Pan welais enw’r llyfr ‘Kicking Off in North Korea, Football and Friendship in Foreign Lands’ gan
Tim Hartley (Y Lolfa) dychmygais mai llyfr ar gyfer dilynwyr (brwd) peldroed
oedd hwn gyda apel cyfyng. Anghywir. Anghywir ar bob cyfrif. Doedd ond angen
darllen broliant Huw Edwards ( y Huw Edwards, Newyddion BBC ayyb) a sylwi ar y
geiriau ‘dyddiaduron teithio’ i sylweddoli fod mwy iddi na’r hyn roeddwn wedi
ei ddychmygu.
Nid fod peldroed yn apel ‘cyfyng’ cofiwch, ond o ran llyfr
Cymreig, anodd credu fod apel anfferth mewn llyfr wedi ei gyfyngu i drafod
peldroed yng Ngogledd Korea. Pwy ddywedodd ‘never
judge a book by its cover’? Eisteddais i lawr ar lan Llyn Padarn yn yr Haul
poeth, a chyn i mi sylweddoli faint roeddwn wedi llosgi fy mhen, dyma wibio
drwy’r chwe pennod cyntaf.
Llyfr sy’n cydio/gafael o’r frawddeg gyntaf fel dylai
unrhyw lyfr da ei wneud. Syth i’r pwynt. Maniffesto ar gyfer y pethau da yn
gymdeithasol ac yn wleidyddol sydd yn
deillio o beldroed a theithio. Cyfuniad perffaith. Atgoffwyd mi yn syth o
anturiaethau’r Anhrefn yn teithio dramor – roedd y teithiau hynny bob amser yn
gyfuniad o gerddoriaeth a diwylliant. Cyfarfod pobl leol, aros yn eu tai,
rhannu sgyrsiau – dysgu – dyna oedd y peth gorau am deithio.
Oes, mae pennod yn son am gem beldroed yng Ngogledd
Korea, lle mae 50,000 o ddilynwyr yn gwylio gem mewn distawrwydd llethol, neb
yn gweiddi, neb yn ymateb a mewn ffordd dyma un o’r penodau mwyaf diddorol yn y
llyfr. Hynny yw, mae’r ffaith fod Hartley wedi (gallu) teithio i Ogledd Korea
yn ei hyn yn antur ac yn rhywbeth sydd yn werth darllen amdano.
Pennod arall sydd yn amlygu ei hyn, ac efallai yn hynod
berthnasol, os nad y bennod fwyaf berthnasol, i ni fel Cymry Cymraeg yw’r un yn
trafod hyfforddi peldroed yng Ngwlad y Basg drwy gyfrwng yr Iaith Basgeg neu
Ewsgareg i Gymreigio’r Iaith frodorol. Un o’r hyfforddwyr yn yr Ewsgareg yw
Koikili Lertxundi,amddiffynwr gyda Athletico Bilbao.
Does dim angen egluro pam fod hyn yn bwysig, ond dyma
gadarnhau (i mi yn sicr) fod angen cefnogaeth y byd chwaraeon os rydym am
gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond drwy gael Bale a’i fath yn dweud
fod y Gymraeg yn ‘cool’ mae hogia ifanc deuddeg oed Port Talbot yn mynd i droi
at y Gymraeg. Does dim Eisteddfod na Super Furry Animals mae’n debyg all apelio
at y garfan yma?
Ac eto, noson o’r blaen gwelais un o fy meibion yn
bownsain o amgylch y tŷ wrth wrando ar ‘Bing Bong’ gan y Super Furry Animals yn
cael ei chwarae (yn uchel iawn) wrth i ni fwynhau rhaglen Lisa Gwilym ar BBC
Radio Cymru. Felly efallai fod yna obaith i gyrraedd hogia 12 oed yn rhywle fel
Ysgol Syr Hugh. Mwy o ‘Bing Bong’ gan y Super Furry’s! Dyna’r tro cyntaf i mi
weld un o fy hogia yn mwynhau band Cymraeg / Cymreig ers dyddiau eu hysgol
gynradd lle roedd ‘Trons dy Dad’ wedi apelio at yr hogia 6 oed !!!!
