Beth i’w wneud ag ardaloedd llai llewyrchus y trefi
ol-ddiwydiannol? Cwestiwn da, a’r ateb yn Abertawe yw creu rhyw fath o ardal /
ganolbwynt gelfyddydol neu ddiwylliannol ar ben uchaf y Stryd Fawr, sef yr
ardal rhwng y castell a’r orsaf drenau.
Y gwr sydd yn gyfrifol am ran o’r weledigaeth yma yw Huw
Williams, cyn leisydd y grwp pop tanddaearol Pooh Sticks, a hefyd sylfaenydd y
Sefydliad Gerddoriaeth Gymreig. Mae Huw yn un o fy hen ffrindiau, yn un o’r
cyd-deithwyr ar ddechrau’r 1990au pan roedd Huw wrthi yn hyrwyddo’r grwp 60Ft
Dolls o Gasnewydd a finnau wrthi yn rhyddhau y recordiau cynnar (cyntaf) gan
Catatonia.
Arferai Huw fy ffonio pob nos tua 5pm i roi y Byd yn ei le,
ac i weld os oedd Radio 1 neu’r NME wedi cymeryd sylw o sengl ‘For Tinkerbell’
gan Catatonia eto? Da oedd Huw, ac yn y blynyddoedd ar ol ‘Cwl Cymru’ rhannais
ddyletswyddau gydag ef ar fwrdd cyfarwyddwyr y Sefydliad Gerddoriaeth Gymreig.
Roedd cyfnod Huw gyda’r Sefydliad hen drosodd cyn i’r Bwrdd
ofyn i mi wagio fy sedd o amgylch y bwrdd, a hynny er mwyn creu lle i rhywun
llawer mwy enwog na fi, Charlotte Church. Dwi ddim yn credu i Charlotte druan
cael eistedd yn y sedd roeddwn wedi gadw yn gynnes, gan i Lywodraeth Cymru, yn
eu doethineb, benderfynu dod a’u nawdd i ben – a dyna ddiwedd ar hynny.
Wrth i mi dderbyn y cofnodion o’r cyfarfod lle penderfynwyd
gofyn i mi roi fy sedd i fyny, sylwais mae dau Gymro Cymraeg gynnigiodd ac
eiliodd y cais. Does dim nadroedd mwy llithrig na’r hen gynafon hynny yn y Byd
Pop Cymraeg.
Welais i ddim o Huw, gwaetha’r modd, wrth i mi roi sgwrs yn
ddiweddar yn Galerie Simpson, oriel gelf ar y Sryd Fawr yn Abertawe ond roedd
Jane Simpson, perchennog yr oriel yn uchel ei chloch wrth ganmol gweledigaeth a
chymorth Huw. Yr achlysur yn Galerie Simpson oedd sgwrs amser cinio ar gyfer
diwrnod olaf arddangosfa Jamie Reid (cynllunydd cloriau’r Sex Pistols).
Gan fod Jamie a finnau eto yn hen ffrindiau, a Jamie yn
gyfrifol am greu gwaith celf i’r Anhrefn a phrosiect Hen Wlad Fy Mamau, ddigon
naturiol rhywsut, mewn rhyw ffordd ‘Who do I know in Wales?” i Jamie gynnig y
byddwn yn rhoi sgwrs am Ddiwylliant Cymreig i gloi y sioe.
Penderfynais roi sgwrs ar sut mae creu a chynnal
gwrth-ddiwylliant o fewn cyd-destyn iaith leiafrifol fel y Gymraeg? Gwrth-ddiwylliant
yn yr un ystyr ‘counter-culture’, siawns
y bydd hyn yn plesio. Rhaid cydnabod hefyd fod Abertawe yn ddinas fawr
ol-ddiwydiannol, lle mae amrywiaeth eang iawn o ran y profiad Cymreig a
Chymreig.
Felly yn ogystal a chynnal y sgwrs yn (naturiol)
ddwy-ieithog, penderfynais fod modd trafod dipyn o hanes grwpiau pop Cymraeg
fel Y Blew, Llygod Ffyrnig a’r Trwynau Coch. O ystyried fod record ardderchog y
Blew wedi ei ryddhau mor gynnar ac 1967, a fod y record honno dal yn swnio yn
dda heddiw, teimlais fod Y Blew yn engraifft bwysig i’r rhai oedd ddim callach,
fod yna draddodiad hir o grwpiau roc yn canu yn Gymraeg.
Anoddach yw trafod ‘Merched Dan 15’, record gyntaf y Trwynau
Coch. Heddiw wrthreswm yn y dirwedd ol-Saville, mae canu am ferched ifanc
llawer mwy ‘amheus’. Y rheswm dros drafod hyn oedd er mwyn i ni werthfawrogi
fod ffiniau’r dirwedd ddiwylliannol yn
rhywbeth ansefydlog, sydd yn esblygu ac yn newid gyda amser – a mae rhai pethau
yn gallu dyddio.
Ddigon anodd hefyd yw trafod cyflwr diwylliant Cymraeg
heddiw, heb lansio’n ol i fod yn Punk un-ar-hugain oed. Rhaid oedd cyfaddef nad
oedd ateb gennyf, pam fod gormod o gerddoriaeth Pop Cymraeg yn parhau i fod yn
rhywbeth mor fewnblyg er gwaetha esiampl Catatonia a’r Super Furry’s. Y gwir
amdani, yw mai prin cyffwrdd yr Abertawe trefol di-Gymraeg mae grwpiau Pop
Cymraeg.
Er dweud hyn, mae artistiaid Cymraeg fel Gwenno, 9 Bach a
Georgia Ruth sydd yn cael llwyddiant ar y llwyfan rhyngwaldol heddiw, yn dal yn
chael hi’n anodd magu dilyniant yn rhywle fel Abertawe. Dyma’r ‘ugly, lovely
town’ chwedl Dylan Thomas – gyda ei gymeriad ei hyn, sut bynnag fersiwn o
Gymreictod yw hynny?
Pan ofynnodd rhywun o’r gynulleidfa pam fod Pobl y Cwm mor
wael, yr oll fedrwn wneud oedd chwerthin ac osgoi ateb. Yn anffodus mae pobl
(di-Gymraeg) yn sylwi fod rhai pethau Cymraeg yn chwerthinllyd, ac yn anffodus
i ni Gymry Cymraeg mae yna ormod o bethau Cymraeg ansafonol allan yna boed ar y
Cyfryngau neu yn y Byd Pop Cymraeg. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, rwyf yn cael
fy hyn yn ateb “I don’t know, I honestly don’t know”.
Rhywsut roeddwn yn gobeithio fod maniffesto’r Anhrefn yn ol
yn y 1980au dal yn berthnasol. Fod modd hyrwyddo Cymreigtod drwy greu
‘gwrth-ddiwylliant’, a fod herio’r Steddfod neu S4C neu Gymdeithas yr Iaith neu
Plaid Cymru yn gallu bod yn beth iach? Oleiaf da ni yn trafod pethau.
Chwerthais, nes fy mod yn sal, yng nghwmni gwr sydd ddim ofn
herio a gwneud hwyl ar phawb a phopeth. Un o ysgrifennwyr y ffilm Twin Town yw
Paul Durden ac wrth dreulio amser gyda Paul a rhai o’i gyfeillion dyma
sywleddoli fod cymeriadau Dylan Thomas a / neu Twin Town yn fyw ac yn iach yn
Abertawe heddiw.
Efallai mai ‘situationist’ yw’r disgrifiad gorau o Durden,
ond ar bnawn Sul yn Abertawe roedd chwerthin yn ei gwmni yn dweud y cyfan.