Dros y flwyddyn neu ddwy ddwethaf rwyf wedi rhannu sawl sgwrs gyda Kevin Ellis, ficar Bro Caegybi, ac i ddweud y gwir, yr hyn am denodd ato i ddechrau oedd ei ddisgrifiad gwych am ei hun ar ei gyfrif trydar @holyislandvicar. Dyma sut mae Kevin yn disgrifio ei hyn “Tweets of an eccentric English vicar living on the edge (of Wales)”.Dychmygwch R.S Thomas wedi meistrioli’r cyfryngau cymdeithasol.
Ers iddo gyrraedd Ynys Mon mae Kevin wedi ymdrechu i
ddysgu Cymraeg a sawl gwaith yn ystod ein sgyrsiau rydym wedi bod yn ymarfer
dipyn o Gymraeg. Ond sgwrs wahanol gefais gydag e wythnos yn ôl, gan fod gennyf
griw o Almaenwyr yn mynd ar daith gerdded o Rhoscolyn i Drearddur ar hyd y
Llwybr Arfordir. Ein man cychwyn oedd Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn, felly
dyma roi floedd ar Kevin er mwyn sicrhau fod yr eglwys ar agor ar ein cyfer.
Rhag fy nghywilydd, dyma’r tro cyntaf i mi fod i mewn i’r
eglwys. Rwyf yn gyfarwydd wrth reswm a safle’r eglwys yn y dirlun, yn
llywodraethu fel petae ar ben y bryn wrth i rhywun edrych i ‘r de dros ddarnau
anghysbella Ynys Cybi, ond rhaid cyfaddef roedd yn wefr mawr cael mynd i mewn.
A hynny am sawl rheswm.
Rhaid oedd cyfaddef yn ddistaw bach i Kevin, a hynny heb
i’r Almaenwyr sylwi, mae dyma oedd y cyfle cyntaf i mi gael gwerthfawrogi
ffenestri hyfryd Henry Dearle, cynllunydd William Morris & Co ac olynydd
Burne-Jones yn y swydd honno. Ar y wal
ddeheuol cawn ffenstri o’r Seintiau Sior a Mihangel, yn y dull arferol
cyn-Raffaelaidd, sydd mor amlwg bellach i rhywun gyda’r fath obsesiwn a finnau
yng nghynlluniau Morris & Co.
Y ffenstr orllewinol, yn uchel tu cefn i’r allor, ac o
ganlyniad yn anodd i gael lluniau da ohonni, yw’r un enwog fel petae, sydd yn
dangos Sant Mihangel yn trechu Satan gan ddefnyddio llun yr arlunydd Guido Reni
o 1636 fel ysbrydoliaeth ar gyfer y cartwn (cynllun). Gan fod fy Almaenwyr yn
disgwyl i mi ymddwyn yn hollol broffesiynnol fel eu tywysydd rhaid oedd derbyn
bydd rhaid dychwelyd yma eto os am gael dringo ar ben cadeiriau i drio cael
gwell llun.
Cyn gadael yr eglwys ar ein taith gerdded, rhaid oedd
hefyd dangos yr allor wyth ochrog anarferol o’r 15fed ganrif iddynt a’r
ffenestr ddywreiniol sydd yn dangos rhai o dirluniau Rhoscolyn tu cefn i’r
seintiau (o wneuthuriad James Powell & Sons). Rhyfedd o beth yw gorfod
gadael cyn dangos popeth, ond gyda taith gerdded o dair awr o’n blaen rhaid
oedd gadael y fynwent heb gyfeirio at gofeb pump o griw y bad achub a gollwyd
wrth geisio achub criw y llong ‘Timbo’ mewn storm yn Rhagfyr 1920.
Wrth gerdded heibio gwesty’r White Eagle am Borthwen a
dilyn y llwybr arfordir, mae tua tri chwarter awr o waith cerdded cyn cyrraedd
ffynnon hynafol Santes Gwenfaen. Dyma gymeryd seibiant yma gan egluro fod
Gwenfaen, yn ôl y son, yn un oedd yn gwella iechyd meddwl. Fe sylwir fod cerrig
gwynion (cwarts) i’w gweld ger ochr wal y ffynnon ac yn draddodiadol rhaid oedd
cynnig dau ddarn o garreg cwarts er mwyn iachad.
Gallwn sgwennu erthygl arall am y dirwedd hynod yn y rhan
yma o’r byd. Wrth ddilyn y clogwyni dros y creigiau Cambrian hynafol yma cawn
olygfeydd godidog dros y ‘Bwa Gwyn’ ac yn ôl wedyn tuag at y ‘Bwa Du’.
Rhyfeddodau daearegol heb os, ac a dweud y gwir, a chan ail adrodd ‘heb os’,
heb os dyma un o’r teithiau cerdded mwyaf pleserus sydd gennym yng ngogledd
Cymru. Trawiadol heb fod rhy galed. Cyffrous, pleserus a wirioneddol
fendigedig.
No comments:
Post a Comment