Mynd i redeg yn ardal Rhyd Ddu, hebio Llyn y Gadair a draw wedyn i berfeddion Coedwig Beddglelert ddechreuodd y ‘diddordeb diweddaraf’. Byddaf yn gadael y car yng nghanol y pentref a rhedeg heibio hen gartref T. H. Parry Williams cyn troi am y llwybr heibio Llyn y Gadair (a enwogwyd yn soned T. H). Ger y tŷ olaf ar ochr yr A4085 cyn y llwybr sylwais ar hen bolyn haearn-bwrw.
Wrth basio heibio droeon, roedd yn amlwg fod angen
cofio’r iPhone tro nesa er mwyn cael llun
o’r polyn – a dyma wneud hynny. Cuddir y polyn yn rhannol gan goeden (celyn?)
ond cefais lun o waelod y polyn a’r ysgrif Hartley’s Stoke ar yr haeran bwrw.
Y cam nesa wrth reswm oedd rhannu’r llun o’r polyn
anhygoel yma ar Facebook. A dyma ddysgu gwers. Cysylltodd gŵr o Lanrug gan
ddweud fod dau bolyn tebyg i’w gweld ym mhentref Llanrug. Ond yr hyn oedd yn
ddiddorol oedd fod y cyfaill o Lanrug yn gwybod beth oedd eu pwrpas. Dyma
oleuni.
Yr hyn a welir yn Rhyd Ddu yw polyn gwasgaru oglau drwg a
nwyon o’r sustem carthion / carffosiaeth . Mae polion o’r fath yn dyddio o’r
cyfnod Fictoraidd. Y syndod yw fod cymaint wedi cael llonydd. Ceir enwau doniol
arnynt yn y Saesneg gyda amrywiath ffurf o ‘stink pipe’ neu ‘stench pipe /
stench pole’. Rwyf am gynnig ‘pibell ogla’ neu ‘pibell ogla drwg’.
Dim ond y Fictoriaid fydda’n mynd i’r fath drafferth o
greu polion haearn-bwrw mor addurnedig gyda colofnau rhychog yn aml ar waelod y
polion (gyda stamp gwneuthurwr) a wedyn rhyw fath o fowlen heu goron ar y top
er mwyn i’r ogla drwg gael ei wasgaru. Saif y colofnau yma i uchder o 6-8medr.
Ymateb oedd hyn mewn gwirionedd i Haf poeth 1858 (yr hyn
a elwir the Great Stink) pan roedd yr Afon Tafwys yn Llundain yn gorlifo a
charthion a dechreuodd yr holl beth eplesu ac achosi’r fath ddrewdod fod angen
datrys y broblem. Dyma arwain at adeiladu y twneli carthion gan y peirianwyr
Goldsworthy Gurney a Joseph Bazalgette. Gurney ddyfeisodd y pibellau ogla ac o
ddilyn rhain o amgylch Llundain heddiw rydych yn dilyn hen gwrs carthion y Fictoriaid
dan ddaear.
Yr un fydda’r rheswm felly yng Nghymru, a buan iawn daeth
mwy o ymatebion ar Facebook. Polion neu bibellau o’r fath wedi goroesi yng
Ngroeslon a Rhos Isaf ger Caernarfon – rhai yng ngerddi pobl hyd heddiw.
Diolchaf iddynt am ymateb. Cefais ymatyeb gan ambell un (fel fi) yn dysgu
rhywbeth newydd ac yn gwerthfawrogi cael esboniad.
Gyda llaw mae’r ddau bibell ogla yn Llanrug ar Lon Groes
gyferbyn a maes parcio Ysgol Brynrefail ac ar y ffordd am Pont Rythallt rhyw
50medr o’r Glyntwrog.
Er cymaint fy niddordeb mewn henebion ac archaeoleg,
doeddwn rioed di sylwi ar rhain o’r blaen. Nid dyma’r sgwrs arferol wrth y
bwrdd bwyd neu wrth gymdeithasu ond dyma brofi unwaith eto fod gwir angen
edrych o’n cwmpas wrth grwydro (neu redeg os yw’r fath beth yn bosib). A chyn i
rhywun ddechrau fy nghyhuddo o fod yn ddi-chwaeth fy niddordebau archaeolegol mae
hyd yn oed grwp penodol ar gyfer hyn ar Flickr o’r enw ‘stinkpipes’ – rwyf
newydd ymuno. Cawn Blog penodol hefyd dan yr enw Stinkpipe
Collector Blog felly nid y fi yw’r unig un o bell ffordd.
Dangosir hefyd yr ymateb ar Facebook fod yna ddiddordeb
gan Gymry Cymraeg mewn nodweddion hanesyddol o’r fath a mae nodweddion
Fictoriaidd yn aml yn rhai rydym wedi eu hosgoi neu eu hanwybyddu gan fod y
naws yn aml iawn yn llai ‘Cymreig’ i bethau Fictoraidd.
http://stinkpipes.blogspot.co.uk/
No comments:
Post a Comment