Dwi’n siwr bydd darllenwyr
yr Herald Gymraeg yn chwerthin wrth ddarllen hyn, ond rhaid cyfaddef ei
bod yn braf weithiau bod yn anghywir am bethau. Rwyf wedi sgwennu sawl gwaith
yn ddiweddar am Urdd Derwyddon Mon a’r defodau mae nhw’n gynnal ym Mryn Celli
Ddu, ond dyma tro ar fyd. Dyma ddod i adnabod y ‘prif dderwydd’, Kris Hughes, a
wyddo’chi be, rwyf i a Kris yn berffaith hapus i rannu’r Gymraeg, o fewn
eiliadau i’r ysgwyd dwylo cyntaf, fe fyddwn yn dweud bod ni’n hen ffrindiau.
Yr elfen arall ddoniol, os nad swreal, yn hyn oll yw mai y
corff henebion llywodraethol, Cadw, oedd yn gyfrifol am ddod a ni at ein
gilydd. Fe soniais bythefnos yn ol am y gwaith cloddio dan ofal Cadw yn y
dirwedd o amgylch Bryn Celli, a rhaid dweud fod hwn yn un o’r profiadau gorau dwi
di gael fel archaeolegydd. Os oedd cael gweithio yn y dirwedd Neolithig yma yn
fendigedig o ran y profiad archaeolegol, roedd elfen arall yr un mor bwysig.
hefyd wedi cyfrannu at wneud y bythefnos ger Bryn Celli yn brofiad eithriadol.
A beth felly oedd yr elfen eithraiadol arall yma? Wel cael
cyfarfod a rhannu sgyrsiau hefo Kris oedd un ohonnynt. Pwy fydda wedi disgwyl
bydda Derwydd, hen Pync Rocar (Mr Mwyn) a staff Cadw yn cloddio ochr yn ochr ac
yn cofnodi os nad darganfod cerfiadau Neolithig. Felly archaeoleg ddaeth a phawb
at eu gilydd. Archaeoleg chwalodd y ffiniau.
Roeddwn wrth fy modd a hyn. Mae rhagfarnau yn bodoli er mwyn
eu chwalu. Y tebygrwydd yw fod Kris a finnau wedi dysgu rhywbeth o sgwrsio, ond
heb os, roedd cyffro y gwaith cloddio yn golygu ein bod ar yr un ochr, yn rhan
o’r un tim. Yn gyd-weithwyr ac yn gyd-deithwyr. Felly wrth fynychu’r ddefod ar
fore hirddydd Haf, heuldro’r Haf, roedd y gwr yng nghanol y cylch Derwyddon
bellach yn un o fy ffrindiau, dim ots faint o ddylanwad Punk oedd ar Mr Mwyn,
roeddwn yn gwennu fatha cath ac yn mwynhau’r ‘profiad’.
Cafwyd cannoedd o bobl yn galw heibio yn ystod y Diwrnod
Agored ar 20fed Mehefin. BuiI mi gynnal pediar daith tywys yn ystod y prynhawn
ac amcangyfrifaf fod dros 25 wedi mynychu pob un – felly yn sicr dros gant o
bobl wedi mynychu’r teithiau tywys yn unig. Ha, medda fi, neges clir i S4C, mae yna ddiddordeb mewn
hanes ac archaeoleg, dewch ac ‘Olion’ yn ol am gyfres arall !
Yr uchafbwynt arall yn ystod y bythefnos ym Mryn Celli oedd
cael dod i adnabod Wil sydd yn ffarmio yno. Rwyf wedi sgwrsio gyda Wil sawl
gwaith dros y blynyddoedd tra yn ymweld yno a grwpiau neu ddosbarthiadau ond y
tro yma cefais fwy o amser i sgwrsio a dod i glywed mwy am hanes y caeau a’r
dirwedd o amgylch y cofadail. Beth bynnag ’da ni archaeolegwyr yn feddwl da
ni’n wybod, mae’r ffarmwr lleol yn adnabod ei dir llawer gwell na nawn ni byth.
Efallai fod hyn yn swnio yn od, ond er cymaint y wefr a’r
fraint o gael cloddio ym Mryn Celli, roedd cael gwahoddiad i rannu panad hefo
Wil yr un mor bwysig i mi. Ystyriaf wahoddiad i gael panad yng ngegin rhywun yn
fraint o fath arall. Dyma sgwrsio am dros awr a hanner a chlywed hanesion. Dyma
gyrraedd adre yn ofnadwy o hwyr, ond eto, gyda gwen enfawr ar fy wyneb.
Pobl sydd yn gwneud hyn yn bwysig yn y diwedd, ein bod yn
cael cyd-ddysgu a thrafod, heb rannu’r wybodaeth a heb bobl yn gwrando, sgwrsio
neu fynychu teithiau tywys does dim gwerth i’r peth.
No comments:
Post a Comment