LLundain, Paris, Efrog Newydd, Cricieth, Merthyr Tudful. Ie
wir, beth am ychwanegu Cricieth a Merthyr. Newydd ei gynnal mae’r wythfed ar
hugain Gwyl Cricieth a’r tro yma roedd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, David Owen,
yn rhoi darlith goffa Lloyd George. Dros y blynyddoedd mae nifer o wleidyddion/darlledwyr
amlwg wedi rhoi y sgwrs yma, Paddy Ashdown, Edwina Currie a Huw Edwards yn eu
plith.
Anodd gennyf feddwl am Cricieth heb ddechrau canu ‘Sawl C
sydd yn Cricieth’ gan y Dyniadon. Anodd gennyf fynd i Gricieth heb feddwl am
gastell hynod y ddau Llywelyn, ond yr wyl sydd yn hawlio’r sylw y tro yma. Ac,
yng nghyd-destyn yr Wyl, onid peth braf yw gweld fod enwogion o’r fath yn
cymeryd rhan mewn gwyl fel hon yn nghornel arfordirol deheuol Eifionydd.
Sioe lwyfan Lowri Ann Richards oedd y rheswm i mi fynychu
Gwyl Cricieth eleni, cabaret yn dwyn yr enw ‘Whatever Happened to La La
Shockette?’. Sioe gyda elefen hunangofiannol yw hon yn olrhain hanes Lowri o
ddyddiau cyffrous y ‘Blitz Kids’ yn Soho, Llundain ddechrau’r 1980au hyd at y
presennol.
Roedd sawl peth amlwg iawn am sioe Lowri Ann, un oedd ei
dawn fel perfformwraig, heb os dyma gyfiawnhau defnydd o’r gair ‘ymryddawn’ yng
nghyd destyn perfformiad Lowri Ann. Roedd y canu yn ymestyn o’r canu pop i’r
lled-glasurol, roedd Lowri Ann yn dawnsio ac yn ‘actio’ ac yn gyffredinol
ddisgelirio dros y ddwy awr o’r sioe.
Braf oedd gweld y Neuadd Goffa yn orlawn ar gyfer sioe o’r
fath. Nid fod y sioe at ddant pawb dwi’n siwr, mi oedd na ddipyn o ‘ryw a
chyffuriau’, ond fy argraff i o’r noson oedd fod y neuadd yn un hyfryd, ac yn
un addas, a dychmygais fy hyn yn mwynhau profiad fel hyn yn un o ddinasoedd
mawr Lloegr – cyn cofio fy mod yng Nghricieth.
Merthyr oedd yr ychwanegiad arall at y rhestr, Llundain,
Paris ac Efrog Newydd. Soniais yn ddiweddar am wyl ‘Merthyr Rising’, engraifft
arall perffaith o ddigwyddiad lleol, hynny yw wedi ei drefnu gan bobl lleol,
ond gyda gorwelion llawer ehangach na’r plwyf.
Siom felly oedd clywed drwy’r cyfryngau cymdeithasol fod y
murlun ‘Merthyr Rising’ yn Sgwar Penderyn a beintwyd ar gyfer yr wyl eleni, wedi
gorfod cael ei guddio gyda paent dan orchymyn y cyngor lleol. Rwan, dwi ddim yn
gwybod y ffeithiau yn iawn, ond dyma chi engraifft da, er ddim mor ddifrifol a
murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd, o’r awdurdodau yn cael gwared a rhywbeth
oedd yn cyfoethogi’r lle.
Defnyddiaf y gair ‘cyfoethogi’ mewn sawl cyd-destyn.
Cyfoethogi yn sicr o ran creu ymwybyddiaeth o hanes, ond hefyd cyfoethogi o ran
dod a ddipyn bach o liw i dref ol-ddiwydiannol sydd yn gallu bod ar adegau,
ddigon llwm. Does ond rhaid treulio hanner awr ym Merthyr neu Gasnewydd i
sylweddoli fod rhain yn drefi ddigon tlawd lle mae effaith toriadau Thatcher yn
dal i frathu’r werin bobl.
Y pwynt efallai gyda’r murlun yw ei fod yn ddatganiad o
hanes a diwylliant chwyldroadol y dref, yng nghrud y chwyldro diwydiannol, yn
gysylltiad a’r union werin bobl sydd yn byw yno heddiw – a dyna orchymyn i’w
guddio. Dim ond gair fel ‘siomedig’ sydd yn disgrifio agwedd y cyngor. Pa ots
am reolau cynllunio neu beth bynnag oedd y broblem – onid oes modd defnyddio
synnwyr cyffredin ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant weithiau?
Fel un sydd yn byw yng Nghaernarfon, rhaid cyfaddef nad fy
mrwydyr i yw hon mewn ffordd, a mae’r frwydr drosodd cyn cychwyn beth bynnag.
Gwr o’r enw Anthony Bunko ddaeth ar achos yma i’m sylw. Awdur yw Bunko, ef
sgwennodd gofiant Stewart Cable, drymar
y Stereophonics cyn mynd ymlaen i sgwennu llyfrau am Hugh Lawrie a Hugh
Jackman.
Cefais gopi o’i lyfr diweddaraf ‘I was a business / bullshit
consultant’ yn ystod Gwyl Merthyr Rising 15. Hogyn arall o’r dref sydd wedi
gwneud yn dda iddo fo’i hyn yw Bunko. Rhyfedd rhywsut achos mae Bunko yn son am
ei brofiad yn tyfu fyny ym Merthyr, a
fod dangos diddordeb mewn llyfrau, y theatr neu yfed gwin yn ddigon o reswm i
rhywun gael ei guro gan hogia arall.
Dydi agweddau’r dosbarth gweithiol ddim bob amser y rhai
mwyaf iach. Yn sicr cawn elfennau cryf o gulni a cheidwadaeth cymdeithasol ar
adegau, yn enwedig lle mae yna dlodi a di-freintithiaeth. Efallai fod hyn yn
hanner esbonio y twf yn y gefnogaeth i blaid fel UKIP mewn rhannau o Gymru. Ar y
pegwn arall cawn fewnfudwyr o Doriaid asgell dde hefyd mewn rhannau o Gymru a
rhyfedd o fyd sut mae’r Chwith a’r Dde yn gallu rhannu’r un gwelu o ragfarnau
noeth ac afresymol.
Rhaid cyfaddef i mi chwerthin yn uchel wrth ddarllen am
brofiadau Bunko fel ymgynghorydd busnes. Dyma chi lyfr sydd yn seiliedig ar
brofiadau go iawn gyda ambell / sawl engraifft o or-lywio wedi eu hychwanegu.
Rhaid cyfaddef hefyd i mi chael hi’n anodd hefo ambell beth roedd Bunko yn
sgwennu.
Mae un darn ganddo yn disgrifio ei brofiad yn cyfarfod dyn
sydd yn trawswisgo fel merch, y disgrifiad mae o yn ddefnyddio ydi ‘trannie’
(sef Transvestite) ond mae’n cyfeirio at yr unigolyn yma fel ‘it’. Methais yn
llwyr ac uniaethu a’r awdur yma, collais y trywydd hiwmor ac fe’m atgoffwyd o
greulondeb plant yn y buarth ysgol.
Cyhoeddwyd llyfr Bunko gan Y Lolfa. Credaf felly fod achos
Cricieth a Merthyr fel trefi diwylliannol ddigon clir a da o beth yw cael y
fath amrywiaeth yma yng Nghymru.
No comments:
Post a Comment