‘The Brexit people voted for’, ydi’r ystrydeb ddiweddaraf i
gael ei chwydu allan gan yr arch-Brexiteers er fod pawb yn ei iawn bwyll yn
gywbod yn iawn fod y bleidlais dros adael yr UE wedi bod yn un aml-reswm a
chymleth iawn. Mewnfudwyr oedd yn poeni gormod o’r boblogaeth a bleidleisiodd
dros adael ond byddai eraill yn dadlau fod nhw isho gweld mwy o arian yn mynd
i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Doedd na rioed un Brexit.
Cawsom ‘Brexit means Brexit’, ‘Red, White and Blue Brexit’
a wedyn ‘Jobs First Brexit’. Malu awyr llwyr. Golygu dim. A’i oes yr ystradebau
(hawdd / rhy hawdd) yw hi felly? Oes hyn a hyn o eiriau ar Trydar a dyna ni.
Popeth yn syml. Dim brawddegau rhy hir.
Pwy fydda wedi dychmygu? Dyma ni yn gwrando ar areithiau
diweddar John Major a Tony Blair a beth bynnag rydym yn ei feddwl am
safbwyntiau a pholisiau Major a Blair yn y gorffennol (a mae digonedd o bethau
i’w anghytuno a nhw) rhaid cyfaddef fod y ddau wedi mynegi pryderon ddigon
pwyllog, call a rhesymol am effeithiau bosib Brexit.
Iawn ein bod yn cytuno /anghytuno a gwleidyddion – dyna ydi
gwelidyddiaeth. Iawn ein bod yn dadlau. Iawn ein bod yn trafod. Welais i rioed
gymaint o ddadlau yn erbyn dadlau na sydd yn dod o geg y Brexiteers. ‘You lost
– get over it’, ‘Let’s just get on with it’. Chwerthinllyd onibai fod eu
dadleuon mor ddifrifol wrth-ddemocratig (ond tydi’r eironi yna byth yn mynd i
fod yn amlwg iddynt).
Does dim ond rhaid gwylio BBC Question Time yn wythnosol i
glywed yr ystradebau yn llifo gan bobl yn gweiddi yn fochgoch - ond peidiwch a
galw nhw’n hurt. Hurt bost yn agosach ati. Mae’r ddadl bellach wedi troi yn
ddadl dros beidio cael dadl o gwbl. Tydi’r Senedd ddim hyd yn oed i ddadlau yn
ôl rhai o’r mwyaf bochgoch.’jest get on with it’.
Yn amlwg mae pob cell yn fy nghorff yn gwrthwynebu ffolineb
Brexit ond mae’r ffaith fod cymaint bellach ‘wedi diflasu’ hefo’r holl drafod
am Brexit yn dangos yn glir pa mor bell rydym yn llithro lawr llwybr
diniweidrwydd gwleidyddol – a mae hyn yn frawychus. Tydi Brexit heb ddigwydd
eto. Dyna oedd pwynt Major – roedd pleidlais dros adael heb wybod lle roedd y
pwynt cyrraedd.
Dychmygwch ysgariad. Cytuno i ysgaru. Dechrau gweiddi –
‘Jest get on with it’, ond mae angen datrus pethau yn gyfreithiol, mae angen
delio gyda’r tŷ, yr eiddo, y plant. ‘Jest get on with it’. ‘You lost’. Fydda
neb yn gweld hyn yn rhesymol nac yn effeithiol go iawn er gwaetha y drama bosib
o ysgaru. Er mai’r cyfreithwyr sydd yn ennill ‘go iawn’ fel mae nhw’n dweud –
anodd datgymalu heb ddelio a’r materion cyfreithiol – pam fod hynny mor anodd
i’w weld yng nghyd destun Brexit? (Heblaw wrthgwrs fod Davies, Fox, Gove a
Boris wedi dweud byd pethau yn hawdd – na phoener)
Felly oedd hi ar ‘Pawb a’i Farn’ yn ddiweddar ar S4C. Dyma
chi raglen dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle i fod ar y panel ond mewn gwirionedd
byth yn fwynhau. Tydi’r gwleidyddion ar y panel byth yn datgelu gormod, gwell
iddynt beidio. Y tro yma gofynwyd gwestiwn am brinder nyrsys a rhaid oedd ateb
drwy ddweud fod Brexit yn cael effaith yn barod o ran prinder nyrsyr yn enwedig
o’r Undeb Ewropeaidd.
