Saturday, 25 July 2015

Dyddiadur Cloddio, Llafar Gwlad 129.


 

 

 


 
Safle Saethu Penmaen Ucha

Un canlyniad o’r digwyddiadau i gofio 100 mlynedd ers ddechrau’r Rhyfel Mawr yw fod ffocws wedi ei roi ar olion milwrol yng ngogledd Cymru, a fel rhan o brosiect a arianir gan Cadw bu criw o wirfoddolwyr dan oruwchwyliaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cofnodi’r safle saethu ger Penmaen Uchaf Dolgellau yn ystod Hydref 2014.

Credir fod y safle saethu yn dyddio yn ȏl i gyfnod y rhyfel yn erbyn y Boeriaid (1899-1902) ond fod y rhan helaeth o’r defnydd wedi bod yn ystod y Rhyfel Mawr gyda ychydig o ddefnydd pellach wedyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y syndod wrth gyrraedd y safle heddiw yw fod cymaint o olion ar ôl, ond efallai fod y defnydd aml-gyfnod yma yn esbonio pam fod y safle wedi goroesi hyd at yr Ail Ryfel Byd oleiaf. Yr hyn sydd yn wyrthiol yw fod y fframia haearn heb eu dwyn / ailgylchu yn y blynyddoedd diweddar.

Yr hyn sydd i’w weld fwya amlwg yw’r chwech ffram haearn fyddai wedi dal y targedau, a byddai’r targedau wedyn yn cael eu codi gyda defnydd olwyn a chadwyni. Lleolir y fframiau yma tu cefn i glawdd sylweddol o bridd fel bod y dynion oedd yn codi’r targedau yn saff rhag unrhyw fwledi oedd yn methu’r targed. Felly wrth i’r targedau gael eu codi uwchben y clawdd byddai’r dynion yn gyrru neges i’r saethwyr a oedd wedi eu lleoli tua 500 llath i ffwrdd fod popeth yn iawn iddynt ddechrau saethu. Nid mor hawdd dehongli’r safle lle safai’r milwyr i saethu at y targedau, dim ond ychydig ffosydd sydd ar ôl.

Yn ȏl Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd dyma’r unig safle o’r fath sydd wedi goroesi  yng ngogledd Cymru. Awgrymir hefyd fod y fframiau sydd i’w gweld heddiw yn dyddio o gyfnod oddeutu 1909 a’r tebygrwydd yw fod rhain wedi cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer y safle yma am gost o £6 17s 6d er byddai’r gost wedi codi dros gyfnod y Rhyfel.

Esbonir y lleoliad ym Mhenmaen Ucha ar gyfer y safle saethu drwy’r cysylltiad a Stad Nannau, Llanfachreth a fod y teulu yn gyfrifol am filwyr yn ystod Rhyfel y Boeriaid.

Mae ychydig o wybodaeth am y safle i’w gael ar dudalen heneb.co.uk/ww1/penmaenucha.html


Boston Lodge, Rheilffordd Ffestiniog
 


Drwy wahoddiad Ymddiriedolaeth Rheilffordd Ffestiniog, bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio am wythnos yn Boston Lodge ar y safle a elwir yn ‘Top Yard’ sef yr ochr ddwyreiniol o’r gweithdai ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog. Sefydlwyd y gweithdai ym 1847 ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw i’r wagenni a dynnir pryd hynny gan geffylau er mwyn cludo llechi o Ffestiniog i’r porthladd ym Mhorthmadog.

Ehangwyd y safle yn sylweddol wedyn ym 1863 gyda’r defnydd o drenau ager ac erbyn y 1870au roedd trenau yn cael eu hadeiladu yma ar y safle. Daeth y rheilffordd i ben ym 1939 ond er hyn roedd rhan helaeth o’r isadeiladedd a’r adeiladau wedi goroesi tan 1954 pan sefydlwyd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Ffestiniog er mwyn adfer y rheilffordd. Yn ystod y cyfnod yma yn y 1950au hwyr ac yn ystod y 1960 dymchwelwyd rhai o’r adeiladau a gwelwyd cyfnod o ail adeiladu ar y safle.

Amcanion y gwaith cloddio diweddar oedd cael golwg ar beth oedd yn weddill o’r siediau oedd yn sefyll yma ar un adeg a chanolbwynt y cloddiad oedd y darn tir gyferbyn a Phlas Smart (adeliad rhestredig Gradd II).

Gwyddwn fod rhan o’r adeilad yma (storfa ar gyfer wagenni) wedi ei chwalu ar gyfer y ffordd fynediad ddiweddar a doedd fawr ar ôl i’w weld ar y wyneb ond ychydig o wal ger y chwarel, felly roedd angen cloddio o dan y pridd i weld beth yn union oedd wedi goroesi. Yn wahanol i’r arfer, yn sicr pan yn archwilio safleoedd hynafol neu chyn-hanesyddol, roedd gennym luniau o’r safle yn y 1930au a hefyd ganlyniadau gwaith cloddio archaeolegol ar y safle ym 1956, felly roedd syniad gennym beth i’w ddisgwyl oleiaf.

Wrth glirio’r pridd, daethpwyd o hyd i lawr y sied, oedd wedi ei ffurffio o ‘grawiau’ sef slabiau o lechan a chafwyd hyd i’r cledrau a rhai o’r cerrig (bowlderi naturiol) oedd yn eu dal yn eu lle. Ychydig iawn o weddillion y wal allanol oedd ar ôl ac er fod gennym ffotograffau o’r sied ar gyfer cymharu nid hawdd oedd dehongli yn union lle roedd y drysau i’r sied.

