Yn ei anterth rhwng y 1860au a 1884 datblygodd Chwarel Cwm Orthin o fod yn chwarel agored ym 1810 i fod yn waith sylweddol tanddaearol yn ystod ail hanner y 19ganrif cyn i gwymp carreg ym 1884 ymharu’n fawr ar y gwaith. Er i chwarel Oakley ddod yn gyfrifol am Gwm Orthin ym 1900 ni wireddwyd y cynlluniau mawr i ehangu ym 1925, bu cyfnodau o weithio pellach yno yn y 1930au a’r 50au ond roedd y gwaith mwy neu lai wedi dod i ben erbyn y 60au.
Rwyf unwaith eto am atgoffa’r darllenydd mae’r tywyslyfr
hanfodol ar gyfer archaeoleg chwareli llechi Cymru yw A Gazeteer
of the Welsh Slate Industry, Alun John Richards (1991) ac yma cawn wybod
fod 500 o ddynion yn cael eu cyflogi yma ym 1882 sydd yn rhoi syniad o faint y
gwaith. 2757 o ddynion oedd yn gweithio
yn chwarel Dinorwig ym 1882 o ran cymhariaeth, felly roedd gwaith sylweddol yng
Nghwm Orthin.
Heddiw (2015 a 2016) mae criw o archaeolegwyr o Flaenau Ffestiniog
dan ofal Bill Jones wedi bod yn cloddio ac yn gwneud gwaith cadwraeth yng Nghwm
Orthin.Llynedd bu gwaith cloddio yn rhai o’r tai ‘barics’ ar ochr ddeheuol y
llyn gan ganolbwyntio ar un o’r tai a oedd wedi ei adeiladu o garreg y mynydd
ac un o’r tai wedi ei adeiladu o lechi er mwyn pwysleisio y ddau gyfnod
gwahanol o adeiladu ar y barics.
Eleni, mae’r archaeolegwyr yn gwneud gwaith tebyg ar Cwm Orthin House neu Plas Llyn, sef ty
rheolwr y chwarel. Wedi ei godi yn y 1840au gan y rheolwr Allen Searell, bu’r
plasdy mewn defnydd tan y 1950au ond buan iawn mae tai yn troi yn adfeilion a
ddigon truenus yr olwg oedd ar y plas nes i’r archaeolegwyr ddecharu clirio a
chofnodi.
Fel rhan o’r broses cadwraeth mae mortar calch
(traddodiadol) yn cael ei osod ar ben rhai o’r waliau er mwyn rhywstro dirywiad
pellach ond mae darnau o’r adeiladau sydd bron yn amhosi i’w hachub. Mae to y
barics a to Cwm Orthin House wedi hen
ddisgyn ac yn sicr mae darnau peryglus i’r adeiladau felly os am ymweld bydd
angen gofal mawr a pheidio dringo na sefyll o dan waliau bregys.
Ond, fe gaiff yr ymwelydd well argraff o sut oedd bywyd
yn y barics ac yn y plas nawr diolch i waith diflino Bill Jones a’r criw. Mae’r
gwaith brics y llefydd tan yn y plas wedi goroesi fel mae rhannau sywleddol o’r
llawr (crawia) llechi ac ar ol clirio’r cerrig mae cynllun yr ystafelloedd yn
ddigon amlwg.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi cael profiad o gloddio
safleoedd o bob math o gyfnodau, o’r Neolithig (Oes y Cerrig) i’r Rhufeinig, o’r
cyfnod Llychlynaidd i’r Canol Oesoedd hwyr ond dyma’r tro cyntaf i mi gloddio
borden wal o’r 1950 neu oleiaf yr hyn oedd yn weddill ohonno. Fel rhan o’r
gwaith cloddio / clirio yn un o ystafelloedd y plas roedd angen clirio’r pridd
o’r hen blastr wal gan gadw golwg os oedd borden wal wedi goroesi ar waelod y
wal.
Roedd diffinio’r llawr ddigon hawdd gan mai crawiau
llechan oedd ar y llawr ond roedd y plastr wal yn fregus a byddai crafu rhy
galed gyda’r trywal yn ei chwalu yn rhacs a felly hefyd hefo gweddillion y borden
wal. Gan fod y pren wedi bod o dan bridd am dros hanner canrif roedd y pren mwy
neu lai wedi pydru ac yn feddl.
Ein
gwaith ni yw ceisio dangos beth oedd yno, cofnodi hynny, tynnu lluniau ac
oleiaf wedyn rydym wedi dysgu rhywbeth.
Felly tydi archaeoleg ddim yn gorfod bod yn ymwneud a
pethau o’r gorffennol pell, gall fod yn ddarganfod bordyn wal o’r 1950au!
No comments:
Post a Comment