Gyda chryn ansicrwydd yr wyf yn ysgrifennu’r golofn hon.
Rwyf yn hollol hapus i drafod diwylliant Cymraeg, Hanes ac Archaeoleg Cymru,
ond a yw’r gallu gennyf i ddweud unrhywbeth call, unrhywbeth werth ei ddweud am
beth ddigwyddodd nos Iau dwetha? Dyma’r cwestiwn - oes gennyf unrhywbeth o gwbl
werth ei ddweud?
Fel miliynau eraill ym Mhrydain (16,141,241) ac yn sicr
miloedd ar filoedd yng Nghymru (772,347) mae’r siom yn ymylu ar y brawychus.
Anodd disgrifio’r peth, ond mewn ffordd mae’n cyfateb a’r Na i Refferendwm
1979. Mae’r siom yn taro rhywun fel ergyd. Anghredadwy ond eto …….
Ar yr olwg gyntaf cawn ddarlun ‘llwm’ iawn o Gymru a ni
fel Cenedl o Gymry. 17 allan o’r 22 awdurdod lleol yn pleidleisio dros
‘Gadael’, ond wrth edrych yn fwy manwl, trwch blewyn oedd hi go iawn. Dim ond
5% oedd rhwng y belidlais ‘Gadael’ ac ‘Aros’. Os felly rhaid pwyllo a pheidio
bod rhy llawdrwm ar yr 17 awdurdod bleidleisiodd i ‘Adael’. Rhaid ymwrthod yn
ein siom enfawr rhag ymuno a chefnogwyr peldroed Gogledd Iwerddon a fu’n canu “da chi’n rhan bach o Loegr” ar ddiwedd buddugoliaeth
lwcus iawn Cymru bnawn Sadwrn.
Cefais fy addysg gwleidyddol cynnar drwy gyfrwng
anghonfensiynol, a hynny drwy maniffestos a geiriau Strummer, Weller a Lydon.
Doedd Cenedletholdeb Cymraeg y 1960au ’rioed di apelio rhywsut. Gormod o
freuddwydio am y dyddiau da a’r Fro Gymraeg, Steddfota a gwisgo denim. Dim ond
wrth weld a gwrando ar y Jarman dinesig y dechreuais weld unrhyw oleuni
Cymraeg.
Roedd Weller, Strummer a Lydon yn finiog, yn bigog, yn
llym a phenderfynais yn unionsyth wedyn mai dyma yr oeddwn eisiau ei weld yn y
Gymraeg. Fel rwyf wedi dweud miloedd o weithiau ers hynny, fy mhwrpas mewn
bywyd wedyn oedd trawsblannu hyn i’r ardd Gymraeg. Does dim hawlfraint ar Gymreigtod
ac os oedd Jarman wedi gallu awgrymu llwybr arall, roedd ysbryd Punk yn
caniatau i fy nghenhedlaeth i gael mymryn o berchnogaeth ar y gacan Gymraeg.
Yr ail wers wleidyddol a gefais oedd teithio Ewrop gyda’r
Anhrefn yn ddi-baid rhwng 1988 a 1994. Yma y ffurfiwyd y maniffesto newydd ein
bod yn Gymry hyderus yn y cyd-destyn Ewropeaidd. Yn rhyng-genedlaetholwyr yn
hytrach na chenedlaetholwyr. Ein cri o’r llwyfan oedd llosgwch eich passports,
chwalwch y ffiniau, ymwrthodwch a’r Anthemau Cenedlaethol – a hynny heb
gyfaddawdu o gwbl ar ein Cymreictod.
Teithio Ewrop yn fwy na dim, gwneud ffrindiau yno,
cefnogi achosion boed yn Derry neu Berlin,
bod yn rhan o rhywbeth llawr mwy na ‘gwlad’ a ‘chenedlaetholdeb’ sydd
wedi creu pwy ydwyf heddiw. Yn Gymro yn Erwop a’r Byd, ac yn sicr DDIM yn
unrhyw fath o genedlaetholwr o ran ideoleg.