Yn wreiddiol, safle’r chwarel ar gyfer adeiladu ochr Sir Feirionnydd o’r Cob oedd yma. Adeiladwyd y Cob rhwng 1809 – 1812 gan William Maddocks ac yn ôl y son bu barics ar gyfer y gweithwyr ar y safle yn y cyfnod o adeiladu’r Cob (ond doedd olion Maddocks ddim yn rhan o’r ymchwiliad yma). Yr unig beth oedd yn weddol amlwg i ni wrth gloddio, a roedd cofnodion hanesyddol yn cadarnhau hyn, fod safle’r chwarel wedi ei wastadu oddeutu 1836 ac mae’n debygol fod tywod o’r Traeth Mawr wedi ei ddefnyddio i’r perwyl hyn. Wrth gloddio drwy’r pridd cafwyd haenen bendant o dywod melyn fyddai wedi bod ddigon effeithiol ar gyfer gwastau’r tir cyn datblygu’r gweithdai ym Moston Lodge.

Y rhan nesa o’r broses fydd cyhoeddi adroddiad gan David Hopewell, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar ganlyniadau y gwaith cloddio.


Tomen y Rhodwydd
 

Ian Grant o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys sydd wedi bod yn arwain ar y gwaith ar Domen y Rhodwydd ger Llandegla. Tomen y Rhodwydd yw tomen gastell Owain Gwynedd a adeiladwyd oddeutu 1147 – 49 wrth i Owain Gwynedd ymestyn ei ddylanwad i’r dwyrain ac i diriogaeth tywysogion Powys.

Cwta ddeng mlynedd, os hynny, y bu Owain Gwyned yma cyn i’r castell gael ei losgi gan Iorwerth Goch ap Maredydd o Bowys. Nid rhyfeloedd rhwng y Cymry a’r Normaniad (Saeson maes o law) yw’r stori o bell ffordd felly, a mae son i’r Brenin John atgyweirio dipyn ar y safle yn ystod ei ymgyrcheodd yng Nghymru 1212.

Her archaeolegol felly fydd ceisio gwahaniaethu rhwng adeiladwaith Owain Gwynedd a’r Brenin John o ystyried fod yr adeiladwaith yn llwyr o bren a phridd a dim cerrig. Amser a ddengys os bydd cyfle neu ganiatad i archwilio’r safle drwy gloddio archaeolegol ond yn sicr bwriad Grant yw cynnal arolwg geo-ffisegol o’r safle ar ol cwblhau y gwaith clirio coed.

Yr hyn sydd yn eithriadol am Rhodwydd yw ei faint, ni ellir ei ddisgrifio ond fel safle trawiadol tu hwnt a chawn yma engraifft pendant o’r twysogon Cymreig yn mabwysiadu’r dull Normanaidd o adeiladu cestyll Mwnt /Tomen a Beili.  Yn anffodus, yr hyn sydd hefyd yn bell rhy amlwg yw’r diffyg sylw i’r safle hynod yma, a dyma yw nod Ian Grant, sef clirio’r safle a gwella’r mynediad i’r cyhoedd.

Problem enfawr ar Domen y Rhodwydd yw’r coed drain sydd yn tyfu dros y safle a mae gwaith diweddar ar y cyd a myfyrwyr Coleg Llysfai wedi bod yn mynd yn ei flaen i dorri’r coed. Canlyniad hyn yw fod y cloddiau a’r ffosydd nawr yn dechrau dod yn fwy amlwg, a fod y safle ei hyn yn fwy gweledol.

Wrth deithio ar hyd ffordd droellog yr A525 drwy Nant y Garth mae modd cael cipolwg o’r castell ond yn sicr bydd mwy i’w weld yn y dyfodol ar ôl clirio a thocio’r coed drain. Rhy gyffredin yw clywed pobl yn dweud “wyddwn i ddim am fodolaeth y safle” a mawr ddiolch fod Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys wedi mynd i’r afael a’r diffyg ymwybyddiaeth anfaddeuol yma o ran Hanes Cymru. Dyma chi safle eithriadol o bwysig o ran Hanes Cymru a safle hynod drawiadol sydd mewn cyflwr cymharol dda.

Efallai fod rhan o’r ffôs o amgylch y mwnt wedi ei gau yn ystod cyfnod y porthmyn a fod y beili wedi ei ddefnyddio fel man cyfleus i gadw gwartheg. Gwelwn heddiw fod y clawdd allanol wedi ei chwalu a’r ffos wedi ei lenwi er mwyn creu mynedfa i’r beili i’r perwyl hyn. Felly mynedfa ddiweddar yw’r un a ddefnyddir heddiw wrth ymweld a’r safle.

 

Carn Dochan

Braf yw cael cyhoeddi ers sgwennu am Gastell Carndochan yn rhifyn Llafar Gwlad 127 fod dipyn o bobl wedi cymeryd diddordeb yn un o gestyll llai amlwg Llywelyn ab Iorwerth. Trefnwyd taith gerdded yn ystod mis Mawrth gan Siop Awen Meirion, y Bala, gyda tua ugain o drigolion Llanuwchllyn a’r cylch yn ymuno ar y daith gerdded. Gan ddechrau o dirwedd ganol oesol Trefeurych a chrwydro wedyn ar hyd lethrau Moel  Caws a gorffen y daith yng Ngharndochan cafwyd diwrnod hyfryd yn trafod hanes a thirwedd ardal Llanuwchllyn.

 

No comments:

Post a Comment