Do fe gafwyd gymeradwyaeth gan rai, ond mynegwyd diflastod
gan eraill ein bod yn dal i drafod Brexit, yn enwedig felly gan ‘trols’ Twitter.
Bron a bod fod rhywun yn gwylltio cymaint am hyn a mae rhywun yn anghytuno a
Brexit ei hyn. Tydi’r ddadl ddim drosodd. A hynny o bell ffordd.
Dim ond Dydd Gwener dwetha cafwyd araith May yn amlinellu
yn fras ei gweledigaeth ar gyfer Brexit. Beth bynnag eich barn – roedd angen
gwrando ar May er mwyn cael y cyfle i weld sut mae’r ddadl a’r dadleuon am
ddatblygu dros y misoedd nesa.
Bron a bod (a mae hyn yn ddewud mawr) ond bron a bod fod
gan rhywun biti dros May. Digon o waith fod Corbyn yn dymuno gwisgo ei sgidiau
hi ar y foment yma achos mae hi mewn lle anodd iawn. Yn gyntaf (fel sydd wedi
bod mor amlwg erioed gyda Brexit) rhaid i May rhywsut neu’i gilydd uno’r farn o
fewn y Ceidwadwyr. Dyma rhywbeth roeddwn yn ddadlau hefo’r Ceidwadwr Aled
Davies a’r Pawb a’i Farn.
Yn ail, rhaid darbwyllo’r Undeb Ewropeaidd fod modd dod i
gytundeb a chyfaddawd – anodd gwybod pa mor agos yda ni i’r lan ar ôl araith
may dydd Gwener. Do fe awgrymodd May y bydd rhai pethau yn ‘wahanol’ os bydd
Prydain yn gadael y Farchnad Sengl. Dyma y tro cyntaf dwi’n credu i ni glywed
hyn gan y Llywodraeth yn hytrach na rhai fel Soubry. Beth oedd May yn ddweud go
iawn yw fod yn berffaitrh bosib bydd rhai sectorau a rhai ohonnom mewn sefyllfa
gwaeth tu allan i’r Farchnad Sengl.
Ar ddiwedd yr araith gofynwyd i May os oedd yr holl fusnas
Brexit yma werth y drafferth? Chwerthodd May a wedyn ateb nad oedd gan y
Llywodraeth ddewis ond ymateb i ganlyniadau’r refferendwm. Pleidleisio dros
aros wnaeth May. Roedd y wen yn adrodd cyfrolau. Pa wleidydd, nid Corbyn hyd
yma yn sicr, sydd yn mynd i wynebu’r wlad a chyfaddef fod yr holl beth yn
gangymeriad anferth.
Efallai ar ddiwedd yr holl broses o drafod gyda’r UE bydd
pethau yn gliriach. Bydd y canlyniadau o adael yn fwy amlwg. Y manteision (oes
rhai?) yn amlwg. Rwyf yn byw mewn gobaith bydd pawb yn callio.
Helo, dwi'n dod o UDA, rwyf am rannu'r dystiolaeth wych hon am sut y helpodd Dr.Agbazara i mi ddod â'm cyn-gariad yn ôl, Yn ystod fy chwilio am ateb, daeth i gysylltiad â manylion Dr.Agbazara a thrwy ei help, daeth fy nghariad yn ôl i fi o fewn 48 awr. Felly, gyda'r rhain, rydw i mor falch i roi gwybod i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd i ddod yno gariad i gysylltu â Dr.Agbazara ar WhatsApp: { +2348104102662 } neu drwy e-bost at: { agbazara@gmail.com } Rwyf mor hapus o leiaf fy hun ac mae fy nghariad yn ôl i'w gilydd eto ac yn mynd i wario dathliad y Flwyddyn Newydd gyda'i gilydd Diolch i Dr.Agbazara unwaith eto ....
ReplyDelete