Yn draddodiadol, mae’r cyfnod hanesyddol sydd yn dilyn y
Rhufeiniad ac yn ymestyn wedyn tuag at ddiwedd y mileniwm cyntaf wedi cael ei
alw yn ‘Dark Ages’. Heddiw, mae consensws ymhlith archaeolegwyr fod hwn yn ddisgrifiad
anheg os nad anaddas. Defnyddir y disgrifiad ‘Canoloesoedd Cynnar’ yn amlach na
pheidio bellach.
A’i un o’r termau yna a fathwyd yng nghyfnod y Fictoriaid,
yn anterth yr Ymerodraeth Prydeinig,
felly yw ‘Dark Ages’, gan awgrymu fod y Fictoriaid rhywsut o dan
gam-argraff mai ond yn eu cyfnod nhw cafwyd gwareiddiiad go iawn? Efallai wir,
fod agweddau Prydeinig / Seisnig, ymerodraethol, imperialaidd, yn ymylu ar fod
yn hiliol, yn rhemp ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fod hyn wedi
dylanwadu ar sut bu i bobl edrych ar hanes.
Er hyn, does dim dadl fod y cyfnod yma, yn sicr o 400 tan
tua 1000 oed Crist yn gyfnod lle mae diffyg tystiolaeth archaeolegol o ran sut
a lle roedd pobl yn byw yng Nghymru felly mae gwaith diweddar Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd ac Adran Hanes Phrifysgol Bangor yn cloddio ar safle
Rhuddgaer, Ynys Mon yn ofnadwy o bwysig.
Bu mymryn o gloddio ar y safle llynedd yn dilyn arolwg
geoffisegol o’r tir i’r dwyrain o Afon Braint ac ar lan y Fenai. Datgelwyd
drwy’r arolwg geoffisegol fod sustem o gaeau amaethyddol a hyd at saith adeilad
yn bodoli o dan y pridd. Er hyn mae dweud ‘o dan y pridd’ yn gor-symleiddio
pethau yng nghyd destyn ardal Rhuddgaer gan fod yr ardal yma wedi dioddef
effaith stormydd tywod o gyfeiriad y mor.
Felly wrth gloddio, rhaid symud oddeutu medr os nad medr a
hanner o dywod glan, melyn, cyn cyrraedd y pridd a’r ‘archaeoleg’. Rydym yn
ymwybodol wrthgwrs am hanes storm enfawr 1330, y storm dywod sydd yn gyfrifol
am guddio Llys Rhosyr gerllaw yn Niwbwrch. LLys Rhosyr a gloddwyd gan Neil
Johnstone (Johnstone 1999) ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yw un o
lysoedd tywysogion Gwynedd ac un o’r ychydig adeiladau llys rydym wedi ei
ddarganfod.
Gwaith Johnstone yn Llys Rhosyr arweiniodd wedyn at ddarganfod un o lysoedd
arall Llywelyn ap Gruffydd yn Nhy’n y Mwd, Abergwyngregyn gan ddatgelu adeilad
tebyg iawn o ran ffurf a maint i’r hyn a welir yn Llys Rhosyr. Yn anffodus yn
Abergwyngregyn doedd dim digon o oilion wedi goroesi i’w cadw ar agor fel yn
achos Rhosyr.
Hefyd yn achos Abergwyngregyn mae’r ddadl barhaol am Pen y
Bryn fel safle’r llys yn tueddu i ddrysu pethau. Mae’r archaeoleg a gwaith
Johnstone (a John G Roberts / David Hopewell yn ddiweddarach) yn awgrymu yn
gryf mae buarth y domen-gastell Normanaidd, a gipwyd yng nghyfnod Gruffydd ap
Cynan, a ddatblygodd fel safle’r neuadd neu lys ar gyfer tywysogion Gwynedd.
Wrth cloddio yn Rhuddgaer dros y bythefnos ddwethaf gyda
criw o wirfoddolwyr drwy gymorth nawdd cloddio gan Cadw, cafwyd cyfle i
ddatgelu un o’r adeiladau. Adeilad sylweddol wedi ei wneud o fowlderi mawr oedd
hwn a daethpwyd o hyd i ddwy fynedfa / drws a chorneli crwn i’r adeilad
hirsgwar.
Yn anffodus, ni chafwyd hyd i le tan gan yr archaeolegwyr
felly amhosib yw cadarnhau fod rhywun wedi byw yma, ond rhaid cyfaddef mai heb
gael hyd i le tan yr ydym yn hytrach na gallu datgan gyda unrhyw sicrwydd nad
oedd lle tan yma. Felly, efallai fod gennym adeilad lle roedd rhywun yn byw yn un
rhan ohonno a defnydd amaethyddol i’r rhan arall?
Ond os yw’r ‘Dark Ages’ yn gyfnod lle rydym wir angen
darganfod mwy o dystiolaeth arcaheolegol
yma yng Nghymru mae dyddiadau radiocarbon llynedd yn awgrymu dyddiad rhywbryd o
gwmpas 800 – 900 oed Crist i’r safle.
No comments:
Post a Comment