Dychmygaf nad oes fawr gwaeth i glustiau’r Cymry na chlywed
rhywun gyda ‘tatan yn ei geg’ yn cam ynganu enwau llefydd, yr union lefydd
hynny yn ein broydd sydd mor agos at ein calonau. Wel, dyna chi rhywbeth rwyf
yn gorfod ei ddioddef bron yn ddyddiol yn maes archaeoleg yng Nghymru.
Cofiaf fy hyn yn fyfyriwr ifanc a diniwed 18oed yn astudio
cwrs gradd archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd rhwng 1980 a 1983 ac yn
gorfod dioddef gwrando ar ddarlithydd yn cyfeirio at Gastell Odo ger Aberdaron
fel “Castle Ewdew” a hynny dro ar ôl tro ar ôl tro.
Castell Odo oedd un o’r safleoedd pwysig hynny oedd yn y
gwerslyfrau oherwydd y ffaith fod y
cyfnod o ddefnydd o’r safle yn pontio’r Oes Efydd Hwyr a’r Oes Haeran cynnar.
Cloddiwyd y safle gan yr Athro Leslie Alcock ac awgrymodd ei ganlyniadau fod
yma ddefnydd hir o’r safle cylchfur dwbl (dau glawdd o amgylch y gaer).
Dim ond yn Llŷn mae’r safleoedd cylchfur dwbl yma i’w cael
mewn gwirionedd yng ngogledd Cymru. Arddull o godi bryngaerau wedi ei neilltuo i
ardal ddaearyddol gyfyngiedig iawn – pen orllewinol penrhyn Llŷn i bob pwrpas.
Yn amlwg, doedd y ‘Rhys 18 oed’ ddim am godi ar ei draed
mewn darlithfa a chywirio Athro o Brifysgol Cymru, dim ond eistedd yna yn
chwerthin yn ddistaw nes i mewn gwirionedd. Doedd neb arall yn fy mlwyddyn i yn
siarad Cymraeg, doedd yna neb arall yn sylwi – i bawb arall roedd “Ewdew” yn
enw Cymraeg cywir siwr o fod.
Ella y dyliwn i fod wedi dweud “look with all due respect, you
need to get your facts and dates correct, but you also need to get your Welsh
pronounciation correct as well”. Dyna sut roeddwn yn teimlo.
Bellach, rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol am archaeoleg Cymru
drwy Gwasg Carreg Gwalch a wedi cyffwrdd a’r ddadl gyfarwydd hon sawl gwaith
wrth sgwennu’r cyfrolau. Os yw’r archaeolegwyr a chymaint o ddiddordeb yng Ngymru
sut nad ydynt yn dysgu’r iaith? Cwestiwn da a phwysig.
Parhau mae’r tatenau mewn ceg, rhai yn waeth na’i gilydd.
Bellach mae Odo yn “Odow” sydd fymryn (ond dim ond mymryn) llai poenus i’r
glust. Yn anffodus i’r archaeolegwyr mae safle arall cylchfur dwbl cyfagos i
Gastell Odo o’r enw Meillionydd yn cael ei gloddio ar hyn o bryd gan Brifysgol
Bangor. A’r pa bwynt mae cam-ynganu yn dangos diffyg parch at y lle, at yr
iaith? Cwestiwn.
Does dim dwy waith fy mod yn teimlo fel llais unig Cymraeg
yn y byd archaeolegol. Nid fi yw’r unig archaeolegydd Cymraeg ei iaith o bell
ffordd, ond does dim hanner digon ohonnom. Does dim digon ohonnom i sicrhau fod
cyfarfodydd a darlithoedd cyhoeddus angen bod yn ddwy-ieithog.
Wrth gyfeirio at ‘ddiddordeb y di-Gymraeg’ yn ein
archaeoleg, hanes, gwlad, tirwedd cyfeiriaf yn aml mai teledu du a gwyn sydd
ganddynt yn hytrach na theledu lliw HD. Dim ond rhan o’r darlun mae nhw yn
gallu ei weld heb yr iaith. Felly pam ddim dysgu Cymraeg? Cwestiwn.
Ond, wrth awgrymu hyn yn ‘garedig’ rhaid hefyd atgoffa’r
Cymry Cymraeg sydd yn cael pwl o chwerthin hunnan gyfiawn wrth i mi ddweud
pethau fel hyn yn gyhoeddus – mae’n rhaid I ni fod yno, yn ymwneud a’r maes –
nid cwyno am “Saeson” ac “Edward Iaf “eto ac eto.
Bydd unrhywun sydd wedi darllen fy ngholofnau yn Llafar
Gwlad, yr Herald Gymnraeg neu’r ddwy gyfrol Carreg Gwalch yn gyfarwydd a’r
bregeth. Ond tydi’r bregeth ddim yn agos at ddiweddglo.
