Tydi brutalist na brutalism ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi. Chwilio oeddwn am y disgrifiad Cymraeg o’r arddull pensaerniol concrit o’r 20fed ganrif sydd yn cael ei alw yn Brutalist Architecture. Tyfodd, neu esblygodd, ‘pensaerniaeth garw’ o arddulliau Modern hanner cyntaf yr 20fed ganrif ac yn gyffredinol iawn rydym yn son am ‘bensaerniaeth garw’ yn ei anterth rhwng y 1950au a chanol y 1970au
.
Soniais sawl gwaith yn y golofn yma am waith Basil Spence
yn Atomfa Trawsfynydd – dim ond un gair sydd i ddisgrifio hyn – a ‘garw’ ydi
hynny. Chefais i rioed fawr o gefnogaeth na chydymdeimlad am wyntyllu fy
hoffter o bensaerniaeth Spence yn ‘Traws’. Pawb rhy wrth-niwclear i gydymdeimlo
a’r hen Basil!
Ar ei (gymharol) newydd wedd, mae’r grisiau a’r cyntedd
yn y MOSTYN, Llandudno hefyd yn ymylu ar fod yn ‘arw’ gyda concrit yn llwyr
deyrnasu’r dirwedd bensaerniol. Peth da yw hyn gan fod yr oriel hefyd yn un
heriol. Sawl gwaith rwyf wedi mynychu arddangosfeydd yn y MOSTYN a gofyn yr un
peth – ‘Ydi hyn yn gelf?’ – ac eto peth da yw hyn. Drwy’r weithred o herio mae
rhywun yn cael ei orfodi i feddwl.
Caf fy atgoffa o’r Almaen, rhywle fel Stuttgart, pob tro
byddaf yn mynychu’r MOSTYN. Er mai Llandudno yw hyn go iawn, tref lan-y-môr
Fictoraidd, mae’r teimlad oddi fewn i’r MOSTYN yn un Dada, avant-garde
Ewropeaidd. Yng ngogledd Cymru fedrith hyn ond fod yn beth da.
Rhan o Gyfres *Hanes MOSTYN yw’r arddangofa gyfredol ‘Wagstaff’s’.
Dyma sut mae Mostyn yn esbonio’r Gyfres * Hanes MOSTYN sydd “ers 2013 wedi archwilio treftadaeth adeilad
MOSTYN, tref Llandudno a chysylltiadau ymhellach i ffwrdd. Mae’r gyfres wedi
cyflwyno arteffactau a delweddau hanesyddol ochr yn ochr a gwaith gan artistiaid
cyfoes gan ffurfio llinyn rhwng y gorffennol a’r presennol”.
Siop Gerddoriaeth, yn gwerthu pianos,offerynnau a
recordiau oedd Wagstaff’s yn wreiddiol ym Manceionion ond sefydlwyd siop yn
Llandudno yn ystod y 1940au cynnar ar ôl i’r siop ddinesig gael ei ddymchwel yn
ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ei thro daeth Wagstaff’s i 2 Stryd Vaughan – sef
safle presennol y MOSTYN.
Diddorol felly gan fod yr arddangosfa mewn ffordd yn dod
a’r siop yn ôl i’w gartref (dros dro). Wrth gerdded o amgylch yr oriel mae’r
ffin rhwng arddangosfa a chelf yn cael ei ddrysu – beth yw’r hanes a beth yw’r
celf? Lle mae’r ffin rhwng amgueddfa ac oriel. Be di’r ots? Dyma yr union
brofiad rwyf yn ei ddigwsyl (ac yn ei gael bob tro) gan y MOSTYN.
O ran fy hoff ddarn o gelf – beth am gynnig ‘peiriant’
Gareth Griffith. Ysbrydolwyd Gareth i greu peiriant (celf nid ymarefrol) ar
gyfer profi sain a thôn cywir pibellau organ capel neu eglwys yn dilyn ei
ymweliad a chwmni adeiladu organnau Henry Wills & Sons yn Lerpwl. Cawn
ddarn o gelf trawiadol a sylweddol o ran maint sydd yn atgoffa rhywun o
gymeriad ‘Noo Noo’ o’r Teletubbies yn ein wynebu wrth i ni gerdded i mewn i’r
brif oriel. Daw synnau o’r gwaith celf ond does dim elfen rhyngweithiol o beth
ddeallais.
O ran fy hoff arteffactau, beth am gynnig cloriau
recordiau y Rolling Stones. Ar label Decca , cawn y pump cyfarwydd ond yr hyn
sydd yn ddiddorol gyda cloriau fel ‘After-Math’ yw fod Brian Jones yr un mor
flaenllaw a Jagger ac yn hyd yn oed mwy golygus na’r Jagger ifanc.
Heb os, mae arddangosfa’Wagstaff’s’ yn ein cludo yn ôl i oes
a fu, pan roedd siopau cerdd yn lefydd arall fydol hudolus a rhamantus (cyn yr
holl electronics). Ond yr hyn sydd yn wirioneddol ddiddorol yw fod hwn yn
brofiad pleserus er fod y ffin rhwng arddangosfa a chelf yn anelwig iawn.
https://www.mostyn.org/exhibition/wagstaffs
No comments:
Post a Comment