O ystyried hyn ôll, wrthgwrs, wrthgwrs, mae canlyniadau
Nos Iau yn dorcalonus, dyma stori arswyd hunllefus lle mae’r anllythrenog wleidyddol
wedi dawnsio i gyfeiliant y clowns. Does ond rhaid edrych ar gyfweliad Farrage
gyda Susanna Reid ar Good Morning Britain y bore canlynol lle mae Farrage yn
baglu a thagu wrth gyfaddef wedi’r cwbl nad oes sicrwydd fod y £350 miliwn am
fynd yn syth at y Gwasanaeth Iechyd. Gwers Un i’r anllythrenog wleidyddol.
Gwers Dau gan Nick Cohen yn y Guardian “Mae
yna gelwyddgwn, a mae yna Boris Johnson a Michael Gove’.
Efallai fod y canwr pop Noel Gallagher yn agosach ati na
llawer wrth ddisgrifio’r anllythrenog wleidyddol yn yr NME drwy awgrymu “Pam gofyn i’r bobl? Mae 99% o bobl mor dwp a
baw mochyn”. O leiaf mae Noel yn rhoi mymryn o wen ar wyneb rhywun fel y
gwnaeth y digrifwr Tudur Owen wrth drydar @tudur “Mae’r Reffrenedwm wedi gweithio. Heb weld un mewnfudwr o Ddwyrain Ewrop
bore heddiw, Diolch Nigel”. Canwr pop arall, Bono, awgrymodd yn ddiweddar
mai’r arf gorau eyn erbyn atgasedd yw chwerthin am eu pennau.
Ac wrth ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gogledd
Iwerddon dyma’r cefnogwyr brwd y Barry Horns @thebarryhorns yn datgan “Ar ol treulio blynyddoedd yn ceisio cyrraedd
yr Ewros dyma rhoi ein hunnain allan o Ewrop am byth”. Rhaid fod pethau yn
anodd iawn ar y teresau ac i gefnogwyr Cymru wrth ystyried hyn – fod hanner y
twrcwn wedi pleidleisio dros y Dolig.
Pleidlais yn erbyn mewnfudo oedd hyn yn y bon. Galwch hyn
yn bleidlais brotest gan yr anllythrenog wleidyddol os mynnwch, ond pleidlais
dros Farrage a’i gelwydd noeth oedd hyn yn fwy na dim. Cofiwch doedd Boris ddim
yno ar y dechrau a choeliaf i ddim fod Gove wedi denu fawr o neb heblaw Toriaid
o’r un brethyn ac ef. Yn sicr dydi’r anllythrenog wleidyddol ddim wedi uniaethu
a Gove, does bosib.
Ond y cwestiwn mawr / amlwg i’r gwrthbleidiau yw pam fod
yr anllythrenog wleidyddol wedi pleidleisio yn groes i’r union bleidiau mae nhw
newydd eu hethol yn yr Etholiad Cyffredinol ac Etholiadau’r Cynulliad? Dyna’r
cwestiwn yn amlwg i Rhun, Albert, Leanne, Carwyn ayyb yng Nghymru yn sicr.
Os yw Plaid Cymru wirioneddol o ddifri am awgrymu mai nawr yw’r amser i ail godi’r cwestiwn o Annibyniaeth i Gymru efallai mai gwell
fyddai cynnig i Wynedd ymuno a’r Alban a fel galwodd rhywun o’r Barri, fod Y
Barri yn gwneud rhywbeth tebyg i’r hyn a ddigwyddodd yn y ffilm ‘Passport to Pimlico’ a datgan eu hunnan yn
wlad annibynnol yn Ewrop.
Rhyw dynnu coes felly, rhaid chwerthin nid crio. Nid
ydwyf wedi argyhoeddi fy hyn fod gennyf fawr o werth i’w gyfrannu rhywsut ond
yn weddol amlwg mae angen mwy gan ein gwleidyddion na’r addewidion i ‘wrando’
ar yr anllythrennog – mi fydd angen eu haddysgu a’u cynnwys rhywsut a mi fydd
hynny yn ddipyn o her.