Yn Llafar Gwlad, Rhifyn 137, Awst 2017, fe gyhoeddais
erthygl am y gwaith cloddio archaeolegol yng Nghae Mawr ar ochr orllewinol Afon
Saint (Afon Seiont) yng Nghaernarfon. Roedd y diweddar Alun Jones, Felinheli
wedi canfod darnau o lestri pridd Rhufeinig wrth gerdded y cae a fe ysgogodd
waith ymchwil Alun archwiliad pellach o’r cae gan dîm bychan o archaeolegwyr ar
ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (GAT).
Er fod canlyniadau’r archwiliad yn weddol siomedig cafwyd
hyd i fwy o wrthrychau Rhufeinig ond er i ni archwilio tri cae yn gynhrach yn
2017 chafwyd ddim awgrym o unrhyw adeiladwaith Rhufeinig yma.
Yn Rhifyn 140 (Mai 2018) o Lafar Gwlad cyhoeddwyd erthygl
yn dwyn y penawd ‘Porthladd Rhufeinig yng Nghaernarfon?’ a chyfeiriodd yr erthygl
at y caeau o amgylch ‘Castell Bach’ y ffolineb (summerhouse) 18fed ganrif sydd yn perthyn i Stad Coed Alun (Coed
Helen).
Hoffwn ymateb gyda tri pwynt i erthygl Emrys Llywelyn. Yn
gyntaf mae’n weddol sicr y byddai porthladd neu gei Rhufeinig wedi ei leoli
rhywle ar lan Afon Saint yng nghyffiniau Hen Walia. Yn ail mae’n berffaith
bosib fod ‘gwylfan’ Rufeinig wedi ei leoli ar union safle Castell Bach, Yn drydydd,
hyd yma oleiaf, chafwyd ddim olion Rhufeinig yn y caeau o amgylch Castell Bach
er i ni gynnal arolwg geoffisegol o dri cae a chloddio yr unig ‘olion’ bosib ddangoswyd
gan y ‘geophys’.
Croesawaf erthygl Emrys, mae’n bwysig creu diddordeb a
chynnal y drafodaeth. Fe awgrymodd yr archaeolegydd Frances Lynch mewn sgwrs
gyda mi yn ddiweddar y byddai safle Castell Bach yn un delfrydol ar gyfer
gwylfan neu oleudu Rhufeinig. Y broblem fawr gyda profi neu dad-brofi hyn yw
fod y gwaith adeiladu gan stad Coed Alun yng nghanol y 18fed ganrif yn debygol
o fod wedi wedi chwalu unrhyw olion blaenorol.
Mae’n fwriad cyn bo hir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd i wneud archwiliad o amgylch Castell Bach rhag ofn fod unrhyw
wrthrychau Rhufeinig yn cael eu canfod. Rhaid cynnal yr arolwg yma er mwyn
ceisio ychwanegu at ein gwybodaeth o hanes Rhufeinig Caernarfon.
Pan ddatblygwyd y Cei Llechi a Chei Newborough ar ochr
ddwyreiniol Afon Saint (Seiont) yn dilyn Deddfau 1793 / 1809 fe ddefnyddwyd
‘balast’ o longau i codi’r ddau gei. Felly,unwaith eto, os oedd ‘porthladd’ neu
gei Rhufeinig yma, ac os oedd pont Rufeinig fel roedd adroddiadau papurau newydd
ar ddechrau’r 19fed ganrif yn awgrymu byddai popeth wedi ei gladdu neu ei
chwalu wrth i’r diwydiant llechi gyrraedd ei anterth yn ystod y 19fed ganrif.
Go brin fod unrhyw olion ar ôl dan y cei llechi.
Cyfeiriaf ddarllenwyr Llafar Gwlad yn ôl at fy erthygl
(Awst 2017) er mwyn gweld beth yn union oedd canlyniad y gwaith cloddio yn
ardal Castell Bach.
Bryn Celli Wen 2018
Bryn Celi Wen.
Eleni bu Cadw yn cloddio ar safle Bryn Celli Wen, ychydig
i’r de-ddwyrain o siambr gladdu Neolithig Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn. Dyma’r
pedwaredd flwyddyn o gloddio gan Cadw yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu.
