Un peth ydi mynegi barn, peth hollol wahanol yw trafod hanes a ffeithiau. Fe allwn awgrymu fod mynegi barn yn rhywbeth mae rhywun yn ei wneud am y rhesymau ‘iawn’, ac ar yr union adeg o ddatgan barn fod hynny yn adlewyrchiad weddol deg o’r hyn mae rhywun yn ei feddwl neu ei gredu ar yr adeg honno. Mae mynegi barn yn bwysig ond mae bod yn barod i ail-ystyried neu newid barn yn gallu bod yr un mor bwysig.
Gyda fy ngwaith dydd i ddydd fel archaeolegydd. mae rhywun ar dir llawer mwy sigledig. Rydym yn trio
dehongli a chofnodi mewn maes lle nad oes bob amser ateb pendant, neu ffeithiau
ar gael, Rydym yn aml yn gorfod datgan (neu cyfaddef os mynnwch) fod llawer nad
ydym yn ei wybod. Awgrymaf felly ein bod yn rhan o ‘drafodaeth’ neu ‘broses’o
geisio deall y dirwedd hanesyddol Gymreig yn well.
A dyma ni, unwaith eto yn troedio gwaundiroedd Cwm
Brwynog ar lethrau’r Wyddfa yn trio (yn raddol ac yn ara deg) gwneud rhyw fath
o synnwyr o’r dirwedd archaeolegol hynod hynny. Cyfeiriais felly yn yr Herald
Gymraed at Gwm Brwynog ar y 4dd Ionawr a
11eg Ionawr 2017 ac wrth ddychwelyd i’r ardal hon bron yn wythnosol yn raddol
bach mae pethau yn dechrau gwneud mwy o synnwyr.
Dim ond drwy ddarllen ‘Pobl Tu Ucha’r Giât’, (Rol
Williams, 2001) y daeth rhai ffeithiau i’r amlwg ond dim ond drwy ddal i
gerdded y dechreuais wneud synnwyr o bethau go iawn. Rhag ofn fod darllenwyr yn
cael eu camarwain gan golofnau Ionawr 4 a 11 teimlaf fod angen rhannu ffrwyth y
cerdded diweddar.
Y safle saethu Commandos o’r Ail Ryfel Byd sydd wedi bod
yn hawlio fy sylw diweddar ac wrth gerdded o lwybr Bwlch Maegwm tuag at adfail
Capel Hebron y gwelais weddillion dwy wal o frisflociau. Disgrifir rhain ar
safle Coflein os wyf wedi drallen yn gywir ond wrth gerdded yma ac acw dros y
gwaundir, dyma ddarganfod fod tair wal o’r fath yn bodoli.
Y ddwy wal ar Coflein yw Capel Hebron Rifle Butts I a
Capel Hebron Rifle Butts II, a rhain sydd o dan Gapel Hebron, ond mae trydedd
wal o’r fath i’w chanfod ar ochr ddeheuol Afon Arddu ychydig islaw’r llwybr
dros Faesgwm. Hefyd, a hyn yw’r syndod mawr, mae wal saethu gyda fframiau’r
targedau yn dal i sefyll ychydig islaw tyddyn Tynyraelgerth (Tynyraelgarth?).
Os felly a yw cofnod Coflein yn anorffenedig? Os, a
dyma’r cwestiwn mawr, os rwyf yn dehongli pethau yn gywir mae tair wal neu
lwyfan saethu i’w cael yn Nghwm Brwynog. Dyma’r llwyfannau felly, sydd yn mesur
16x3 medr ac yn sefyll i rhyw uchder o fedr neu ddwy, o ble byddai’r milwyr
wedi saethu tuag at y fframiau a’r wal atal bwledi sydd yn union o dan
Danyraelgerth. Mae hyn yn gwneud synnwyr achos byddai angen rhyw fath o lwyfan
ar gyfer y milwyr /commandos er mwyn saethu yn glir tuag at y targedau ar draws
y gwaundir.
Mewn adroddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
‘First World War Military Sites’ (Hopewell / Kenney 2015) cawn gyfeiriad
pellach fod rhai o’r llochesau ar gyfer y marcwyr yn dal i sefyll ger y llwybr
am Gwm Dwythwch. Mantelet yw’r disgrifiad ar loches o’r fath a chawn gyfeiriad
Map OS SH570 586. Yn uwch i fyny Gwm Dwythwch, o dan Foel Gron, cawn olion
pellach, ac o bosib cynharach na’r rhai Ail Ryfel Byd sydd yn Hebron.
Unwaith eto, os wyf wedi darllen yn gywir tydi’r tair
llwyfan saethu a’r wal ar gyfer atal bwledi a dal y targedau ddim i lawr ar gofnodion
Archwilio, sef safle’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol. Os felly bydd angen
trosgwyddo’r wybodaeth sydd gennyf iddynt.
Cyfeirias uchod at y wal atal bwledi a’r fframiau
targedau sydd yn dal i sefyll ar waelod y cwm o dan tyddyn Tynyraelgerth. Dyma
sydd yn rhyfeddol, mae eu cyflwr yn arbenig o dda a gallwn weld yr olwynion
oedd yn cael eu troi er mwyn codi’r fframiau targedau i’r golwg ar gyfer yr
ymarferion. A dweud y gwir mae’r pediar wal yn hollol glir ar y map sydd ar
Archwylio wrth i rhywun edrych yn fanwl o’r awyr ond nad oes cofnod penodol
iddynt.
Nid beirniadaeth yw hyn, ond mae’n profi fod angen i ni
fod allan yna yn archwilio’r dirwedd hanesyddol / archaeolegol a fod angen i’r
cyhoedd fod yn rhan o’r broses. Tydi’r adnoddau na’r amser ddim gan yr
archaeolegwyr llawn amser i gyflawni’r holl waith. Efallai fod yna angen mwy o
brosiectau cymunedol (Cymraeg) yn y maes!
Felly wrth gyrraedd Tynyraelgerth o gyfeiriad Llanberis
bydd y fframiau targedau a’r wal lwyfan yn hollol amlwg ar waelod y cwm. O ran
cymharaieth mae’r fframiau yn debyg iawn i’r rhai a welir ym Mehnmaen Uchaf ger
Dolgellau.
Ychydig cyn cyrraedd Tynyraelgerth fe ddowch ar draws hen
ffynnnon ‘Yr Rali’ fel mae trigolion lleol yn galw’r Aelgerth / Aelgarth. Cyn
hynny, ar ochr y llwybr am Faesgwm ac ychydig i’r de-ddwyrain o Hafod Uchaf fe
welwch domen llosg sydd yn dyddio o’r Oes Efydd. Dyma chi dirwedd fendigedig i’w
cherdded o ran archaeoleg o sawl cyfnod.