Elfen arall bwysig yn llyfr Hartley yw’r gwaith elusenol
mae criw ‘Gôl’ yn ei gyflawni drwy fynd a pecynnau o ddillad a phethau o angen
i lefydd fel y cartref plant yn Azeri. ‘The Horror’ yw penawd y bennod a
disgrifir mewn iaith gignoeth pa mor erchyll yw’r budreddi a’r gofal yn y
‘cartref’ yma i blant bach a phobl ifanc gyda anableddau . Ymhlith y ‘pethau
angenrheidiol’ mae Hartley a’r criw yn ei ddarparu mae clytiau (nappies).
Yma gwelwn peldreoed yn dod yn rhywbeth llawer mwy
‘gwleidyddol’, a thu allan i’r gemau cyfeillgar mae cefnogwyr yn chwarae a’u
gilydd tra’n teithio ar gyfer gemau dramor, ac yn cyfranu felly at ‘heddwch y
byd’ a mwy o ddealltwriaeth rhwng pobloedd, mae’r gwaith elusenol uniongyrchol
yma yn fwy o achos o Geldof a Midge Ure – Band Aid uniongyrchol.
Bu i mi ddod ar draws Tim Hartley yn wreiddiol yn
nechrau’r 1980au pan roedd Tim yn canu i’r grwp pop Cymraeg, Chwarter i Un
(12:45). Roedd Gronw y gitarydd-gyfansoddwr o Lanfair Caereinion, fel fi, felly
roedd rhyw gysylltiad gyda’r band yn barod. Rhywsut, er fod 12:45 ychydig yn
hyn na’n cenhedlaeth ni, roedd Hartley, Gronw a’r gitarydd arall, Dafydd Rhys
(Bethesda) o hyd yn ymddangos yn gefnogol i’r hyn oedd yn digwydd yn y sîn
danddaearol.
Yn wir bu i Chwarter i Un ymddangos yn un o’r Gwyliau
Tanddaearol i mi eu ‘dad-drefnu’ yn Neuadd Llanerfyl ar ddechrau’r 80au. Doedd
dim rhaid iddynt ymddangos. Doedd dim mantais gyrfaol iddynt mwy nac oedd
costau petrol – ond teithio yno o Aberystwyth wnaeth 12:45 a chanu heb gwyno.
Hyd heddiw rwyf yn parchu’r hogia am hyn. Gweithred o ‘solidarity’ os bu un erioed
a dyna sydd wrth wraidd cymaint o’r hyn mae Hartley yn drafod yn ei lyfr.
Dyma awdur, teithiwr, anturiaethwr, dilynwr peldroed a
chyn-ganwr pop sydd a chydwybod. Does dim yn ymddangos yn hunanol yn yr hyn mae
Hartley yn ei drafod. Mae popeth er lles rhywun arall.
Rwyf wrth fy modd yn ‘darganfod’ pethau fel hyn. petae
rhywun wedi gofyn i mi beth mae Tim Hartley yn ei wneud nawr, rhaid cyfaddef byddwn
wedi methu ateb y cwestiwn. Mae’r ateb yn y llyfr wrthgwrs, sef ei fod yn
gweithio yn ddi-flino, o dan y radar cyfryngol, yn ddi-sylw er mwyn gwneud
gwahaniaeth – er mwyn gwneud pethau yn well drwy gyfrwng peldroed.
Mae’n stori sydd werth ei darllen – mae’n daith lle mae
angen i fwy ohonnom ymuno.
Cyfweliad hefo Tim ar BBC Radio Cymru http://www.bbc.co.uk/programmes/p03xlcdq
No comments:
Post a Comment