Friday 23 February 2018

Laura Ashley, Herald Gymraeg 21 Chwefror 2018



Paul Simenon, Viv Albertine, Tessa Slits

Tyfu fyny yn Sir Drefaldwyn, Llanfair Caereinion, roedd ‘Laura Ashley’ yn enw cyfarwydd. Dyna lle roedd mamau cymaint o fy nghyfoedion ysgol yn gweithio. Dal y bws i Garno yn ddyddiol, “gweithio yn Ffatri Laura Ashely”. Nid bod ni (cyn ein harddegau) unrhyw gallach beth oedd ffasiwn a gwisgoedd Laura Ashely. Does dim disgwyl i hogia 10 oed fod a diddordeb yn y fath bethau Jest gwybod fod cymaint yn gweithio yn ‘Ffatri Laura Ashely’ oedda ni

Carreg Gristnogol Cynnar Carno


Doedd dim angen gwybod mwy. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach wrth sgwennu un o fy nghyfrolau ar archaeoleg Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch (Cam Arall i’r Gorffennol, Safleoedd archaeolegol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau, 2016) dyma fentro crybwyll, na - llwyddo ddyliwn i ddweud, i gyfeirio at Laura Ashley.

Ym mynwent Carno mae ei charreg fedd (1925-1985). Ysgrifennais yn y llyfr am y garreg fedd hynod o’r 7fed neu’r 8fed ganrif sydd i’w chanfod oddifewn i Eglwys Ioan Fedyddiwr. Carreg sydd yn rhyfeddol am y ffaith fod y gylch-groes wedi ei greu drwy bynshio tyllau i siap y groes a’r cylch amgylchol – gallwlch weld y tyllau unigol wedi eu cnocio er mwyn creu y siap cyfan.

Dyma sgwennais am Garno / Laura Ashley yn y gyfrol:

“O ddiddordeb hefyd, ym mynwent Eglwys Ioan Fedyddiwr, mae carreg fedd yr arloeswraig a chynllunydd dillad, Laura Ashley (1925-1985). Gwelwn lle roedd gweithfeydd Laura Ashley yma yng Ngharno ar hyd yr A470 wrth deithio am y gogledd. Un o fy hoff storiau Laura Ashley yw fod ei merch hynaf, Jane, yn astudio yn Ysgol Gelf Chelsea yn y 1970au ac yno daeth i adnabod aelodau o’r grwp punk The Clash a Viv Albertine o’r Slits. Bu Jane yn gyfrifol am ddelwedd Laura Ashley yn ystod y 1970au hwyr a’r 1980au a fel ffotograffydd perswadiodd Viv i fodelu gwisgoedd Laura Ashley tra’n sefyll hefo Mick Jones a Paul Simenon o’r Clash yn eu dillad rock’n roll. Rhaid fod y pyncs ifanc yn brin o bres a does dim rhaid dweud na fu defnydd helaeth o’r delweddau rhag dychryn cwsmeriaid arferol Laura Ashley”.





Clash a Slits yn modelu Laura Ashley

Y pwynt roeddwn am ei wneud yma yw fod yn bwysig cadw golwg ar y ‘darlun mawr’, y dirwedd ddiwyliannol ehangach – fod y garreg fedd 7fed-8fed ganrif yn bwysig heb os, ond fod hefyd angen cadw golwg ar y cyd-destun lleol. Carno = Laura Ashley. Neu, dyna fydda ni gyd wedi ddweud yn yr ysgol gynradd.



Rhan o fy ngwaith yw arwain teithiau tywys. Ar ein ffordd am Gastell Dolforwyn yn ddiweddar gyda fy nghyd-weithwyr Sian Robers a Mandy Whithead rhaid oedd taro mewn i weld y garreg fedd hynafol a charreg fedd Laura Ashley wrth i ni deithio drwy Garno ar ein ffordd am Abermiwl. Tydi’r eglwys ddim bob amser ar agor felly bachwch unrhyw gyfle mae’r arwydd ‘Ar Agor’ ger fynedfa’r fynwent.

Amhosib fydda i mi yrru heibio a’r eglwys ar agor. Rhyfeddol yw’r unig ddisgrifiad o’r garreg fedd 7fed-8fed ganrif. Does dim modd rhyfeddu arni yn rhy aml. Felly hefyd gyda carreg fedd Laura – does dim o’i le a chydnabod a tharo parch i Laura os oes cyfle.


Ganed Laura ym Merthyr – pwy fydda wedi meddwl – hogan o’r Cymoedd. Ym mhen pella’r amgueddfa yng Nghastell Cyfarthfa, bron a bod wedi ei guddio gan wisgoedd Julien Mcdonald (hogyn o Gyfarthfa) mae dwy ffrog Laura Ashley. Gwaith am ‘llusgodd’ i Gyfarthfa, a hynny heb owns o wrthwynebiad. Cafwyd taith dywys o’r amgueddfa gan un o’r swyddogion ac er fy mod i yn gyfrifol am griw ar daith o dde Cymru dyma oedd fy nghyfle i ddianc am 5 munud a chael syllu ar wisgoedd Laura Ashley, ben fy hyn, mewn llonydd – tra roedd pawb arall yn cael eu twywys o amgylch hanes y Crawshays.

Y noson honno roeddwn i a’r criw yn aros yn Neuadd Llangoed, Llyswen ger Aberhonddu. Pan brynwyd yr adfail gan Bernad Ashley (gwr Laura) ym 1987, cyfeirwyd at y neuadd fel ‘Castell Hengoed’ ond adeilad Jacobeaidd 17eg ganrif oedd yma yn wreiddiol.

Ail-gynllunwyd y neuadd gan Clough Williams-Ellis yn 1912. Dyma gomiswin cyntaf Clough o unrhyw sylwedd – yn bell cyn iddo ddychmygu Portmeirion. Yng nghoridor y llawr cyntaf mae cynlluniau pensaerniol Clough i’w gweld wedi eu fframio ar hyd y waliau.






Yn uchel ar yr ail lawr mae ffram yn cynnwys dilledyn cyntaf Laura Ashley. Gwaith hogan ysgol? Amrwd a ru’n blodyn mewn golwg. Gwelir ‘safetypin’ yn dal rhan o’r ffedog at ei gilydd. Gwych. Amrwd. D.I.Y. Ond pwysig. Pwysig iawn.

Dyma ddechrau’r broses. Dechrau’r diddordeb efallai? Pwy sydd yn creu perffeithrwydd ar yr ymdrech gyntaf? Rhaid dysgu a gwneud cangymeriadau lu – dyna’r broses.




Bydd darllewnwyr yr Herald Gymraeg yn hen gyfarwydd a’r bregeth. Fod angen cynnwys holl agweddau diwylliannol Cymru, yr holl elfennau creadigol a ieithyddol os am weld y darlun llawn. Does dim modd osgoi Laura Ashley felly, nid ym Merthyr, nid yng Ngharno a nid yn Neuadd Llangoed (er ei chysgod a dylanwad yn unig sydd yn Llangoed – roedd hi wedi ein gadael cyn i Bernard brynnu’r safle).

Fel ‘punk’ yn ei arddegau yn Llanfair Caereinion ddychmygais i rioed bydda fy ‘arwyr’ Mick a Paul o’r Clash a fy pin-up Viv Albertine o’r Slits yn cael eu cynnwys mewn llyfr ar archaeoleg mewn pennod am Garno a Laura Ashley acharreg fedd o’r 7fed-8fed ganrif. Dyma fi, heddiw, wrth fy ngwaith yn METHU osgoi Laura Ashley.



No comments:

Post a Comment