Thursday 25 January 2018

Podlediadau, Herald Gymraeg 24 Ionawr 2018


Potter a Mwyn (@ Caer Digoll)


09.02.18 fydd Dydd Miwsig Cymru. Yr is-bennawd yn Saesneg yw ‘Welsh Language Music Day’. Cynllun yn deillio yn rhywle ym mherfeddion Llywodraeth Cymru yw hwn gyda’r bwriad o roi sylw ar ddiwrnod penodol i gerddoriaeth sydd yn cael ei berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rwan, bu cryn drafodaeth rhyw ben llynedd (dim byd i’w wneud a Dydd Miwsig Cymru) ar Trydar fod ‘cerddoriaeth Gymraeg’ ddim yn ffurf (genre) o gerddoriaeth o ran y diffiniad. Y darn Cymraeg yw’r iaith ond y ffurf cerddorol yw jazz neu blues neu roc neu clasurol – dau beth hollol arwahan. Trafodaeth sydd yn arwain at mwy o drafod – beth felly yw darn o gerddoriaeth offerynnol gyda teitl Cymraeg ond dim gair o Gymraeg yn cael ei adrodd neu ganu?

Engraifft da o hyn yw cân gan Llwybr Llaethog ar un o’u recordiau sengl cynnar o’r enw ‘Malu Cachu’ ond heblaw am y cyflwyniad ‘peidiwch a malu cachu’ does dim gair arall o Gymraeg ar y record hon. Trafodwyd hyn gan Emyr Glyn Williams yn ei erthygl am ‘Y Naid’ yng nghylchgrawn O’r Pedwar Gwynt yn ddiweddar fel arwydd o aeddfedrwydd fod modd cael caneuon offerynnol Cymraeg.

Gadewch i mi fod yn hollol glir. Llynedd dwi’n credu i mi ddatgan y dylid fod pob diwrnod yn ddiwrnod miwsig Cymru – a dyna fyddwn yn ei ddweud ddoe, heddiw ac yfory. Ond, dwi’n dallt yn iawn y gwerth cael ‘diwrnod penodol’ er mwyn denu sylw. Lle bydd hyn yn gweithio yn dda fydd mewn ysgolion led led Cymru.

Does dim dwy waith fod unrhyw ‘esgus’ i hyrwyddo’r Gymraeg a cherddoriaeth gyda’r canu yn y Gymraeg yn bwysig, yn wir yn hanfodol – dychmygwch y sefyllfa mewn ysgol gynradd yn Bagyllt neu Chrughywel – gwych o beth yw cael diwrnod lle mae’r plantos yn cael dawnsio o amgylch y neuadd i gyfeiliant Candelas neu Adwaith. Dechrau’r daith yw hyn !

Felly hefyd gyda’r cyfryngau Saesneg eu hiaith yng Nghymru – ‘take note folks the Welsh language is cool’ – dwi ddim yn amau fod angen rhoi procar dan eu seddau o bryd i’w gilydd. Gwneud y Gymraeg yn rhan o fywyd a phorofiad dydd i ddydd pob dinesydd yng Nghymru yw’r nod ynde.

Dewis yw’r peth arall pwysig. Rhaid cael yr amrywiaeth o ran y ‘ffurf’. Does dim modd cwyno am hynny bellach. Os da chi isho ‘jazz’ yn y Gymraeg gwrandewch ar Burum neu ail-ddarganfyddwch Lleuwen. O ran y bands ifanc mae popeth yna, o ffeministiaieth amgen Adwaith i pop pur Yws Gwynedd, Swnami a Candelas. Mae modelau rol ar gyfer y merched ifanc yn Alys Williams, Serol Serol, Cadno, Heledd HMS Morris heb anghofio Ani Glass a Gwenno. Ac os di rhywun chydig bach mwy gwrthryfelgar mae Pasta Hull a’r Ffug (ac Adwaith unwaith eto) yno i gynhyrfu’r porfeydd glas-welltog braf Cymraeg.

A beth am bobl oed ni? Wel a finnau’n 55oed, dwi yn ystyried fy hyn yn ffan o Adwaith ac Ani Glass ond os dwi isho eistedd lawr gyda’r nos a hel atgofion am ddatblygiad y Byd Pop Cymraeg dros yr hanner canrif ddwethaf – o’r Blew (1967) i Adwaith (2018) dwi’n gallu troi at bodlediad diweddaraf Gareth Potter ‘Yma o Hyd #1 Newid y Gem’, (Mixcloud).

Un da di Potter, ddim yn fodlon hefo hyrwyddo’r Gymraeg yn unig mae ei bodlediad ar gael yn y Saesneg fel ‘We Are Here #1 Welsh Game Changers’. Dyma fodd i’r di-Gymraeg gael blas, aperitif, gafael dwylo cyn y naid – a darganfod y perlau pop o’r Trwynau Coch i Llwybr Llaethog.

A dweud y gwir mae podlediad Potter fel radio amgen Cymraeg – tiwns da gallwch gael ymlaen yn y cefndir hyd yn oed - tra yn goginio, glanhau’r tŷ, ymlacio, paratoi i fynd allan.

Ani Glass a Lisa Gwilym

Os am eistedd a gwrando yn astud (er fod modd gwneud hynny i Potter hefyd wrth reswm) mae podlediadau Llwyd Owen ‘Does dim gair Cymraeg am RANDOM’ (Soundcloud) yn addas. Hyd yma mae Llwyd Owen (awdur nofelau gwych fel Taffia) wedi sgwrsio hefo’r cantorion Carwyn Ellis (Colorama) ac Ani Glass.

‘Ar hap’ fydda’r gair Cymraeg am random mae’n debyg ond di’o ddim yn air nacdi – mae’n ddau air. Wrth sgwrsio hefo Ani Glass mae Llwyd yn ein herio fod awr ar y gweill o ‘acenion Glan Taf’ a gwych o beth yw hynny. Onid yw acenion yn eu holl amrywiaeth Cymreig yn rhan o’r cwilt hyfryd yna da ni yn ei alw’n dirwedd Gymreig?

Drwy neulltuo awr o sgwrs anffurfiol hefo Carwyn ac Ani rydym yn cael cyfle i glustfeinio ar sgyrsiau o sylwedd ond hefyd yn rhai ddigon hwyliog. Hynny yw, digon o waith bydd cyfle i gael ‘ramblo’ neu crwydro heb ormod o gyfeiriad fel hyn ar raglenni radio ffurfiol felly podlediadau yw’r ateb. Os am gael awr o gefndir a damcaniaethau gan Carwyn neu Ani tiwniwch mewn i’r podlediadau gan Llwyd.

‘Amgen’ ydi’r gair mae’n debyg. Amgen i beth? Y prif-ffrwd, y canol y ffordd, y saff a’r cyfforddus – ond mae cymaint ohonnom isho mwy, angen mwy – angen yr amrywiaeth a’r dewis!

Manon H (y ffotograffydd) sydd yn gyfrifol am raglenni ‘No Future’ ar orsaf Radio Platform a mae rhain hefyd ar gael fel archif ar Mixcloud. Fe glywch yr Au Pairs, Joy Division, Subway Sect neu A Certain Ratio ar raglenni Manon. Post-Punk, Goth a’r amgen yw’r arddull ond mae gan Manon ddawn cyflwyno, dewis rhagorol o gerddoriaeth a dealltwriaeth o’r maes. Eto fel podlediad Potter – mae’n awr a hanner dda i gael ymlaen yn y tŷ.

Y broblem fwyf nawr yw cael digon o oriau mewn diwrnod i wrando ar yr holl bodlediadau!





No comments:

Post a Comment