Yn ddiweddar mynychais daith gerdded wedi ei threfnu gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd â Chastell Dolbadarn gyda’r archaeolegydd
Spencer Smith yn ein tywys. Spencer yw’r archaeolegydd sydd wedi gwneud cymaint
o waith yn ddiweddar yn astudio parciau hela a gerddi canol oesoedd. Spencer
sydd hefyd wedi gwneud gawith diweddar ar Sycharth, cartref Glyndŵr ger
Llangedwyn. Ail edrych ar waith cloddio Hague (1966) yn Sycharth yn y 60au
wnaeth Spencer gan daflu llawer mwy o oleuni ar gynllun a’r arferion dydd i
ddydd yn Sycharth. Gwaith pwysig.
Wrth ein tywys o amgylch Castell Dolbadarn mae’n amlwg fod
Spencer yn edrych ar ddefnydd a statws y castell Cymreig yma yn hytrach na’r
nodweddion archaeolegol arefrol. Hynny yw, yn amlwg, mae Spencer yn dangos sut
mae’r muriau yn cysylltu, pa dwll sydd yn ddrws, yn ffenestr, yn le tân neu yn
doiled garderobe.
Yr hyn gafodd ei amlygu go iawn gan Spencer oedd fod
Dolbadarn yn gastell ar gyfer brenin. Y ‘brenin’ oedd Llywelyn ab Iorwerth i
ddechrau a wedyn Llywelyn ap Gruffudd yn ddiweddarach. Tywysogion Gwynedd mewn geiriau
arall, a Llywelyn Fawr rhywbryd rhwng 1220-1230 oedd yn gyfrifol am godi’r
castell hynod hwn wedi ei fodelu ar dwr crwn (gorthwr) Wakefield yn Nhwr
Llundain yn ôl Spencer.
Yn ‘draddodiadol’ rydym wedi cyfeirio at y twr crwn yn
Nolbadarn fel un tebyg i’r tyrrau crwn ar hyd y Mers, cestyll fel Bronllys neu gastell Tretŵr. Rwyf wedi awgrymu fod twr hynod William Marshall yng Nghastell Penfro
wedi gosod y ‘blueprint’ os mynnwch
ond mae Spencer yn argyhoeddedig mai Twr Wakefield yw’r tebygaf o ran arddull
pensaerniol i Gastell Dolbadarn.
Os felly byddai Llywelyn Fawr wedi ymateb yn gynnar iawn
i’r datblygiadau gan Harri III yn Nhwr Llundain. Fel arfer mae haneswyr yn
cyfeirio at gyfnodau o ail-adeiladu ac addasu yn Nhwr Llundain o 1217-1227 a
wedyn o 1238 ymlaen. Byddai angen sicrwydd pryd cychwynwyd y gwaith o godi twr
Wakefield os yw damcaniaethau Spencer yn gywir.
Os yw Wakefield yn dyddio o’r cyfnod 1238 ymlaen, byddai’r
gwaith adeiladu wedi hen ddechrau yn Nolbadarn. Os felly mae sawl cwestiwn – a
yw’r gorthwr crwn yn Nolbadarn yn hwyrach na chyfnod cychwynol y castell a’r
cysylltfur allannol? Oes dau cyfnod o adeiladu yn Nolbadarn?
Ydi Spencer yn anghywir, os yw Wakefield yn adeilad o 1238
ymlaen?
Beth bynnag yw’r gwirionedd yma mae Spencer wedi codi
cwestiynau a wedi dangos fod angen i ni edrych ar Gastell Dobadarn hefo llygaid
llawer mwy agored na sydd wedi bod mewn defnydd hyd hyn.
Dangosoidd Spencer fod gan Siwan ystafell a gardd ei hyn,
arwahan i ystafelloedd y brenin yn y twr crwn. Siwan wrthgwrs oedd merch Brenin
John a gwraig Llywelyn Fawr, ffaith sydd yn amlygu beth oedd union statws
tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif.
Felly mae Castell Dolbadarn yn llawer llawer pwysicach na
rydyn wedi sylweddoli. Dim ond 20 oedd yn cael mynychu’r daith gerdded. Roedd
Cymry Cymraeg yn eu plith ond doedd hon ddim yn sgwrs ddwy-ieithog. Nid
beirniadaeth ar Spoenbcer yw hyn ond adlewyrchiad o sefyllfa gyffredinol o ran
archaeoleg yng Nghymru sydd angen ei newid.
Llyfryddiaeth:
Hague, D, B, Warhurst, C., 1966, ‘Excavations at Sycharth
Castle, Denbighshire, 1962-63’ Archaeologia
Cambrensis Vol CXV tt 108-127
Smith, G, S., 2014, ‘Excavations at Sycharth Castle 50
Years On’ medievalparksgardensanddesignedlandscapes.wordpress.com
Smith, G,S., 2003, ‘Report on the Geophysical and Historical
Survey at Sycharth Motte and Bailey’, Transactions of the Denbighshire Historical Society, Vol 52.
Smith, G,S., Recent research on Parks, gardens and Designed Landscapes of Medieval
North Wales and the Shropshire Marches, PDF ar lein
No comments:
Post a Comment