A dyna flwyddyn arall wedi gwibio heibio, neu oleiaf dyna sut mae pethau yn teimlo, wrth i griw o archaeolegwyr ddechrau cloddio unwaith eto yn y dirwedd o amgylch beddrod enwog Bryn Celli Ddu, Ynys Môn, dan oruwchwyliaeth Cadw. Bu criw ohonnom yno llynedd er mwyn archwilio’r cerfiadau / celf Neolithig (sef y cafn-nodau Oes y Cerrig) sydd i’w gweld ar greigiau naturiol o amgylch cofadail Bryn Celli Ddu.
Eleni rydym yn y cae drws nesa yn archwilio carnedd
gladdu o’r Oes Efydd a gafodd ei gloddio yn wreiddiol ddiwedd y 1920au gan un o
gyd-weithwyr W. J.Hemp, yr archaeolegydd enwog fu’n cloddio ar gofadail Bryn
Celli Ddu. Felly, mae dau amcan mewn gwirionedd wrth gloddio yma, un yn amlwg i
ddysgu mwy am y safle ac yn ail i weld beth yn union fu’n digwydd yma ddiwedd y
1920au.
Mesurai’r garnedd oddeutu 120 llathen ar draws yn ôl yr
adroddiadau ond gan fod y tir wedi ei drin, yr oll sydd i’w weld erbyn heddiw
yw mymryn lleiaf o godiad crwm neu lwmpyn isel yn y cae. Yn wir, mae’n bosib
fod carnedd arall cyfagos, cwta 50 medr i’r dwyrain, sydd wedi ei adnabod o awyrluniau, a’r bwriad
yw cynnal arolwg geo-ffisegol dros y safle er mwyn ceisio cadarnhau fod
rhywbeth yn gorwedd yma o dan y tir.
Yn ôl adroddiadau o’r 1930 roedd ymyl o gerrig (cwrb) o
amgylch y garnedd – byddai rhywun yn disgwyl i ymyl o’r fath fod wedi ei
adeiladu o gerrig ar eu hymyl wedi eu gosod yn y pridd. Mae ymyl tebyg o
amgylch Bryn Celli Ddu, er fod Bryn Celli Ddu yn dyddio o rhai canrifoedd, os
nad mil o flynyddoedd, cyn y safle rydym yn ei archwilio ac yn perthyn i ‘ddiwylliant’
claddu cymunedol yn hytrach na’r unigolion a gawn mewn carneddau o’r Oes Efydd.
Canfuwyd cist ganolig gan yr archaeolegwyr ym 193, felly
yn amlwg byddai’n braf iawn gallu dod o hyd i weddillion cist o’r fath neu
olion o’r gwaith cloddio fyddai efallai yn cadarnhau fod cist wedi bodoli yma.
Does byth sicrwydd 100% gyda’r broses archaeolegol ac wrth i mi sgwennu’r
golofn hon rydym, efallai, (efallai) wedi dechrau canfod olion y cerrig oedd yn
ffurfio’r garnedd dros y gist ganolig, ond ar ol wythnos o waith cloddio, doedd
y gist ganolig ddim yn amlwg.
Gyda mymryn o ddrwgdybiaeth y byddaf yn darllen
adroddiadau hanesyddol am waith cloddio. Pur anaml mae archaeolegywr a
hynafiaethwyr y gorffennol yn cyfaddef iddynt fethu cael hyd i unrhywbeth ond
mae modd cadarnhau fod darnau bach o offer callestr wedi eu darganfod gennym ar
y safle fel y gwanaethwyd ddiwedd y 1920au / dechrau’r 30au gan Newall a’r criw
cloddio.
Fel awgrymais llynedd yn fy ngholofn, wrth gloddio o
amgylch Bryn Celli am y tro cyntaf, dyma’r ‘Albert Hall’ o’r byd archaeolegol.
Dyma beth yw braint cael cyfle i weithio yn, ac archwilio tirwedd, fu ar un
adeg mor amlwg sanctaidd i amaethwyr cyntaf Ynys Môn.
Beth bynnag fydd y canlyniadau ar ddiwedd y bythefnos o
gloddio, yn sicr bydd ein gwybodaeth am y dirwedd hynafol yma wedi cynyddyu.
Gan mai Cadw sydd yn gyfrifol am y gwaith cloddio mae pwyslais mawr ar gysylltu
a’r gymuned, ac erbyn i chi ddarllen y golofn hon byddaf wedi tywys hanner
dwsin o ysgolion cynradd lleol o amgylch y safle a’r gwaith cloddio
archaeolegol.
No comments:
Post a Comment