Lluniau drwy garedigrwydd Dan Amor
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Cors Ddyga’ medda nhw, Malltraeth Marsh yn Saesneg OND mae
dau le gwahanol neu dwy gors – Cors Ddyga i’r dwyrain o Afon Fawr (Aber Cefni) a
Chors Malltraeth i’r gorllewin o Malltraeth ac yn ymestyn bron hyd at
Llangefni. Llygredd o’r enw Tygai sef y sant 6ed ganrif yw ‘Ddyga’ – Cors Tygai
yw hwn go iawn felly?
Ar y cyd a’r RSPB roedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd wedi trefnu diwrnod i glirio o amgylch ffermdy a beudy Glofa Berw yng
Nghors Ddyga. Anodd dweud beth yn union oedd perthynas y ffermdy a’r gwaith glo
drws nesa ond mae’r adeiladau o’r un cyfnod (hanner cyntaf y 19eg ganrif ar
gyfer yr adeiladu glofaol).
Ein gwaith ni fel criw o archaeolegwyr ar y diwrnod oedd
clirio dipyn o’r llysdyfiant a mieri tu allan i’r bwthyn a’r beudy a wedyn
dechrau taclo’r tyfiant tu mewn i’r adeiladau. Wrth gyrraedd yn y bore
dychmygais bod mwy na diwrnod o waith o’n blaenau ond erbyn amser cinio roedd
rhywun yn dechrau gweld effaith ein hymdrechion.
Gan fod cymaint o’r tyfiant yn fieri mwyar duon, roedd
talpiau yn llusgo gyda’u gilydd wrth i rhywun dorri eu gwaelodion a’r cribyn
oedd ein ffrind gorau gan fod cribinio yn caniatau rhywun lusgo darnau
sylweddol o’r mieri o’r neulltu yn weddol hawdd.
Y bwriad o ran yr RSPB (sydd yn rheoli’r safle) yw gwneud y
safle yn fwy atyniadol ar gyfer ymwelwyr. Ymwelwyr yn y cyd-destun yma yw, unai
pobl a diddordeb mewn archaeoleg diwydiannol neu yn fwy tebygol pobl yn reidio
beics ar hyd y llwybr beicio am Langefni ac efallai am aros yma i gael seibiant
neu bicnic neu wrthgwrs, ac efallai yn fwy amlwg, gwylwyr adar yn ymweld a
Chors Ddyga.
Peth da yw gweld yr RSPB yn cydweithio a Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd. Dyma ni yr amgylchedd natur a’r hanesyddol yn cerdded
llaw yn llaw. Felly ddylia hi fod – does na ddim un yn well na’r llall, ddim un
ar draul y llall – dyma’r darlun llawn. Does dim i rwystro’r unigolyn rhag
ymddiddori mewn natur ac archaeoleg, adar a hen simdde glofaol.
Bu gweithio glo yn ardal Pentre Berw a Llanfihangel
Ysceifiog ar ddechrau’r 19eg ganrif a Glofa Berw yw’r unig un ac adeiladau sydd
yn dal i sefyll – y simdde a’r adeilad gefail. Fel soniais uchod – dim ond rhyw
50 medr os hynny sydd rhwng y simdde a’r efail a’r ffermdy – a mae rhywun yn
amlwg angen deall yn well beth oedd y berthynas rhyngddynt.
Dyma waith i rhywun yn Archifdy Môn onibai fod rhywun wedi
gwneud y gwaith yn barod? Deallais fod rhywun wedi byw yn y bwthyn hyd at y
1980au. Erbyn heddiw mae’n adfail go iawn ac yn edrych fel petae wedi bod yn
adfail ers canrif yn hytrach na 30-40 mlynedd ond dyna fo, munud mae’r to wedi
disgyn buan iawn mae tŷ yn mynd iddi.
Gwaith ymchwill gwerthfawr felly fyddai recordio sgwrs hefo
unrhywun sydd yn cofio’r bwthyn mewn defnydd neu yn well byth os oes unrhyw
aelod o’r teulu dal yn fyw. Oes hen luniau ar gael tybed?
Syndod arall (o fath) yw pa mor sydun mae coed yn tyfu tu
mewn i adfail, neu drwy’r to neu drwy’r waliau, felly joban arall oedd llifio
rhai o’r man goediach o du fewn yr adeiladau. Eto, canlyniad y gwaith fydd
caniatau i ymwelwyr grwydro o amgylch y safle yn haws a chael cyfle i
werthfawrogi’r adeiladau.
Un o’r nodweddion adeiladol oedd yn drawiadol oedd y bwa
uwch ddrws y sied drol neu sied y drol wair. Bwa sylweddol fel petae yn nofio
ar awyr iach – er fod rhywun yn gwybod go iawn fod bwa yn cloi wrth ei gilydd
ac o ganlyniad yn sefyll yn gadarn. Diolch i’r Rhufeiniaid – y nhw gyflwynodd y
bwa i ni yma yng Nghymru mae’n debyg.
Os am wybodaeth pellach (mwy manwl) mae adroddiad 2001 Dr
Dafydd Gwyn ‘Anglesey Coal Mines Archaeological Assesment’ Report No 408 ar
gael ar safle we Archwilio.
Anodd ar hyn o bryd yw gweld gweddillion adeilad yr efail
gan fod tyfiant a mieri drosto. Cytunwyd y byddai hwn yn brosiect bach da ar
gyfer diwrnod arall a byddai clirio darn o’r efail eto yn caniatau i’r ymwelydd
gael gwell dealltwriaeth o’r safle yn ei gyfanrwydd.
Dŵr mae’n debyg oedd y broblem fawr yn y pyllau glo gan fod
y tir yma mor isel. Cyn adeiladu Cob Malltraeth roedd y ‘gors’ o dan y llanw
wrth i’r mor lifo cyn belled a Llangefni wrth i’r llanw ddod i fewn. Caniataodd
y Cob gyfle ar gyfer arall-gyfeirio o ran defnydd o’r tir a dyma ddechrau
chwilio am lo. Doedd y glo ddim cystal ansawdd a glo y de a’r dwyrain ac
efallai mai dyma pam nad oes neb bellach yn cysylltu Ynys Môn a gweithio glo?
Darn bach o hanes sydd wedi ei anghofio sydd yma ym Mhentre
Berw. Hanes bach diddorol a mae’r simdde sydd yn dal i sefyll, ac yn werth ei
weld, yn dyst i’r ffaith fod injan stem wedi cael ei leoli yma ar un adeg
gyda’r bwrid o bwmpio’r dwr o’r dyfnderoedd. Rhaid bod y dwr yn rhywstr
anferthol o ran datblygu’r gwaith.
Un stori drist ar adroddiad Glofa Berw ar safle Archwilio
yw fod iawndal wedi ei dalu i weddwon
gweithwyr glo a gollwyd yma yn 1844. Dyna chi stori arall angof ond pwysig.
Ewch am dro i Gors Ddyga – ddigon hawdd parcio a llwybrau cyfagos er fod angen
sgidiau cerdded.
No comments:
Post a Comment