaos”. Rwan beth bynnag oedd Steve yn feddwl go iawn, achos roedd yn amlwg fod y boi yn gerddor, yn gitarydd o fri ac ei fod yn angerddol am ei gerddoriaeth, dyma chi ddyfyniad oedd yn gosod yr agenda, yn gosod her. Bendigedig.

O edrych yn ôl ar hanes y Sex Pistols mae rhywun yn amau fod eu rheolwr Malcolm McLaren, os nad wedi rhoi’r geiriau yng ngheg Jones, oleiaf wedi bod yn annog tueddiadau Jones i herio. Fel darn o ‘gelf’, fel darn o ‘farddoniaeth’ mae hon wedi’r cyfan yn ddyfyniad o berffeithrwydd, iconoclastig, heriol, doniol, hanfodol.

Weithiau mae angen yr elfen yna – o herio heb falio. Dyfyniad o linach “you have to destroy in order to create” oedd llinell Jones heb os. Yr artist Francis Bacon sydd yn cael ei gydnabod fel awdur “rhaid chwalu er mwyn creu”. Ddigon posib. Fe fabwysiadwyd y dyfyniad gan Malcolm McLaren a daeth llinell iconoclastig Bacon yn rhan o naratif y Sex Pistols a Punk Rock yn gyffredinol.

Yn ei hanfod, roedd damcanaieth Bacon a phawb arall yn un hollol gywir. Rhaid chwalu er mwyn creu, rhaid herio ac arloesi hefyd achos y tueddiad yw fod yr hen drefn, y sefydliad, y traddoidiadol, y saff, y derbyniol yna fel bwystfil di-symud yn rhywstro datblygiad gyda styfnigrwydd blin.

Dyfyniad arall hanfodol sydd bellach yn rhan o’r naratif chwyldroadol yng Nghymru yw’r un gan David R Edwards o’r grwp Datblygu,’Mae byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”. Cymru yw’r bwystfil blin di-symud. Ond rydym yn caru Cymru, y lle, y dirwedd, y wlad, y bobl. y traddodiad, yr hanes, (yr archaeoleg), y diwylliant, llenyddiaeth a’r beirdd a’r cantorion. Wrthgrws ein bod ni. Da ni gyd yn sicr iawn o hynny.

Ond, a dyma’r cwestiwn anodd, y cwestiwn ar y ffin – pryd mae’r cariad a’r angerdd yna yn cael ei dros yn rwystredigaeth? Does dim ateb gennyf go iawn – peidiwch a disgwyl hynny. Dwi ddim yn ei ddalt o fy hyn, dwi ddim yn credu i mi rioed ei ddallt o.
Rhywbryd yn fy arddegau hwyr, dyddiau olaf yr ysgol Uwchradd mae’n debyg, trodd fy ansicrwydd naturiol a fy nryswch a chymlethtodau arddegau naturiol yn rhywbeth arall dwfn ac angerddol. Os darllenwch fy hunangofiant rwyf wedi esbonio hyn fel fy ymateb i bwlis yn yr ysgol a chael acne / plorod.

O leiaf roedd hwnna yn ateb ‘syml’ ar gyfer y llyfr. Ac oedd, roedd elfen o wirionedd yn hynny. Bwlis ac acne drodd fi at y Sex Pistols – dwi’n weddol sicr am hynny, ond mae hunna yn esboniad rhy syml. Efallai mai’r Sex Pistols wedyn lusgodd fi ar lwybr mwdlyd a gwelltog cefn-gwald tuag at y casgliad – ‘mae angen hyn yn y Gymraeg’. Efallai. Efallai wir.

Y llinell anodda i’w throedio yw’r un rhwng angerdd ac anobaith. Eto dwi ddim yn dallt hyn. Yr agosa efallai i wneud unrhyw synnwyr i mi oedd dyfyniad Tony Wilson (Anthony H Wilson) Factory Records wrth i Wilson drafod Punk gan awgrymu fod pawb yn gwieddi ac yn herio pawb a phopeth ac awgrymodd Wilson mai Joy Division oedd y grwp drodd yr holl beth ar ei ben drwy gyfaddef mai y nhw oedd y grwp cyntaf lle roedd hi ‘wedi canu arny’ nhw’.

Efallai i Wilson ddefnyddio geiriau ychydig fwy lliwgar na ‘wedi canu’ ond roedd ei neges yn amlwg. O anobaith llwyr y Manceinion ol-ddiwydiannol, llwyd, glawog gogleddol – dyma greu darnau o gerddoriaeth ymhlith y prydferthaf erioed; ‘Atmosphere’, ‘Love Will Tear Us Apart’, ‘Shadowplay’, ‘New Dawn Fades’. Felly tra dwi’n chael hi’n anodd cael y geiriau cywir i fynegi yr hyn dwi’n gesio ddweud – dwi’n rhoi ‘Atmosphere’ ymlaen yn y cefndir ar YouTube a dyna fo, mewn cerddoriaeth, fe gaf roi’r gorau i sgwennu’r golofn hon – jest gwrandewch ar ‘Atmosphere’.

Lwcus ydi’r gair. I gael y bwlis a’r acne jest fel roedd Joy Division yn rhyddhau ‘Love Will Tear Us Apart’. Roedd naratif o gysur yn bodoli yn y gerddoriaeth. Achubiaeth. Achub bywyd rhywun go iawn, nid fod rhywun yn son am ddiweddu bywyd ond roedd darganfod naratif a llwybr yn bwysicach na bywyd rhywsut – a hwnna sydd wedi aros hefo rhywun.

O ddydd i ddydd dwi ddim yn gwrando ar Joy Division, peidiwch cam-ddallt mwy na dwi’n gwrando yn ddyddiol ar Datblygu onibai fy mod yn paratoi ar gyfer y sioe radio ar Nos Lun. Y naratif, y mainiffestos sydd wedi aros hefo rhywun. Dyma fy meibl i. Dyma air o gysur rhag tywyllwch y bwystfil di-symud.

Wrth sgwennu rwyf yn osgoi wynebu yr hyn sydd yn amlwg. Trof yr angerdd yn arf yn erbyn unrhyw anobaith.A hynny yn ddyddiol. Dwi ddim mor flin bellach. Tydi mantra Lydon “anger is an energy” prin yn fy nghyffwrdd mwyach. Dwi ddim mor flin. Dwi’n weddol sicr o hynny. Fe newidodd hynny wrth fabwysiadu’r hogia.

Angerdd? Beth yn union ydi angerdd? Yn absenoldeb Ian Curtis a Tony Wilson dwi angen darganfod y bardd sydd yn gallu esbonio hyn i mi. Efallai bod albym newydd ar y gweill gan Datblygu?

No comments:

Post a Comment