Wednesday 21 October 2015

Hanes Canu Pop Cymraeg (Written by the victors) Herald Gymraeg 21 Hydref 2105


 

 

 

‘History is written by the victors’ dyna ddywedodd Walter Benjamin (1892-1940), y sylwebydd  Marcsaidd, a fu dan ddylanwad syniadaeth ‘ysgol Frankfurt’ a chymeriadau fel Brecht. Cysylltir y dyfyniad yn aml gyda Churchill ond bellach mae’n ddywediad cyfarwydd a chydig sydd yn gwybod am hanes Benjamin.

Yn fy ngholofn yr wythnos dwetha (14 Hydref) awgrymais fod y rhaglen ddogfen ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ (S4C) gan Gareth Potter a Pete Telfer wedi llwyddo i adrodd hanes y ‘Sin Danddearol’ (cerddoriaeth pop Cymraeg amgen yn ystod y 1980au hwyr / 1990u cynnar) yn fanwl gywir. Awgrymais hefyd fod ymosodiadau rhai fel Pat Datblygu a Mark Lugg o’r grwp Traddodiad Ofnus, ar yr ‘hen stejars’ wedi bod yn hanfodol ac angenrheidiol.

Ond gadewch i mi ail feddwl, ac efallai ail osod y cwestiwn. O ystyried dyfyniad Walter Benjamin, onid oedd Potter a Telfer felly yr un mor euog, o sgwennu’r stori drwy eu sbectol dywyll cwl eu hunnain? Oedd yna le yn rhywle yn ystod y rhaglen i gael sylwadau gan rhywun fel Geraint Davies (Hergest) neu Cleif Harpwood (Edward H), y nhw wedi’r cwbl oedd y ‘gelyn’ dan sylw. Cwestiwn arall wrthgwrs yw, os oedd Geraint neu Cleif hyd yn oed yn malio neu yn ymwybodol o beth oedd Pat Datblygu neu Mark Lugg yn ei ddweud ar y pryd?

Ar ol yr holl ganmoliaeth gennyf i’r rhaglen, dyma ail feddwl, a theimlo fod angen naratif arall. Mae angen gwybod weithiau beth oedd y ‘gelyn’ yn feddwl. Beth yn union oedd yn mynd drwy feddyliau cenhedlaeth Edward H wrth i’r Cyrff arwain y chwyldro cerddorol newydd drwy Gymru, Lloegr a Llanrwst?
 

 

Cawn sawl naratif ar Hanes Canu Pop Cymraeg wrthgwrs, ac efallai un o’r rhai mwyaf ‘diddorol’ yw’r un a geir gan y casglwr recordiau o Fanceinion, Andy Votel. Rwan dyma chi rhywun o’r ‘tu allan’ yn ‘darganfod’ cerddoriaeth Cymraeg a chyda cymorth Gruff Rhys (Super Furry Animals) dyma rhyddhau casgliad ar CD o ganeuon ‘coll’ Cymraeg ‘Welsh Rare Beat’.

Nid mel i gyd yw hyn cofiwch. Cwestiwn Un: Oes angen rhywun o Fanceinion i ‘ddarganfod’ cerddoriaeth Cymraeg a wedyn ei ail-gyflwyno (ail-dwymo) i ni frodorion fel petae ni rioed di sylwi pam mor dda oedd y gerddoriaeth yma. Cwestiwn Dau: Oes unrhywbeth o’i le gyda’r syniad o gasgliad o’r fath?  Oleiaf mae ‘Rare Beat’ yn cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg, ac yn an-uniongyrchol yr Iaith Gymraeg, i gynulleidfa ehangach.

Felly beth yw’r broblem gyda’r naratif? Un ateb wrthgwrs yw fod hyn yn ail-sgwennu’r union ‘hanes’ a fynegwyd mor ddi-flewyn ar dafod ar rhaglen ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Doedd Votel ddim yn byw yng Nghymru yn y 1970au, doedd o ddim yn gorfod dioddef y roc-saff-canol y ffordd- traddodiadol Cymraeg oedd yn ddigon i droi pobl fel fi, a hynny ar garlam, ac ar y dren gyntaf o’r orsaf, tuag at gerddoriaeth Saesneg (a chwl) y Sex Pistols, Y Clash neu Blondie.