Y syniad yn fras yw cael golwg ehangach ar y dirwedd
cynhanesyddol o amgylch Bryn Celli Ddu. Siambr gladdu Neolithig, yn dyddio
oddeutu 3100cyn Crist yw Bryn Celli Ddu. Dyma heneb sydd yn gyfarwydd i’r rhan
fwyaf ohonnom ac yn sicr dyma un o’r siambrau claddu mwyaf trawiadol yng
Nghymru.
Yr hyn sydd ddim mor amlwg, a ddim bob tro yn weledol, yw’r
pethau eraill oedd yn digwydd ar y tir o amgylch Bryn Celli Ddu a hynny am
gyfnod sydd yn ymestyn dros fil o flynyddoedd. Awgrymir dyddiadau radiocarbon
fod carnedd gladdu Oes Efydd ger Bryn Celli yn dyddio oddeutu 1800cyn Crist.
Er fod y garnedd Oes Efydd a siambr Bryn Celli Ddu o
gyfnodau gwahanol a dros mil o flynyddoedd rhyngddynt, yr hyn sydd yn cael ei
awgrymu o astudio’r dirwedd yma yw fod parhad o gladdu ar y darn yma o dir,
parhad o ddefnydd defodol a sanctaidd ar y tir.
Bu gwaith cloddio ger Bryn Celli Wen gan Mark Edmonds a
Julian Thomas o Brifysgol Dewi Sant, Llanbed yn ystod 1990. Unwaith eto roedd
Edmonds a Thomas yn edrych ar y dirwedd gyfan o amgylch Bryn Celli Ddu.
Awgrymir yn eu hadroddiad fod posibilrwydd eu bod wedi
canfod lloc neu glostir sarnau (causewayed
enclosure) ger Bryn Celi Wen. Canfuwyd lestri pridd o’r cyfnod Neolithig ac
awgrym o ffos.
Rhan o amcanion y gwaith eleni gan Cadw oedd agor cloddfa
ger safle cloddio Edmonds a Thomas er mwyn ceisio darganfod mwy o wybodaeth am
y clostir sarong bosib. Yn ne Ynysoedd Prydain oedd y clostiroedd sarnog mwyaf
cyffredin a petae rhywbeth tebyg yma yng ngogledd Cymru byddai’n rhywbeth prin
os and anarferol.
Wrth gloddio eleni, roedd yr archaeolegwyr yn gobeithio
cael hyd i ffos y clostir. Fel arfer mae unrhyw ffos sydd wedi ei dyllu mewn i’r
pridd naturiol yn tueddu i ddangos fel pridd tywyllach wrth gloddio yn ofalus
gyda’r trywal.
Y siom oedd and oedd golwg o unrhyw ffos nac unrhyw awgrym
o glostir sarong. Roedd ein cloddfa ni yn union drws nesa i ffosydd cloddio
Edmonds a Thomas, yn wir roedd yn hawdd gweld llinell derfyn eu ffos o 1990 yn
dangos fel pridd tywyll o ganlyniad iddynt ail-lenwi eu ffos ar ddiwedd y
gwaith cloddio.
Heblaw am ambell ddarn o gallestr, prin iawn oedd y
gwrthrychau a ganfuwyd yn 2018. Ni chafwyd lestri pridd o arddull Peterborough fel gafwyd yn 1990.
Dyma siom unwaith eto. Ond efallai o droi y siom yn rhywbeth
adeiladol – dyma godi cwestwin am ddamcanaiethau ac awgrymiadau y gwaith
cloddio yn 1990. Doedd Edmonds a Thomas ddim yn dargan eu bod wedi darganfod
clostir sarnau yn bendant. Posibilrwydd oedd yn cael ei gynnig ganddynt.
Ofnaf yn fawr iawn fod ein gwaith eleni yn tanseilio eu
damcaniaethau. Roedd digon o archaeolegwyr hynod brofiadol ar y safle eleni – a
phob un o’r farn nad oedd unrhywbeth yn ymdebygu i glostir sarnog wedi dod i’r
golwg.
Y dystiolaeth sydd yn gorfod arwain nid beth fydda ni yn
hoffi ei ddarganfod. Felly gyda ‘olion’ Rhyfeinig ger Castell Bach yng
Nghaernarfon a gyda clostir sarnog Bryn Cell Wen tydi’r dystiolaeth diweddar
ddim wedi bod yn gadarnhaol. Efallai fod angen mymryn bach o bwyll cyn gwneud
datganiadau rhy gadarn, maes digon ansicr yw archaeoleg wedi’r cyfan.
No comments:
Post a Comment