Diwedd Ionawr oedd hi, roeddwn yn DJ’io yn STORIEL, (Amgueddfa ac Oriel Gwynedd), Bangor fel rhan o noson lansio arddangosfeydd yr arlunydd Iwan Gwyn Parry a lluniau gan y nofwraig awyr-agored Vivienne Rickman-Poole. Pan dwi’n dweud ‘DJ’io’ be dwi’n feddwl yw chwarae recordiau a fy newis ar y noson oedd hen recordiau feinyl Cymraeg fel ‘Tocyn’ gan Bran, ‘Calon’ gan Injaroc a ‘Draenog Marw’ gan Crysbas.
Y syniad oedd chwarae’r cyfarwydd ac eto gwneud yr holl
beth yn hwyl. Roedd dros 300 wedi mynychu agoriad Iwan a Vivienne felly doedd
neb yn clywed y recordiau ond dio’m ots. Ar ol cyrraedd adre dyma deimlo ein
bod wedi cael rhywbeth ym Mangor /
gogledd Cymru fyddai yn hollol arferol yn Efrog Newydd neu Stuttgart. Dyma
deimlo fod Bangor yn sicr yn cael ei drawsnewid oherwydd STORIEL a PONTIO.
Dyma fyddsoddi mewn diwylliant. Mi fydd y buddiannau yn
bell gyrrhaeddol. Diolch byth fod pethau yn symud i’r cyfeiriad iawn. Heb
ddiwylliant a bywyd diwylliannol yng Ngwynedd does ond un cyfeiriad i’r llif o
bobl a thalentau ifanc – a hynny yw Caerdydd. Mae rhywun yn sylwi hefyd sut mae
Caernarfon wedi ei drawsnewid yn ddiweddar, eto diolch i’r siopau bach ‘boutique’
boed yn siop grefftau Iard, Ann Catrin Evans, Dave Stephen ac Angela Evans neu
yn barlwr hufen ia Palas Caffi. Rydym yn codi’r safon.
Dychwelais i STORIEL ddechrau Mawrth i gyfweld Vivienne
Rickman-Poole o flaen cynulleidfa fyw, ar ffurf ‘Mewn sgwrs gyda …..’. Eto byddai gweithgaredd neu noson fel hyn yn
holloll arferol yn Efrog Newydd / Stuttgart – ond braf oedd cael gwneud hyn ym
Mangor.
Dim ond ar fy nhrydydd ymweliad a STORIEL cefais gyfle i fwynhau
gwaith Iwan a Vivienne go iawn. Es yno am ginio, mae’r caffi yn rhagorol a
dewis da ar gyfer llysieuwyr, a wedyn treuliais awr go dda yn mwynhau’r celf.
Heb os Iwan Gwyn Parry yw un o’r arlunwyr tirweddol gorau welodd Cymru erioed.
Yn fy marn i, mae Iwan yna - ochr yn ochr hefo JMW Turner, mae o mor dda a
hynny!
Mae’r lluniau newydd llawer mwy ‘sci-fi’ na’r hyn rydym wedi ei arfer gael gan Iwan, sydd ond yn
cadarnhau fod yma artist ymryddawn sydd yn bell o fod wedi cyrraedd pen ei
daith – mae mwy a gwell i ddod ganddo heb os.
Nofio llynnoedd Eryri mae Vivienne ac yn tynnu lluniau o’i
hanturiaethau hefo camerau bocs, camerau mae hi wedi ei hadeiladu / creu ei hyn.
Dyma chi un o’r artistiaid mwyaf diddorol, cyffrous, deallus, arbrofol sydd
gennym yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. LLwyddiant Vivienne yw gallu chwalu
ffiniau – mae hi’n artist ac yn nofwraig. Mae hi’n cysylltu ac yn dibynu ar y
dirwedd yma yn Eryri.
Adeilad hynafol yw Plas yr Esgob, Bangor, ond fel oriel
ac amgueddfa mae’n adeilad braf a golau a llwyddiant yr amgueddfa ar ei newydd wedd
yw fod y rhinweddau bach diddorol, mympwyol ac od o ran y casgliadau
amgueddfaol wedi cael ei cadw. Felly mae ‘Coron Enlli’ yn dal yno, yn werth
ymweliad jest er mwyn hynny. Dyma chi be ‘di gwrthrych diddorol ond wedyn mae
cleddyf Segontium yn un o’r gwrthrychau archaeolegol pwysicaf yn y casgliad –
eto mi fyddwn yn mynd yno jest i weld y cleddyf.
Neu beth am y llechi cerfiedig o Nant Ffrancon? Rydym angen gwrthrychau mewn amgueddfa, nid y nonsens
‘sgrin-gyffwrdd’ a phopeth ar gyfrifiadur a dyma llwyddiant mawr STORIEL, mae’r
holl le yn teimlo fel rhywbeth dinesig a newydd (Efrog Newydd / Stuttgart) ond
fod Coron Enlli yn eistedd yn daclus ac yn amlwg yn y casgliad.
Rhaid, rhaid, buddsoddi mewn diwylliant a mae gogledd
Cymru yn cael ei drawsnewid. Mae hyn yn ofnadwy o bwysig. Ewch a chefnogwch.