Sgwni beth fyddai ymateb Votel petawn i yn rhyddhau casgliad o gerddoriaeth o Fanceinion o’r 1970au hwyr ond ddim yn cynnwys Joy Division na’r Buzzcocks gan ddweud wrth y “Manc’s” ‘but you don’t understand – this is really cool stuff’.

Naratif arall bosib yw’r un gan y genhedlaeth ifanc gyfoes yn y Byd Pop Cymraeg. Sawl gwaith rwyf wedi sgwrsio a rhai sydd ddim yn gweld unrhyw anghysondeb yn y ffaith eu bod yn mwynhau cerddoriaeth Edward H a Datblygu. Ddigon teg heddiw, wedi’r cyfan - heddiw yn 2015, byddwn yn rhestru ‘Mistar Duw’ gan Edward H fel un o’r caneuon gorau i’w chyfansoddi yn yr Iaith Gymraeg erioed – a chan y byddwn yn fwy na hapus i wneud trefniant ohonni hefo unrhyw brosiect cerddorol y byddwn yn gysylltiedig. Ond, petae rhywun wedi awgrymu hynny ym 1980, wel, mi fyddwn wedi poeri’r syniad allan heb eiliad o ystyriaeth.

Yr hyn sydd yn ofnadwy o anodd i’w ddeall heddiw yw fod cenhedlaeth Y Cyrff a Datblygu yn yr 1980au wedi gorfod ymwrthod a’r hyn oedd wedi bod o’r blaen. Doedd dim dewis ganddynt os am greu y Gymru newydd – a dyna oedd yn hollol hollol amlwg wrth wylio rhaglen ddogfen ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Dydi’r cyd-destyn cymdeithasol a gwleidyddol ddim yr un peth heddiw – felly mae disgwyl i ddilynwyr y Byd Pop Cymraeg heddiw ddeall hyn yr un mor anhebygol a fod pobl heddiw yn deall beth ysgogodd Edward H I sgwennu can fel ‘Mistar Duw’ am Ryfel Fietnam.

Wrth reswm, mae’r archaeolegydd / hanesydd ynof am bwysleisio pwysigrwydd y cyd-destyn gwleidyddol a chymdeithasol. Dydi canu pop ddim yn bodoli mewn gwagle a mae dadl arall yndoes fod y gerddoriaeth pop orau bob amser gyda ‘neges’ – meddyliwch am ‘Dwr’, neu  ‘Y Teimlad’ – dau begwn gwahanol, dwy gan bop perffaith, ond y neges yn hanfodol !

Byddaf yn rhoi sgyrsiau yn aml iawn i ddisgyblion ysgol am Hanes Canu Pop Cymraeg, rhan o ymdrech / ymgyrch ehangach i ledaenu’r gair fod diwylliant Cymraeg nid yn unig yn berthnasol ond ei fod hefyd yn rhywbeth ‘cwl’. Ewch i unrhyw fuarth ysgol a buan iawn mae rhywun yn sylwi fod siarad Saesneg yn bell rhy ‘cwl’ a fod y gwaith cenhadu yn ddi-orffen, ac angen ei gyflwyno flwyddyn ar ol blwyddyn.

Pennod arall yn y naratif yma ar Hanes Canu Pop Cymraeg yw cyngerdd sydd yn cael ei drefnu yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar y 7fed o Dachwedd er mwyn codi arian i’r elusen ‘Cerddoriaeth Mewn Ysbytai’. Noson yw hon i ddathlu cyfraniad Barry Cyrff, Al Maffia, Johnny Fflpas a Bern Elfyn Presli i’r Byd Pop (tanddaearol) Cymraeg.
 
 


 

 

No comments:

Post a Comment