Wednesday 16 April 2014

Yn Saesneg 'Cultural Reference Point' Herald Gymraeg 16 Ebrill 2014.


 

Mae ’di bod yn wythnos o chwilio am ffon fesur, ffon fesur ddiwylliannol, i drio gwneud rhyw fath o synnwyr o bethau. Yn Saesneg mae hyn ddigon hawdd, mi fydda rhywun yn son am ‘cultural reference point’, felly dyma rwy’n olygu hefo fy ffon fesur,  ac yn y cyd-destyn ehangach mi fydda rhywun yn gwybod yn union beth yw, a lle mae’r cerrig milltir, beth sy’n dda a beth sy’n wael.

            Does dim dwy waith i mi gael wythnos hynod ddiwylliannol, gan gychwyn yn gwarndo ar David Dawson (Herald Gymraeg 9 Ebrill) yn son am Lucien Freud. Beth bynnag eich barn am waith Freud, fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr Ugeinfed Ganrif, mae’r ffon fesur yn amlwg. Ychydig ddyddiau wedyn rwyf yn y gynulleidfa yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ddigon agos i lle ganwyd Dawson, yn gwylio perfformiad Theatr Bara Caws ‘Dros y Top’.

            Does dim dwy waith fod sioeau Bara Caws o hyd yn dda, yn hawdd i’w gwylio. Pawb yn hapus. Ond beth yw’r ffon fesur, petae rhaid i mi adolygu’r noson, beth fyddwn yn ei ddweud ?  Rhaid cael mwy na, “mae nhw’n sioeau da”. Rhian Blythe oedd yn serenu ar y llwyfan, yn symud yn urddasol a’i gwyneb / ystumiau yn cyfleu yr angenrheidiol. Doedd hi ddim yn gorfod gor-actio yn y dull traddodiadol Cymraeg . Ond beth yw’r ffon fesur meddyliais ar gyfer y ddawnus Blythe ?
 

 

 
 

            Fe’m atgoffwyd o’r model, Sara Stockbridge, ‘muse’ Vivienne Westwood yn ol yn yr 80au. Un o’r merched deliaf (naturiol) erioed, roedd Stockbridge hefyd yn hynod ddeallus a mae hi bellach yn awdures ar nofelau Fictoraidd fel ‘Cross My Palm’. Byddai Blythe yn fodel gwych i Westwood meddyliais, dyna’r ffon fesur cyntaf ddaeth i’m meddwl yn Neuadd Dwyfor. Dwi rioed di clywed am Gymraes yn gweithio hefo Westwood.
 
 

Yr ail ffon fesur, oedd - byddai Ani Saunders, hi sydd yn gyfrifol am luniau cardifftothesee.com, yn un da i dynnu lluniau Blythe – dal y cymeriad mewn ffyrdd anghyffredin. Dwi’n dychwelyd yn rheolaidd at ffotograffau rhyfeddol Saunders. Gyda llaw /gyferbyn a Neuadd Dwyfor mae man geni Cynan – ewch i weld y gofeb.
 


            Os yw cardifftothesee.com a Sara Stockbridge yn rhoi rhyw syniad o beth yw beth, methiant llwyr fu trio prosesu’r boi sydd yn gweiddi ar Radio Cymru yn y prynhawn. Fel petae’r troellwr wedi cael amphetamins drwg, synnau teirw, dyma ‘Crymych FM’ yn y gwely hefo Alan Partridge. Does dim ffon fesur ar gyfer hyn, (wel heblaw Alan Partridge ar Crymych FM).
 

Os oes angen engraifft o sut i gyfleu’r Byd amaethyddol mewn ffordd ddiddorol a pherthsnasol pwy well na’r ffarmwr sy’n trydar, Gareth Wyn Jones. Hyd yn oed fel llysieuydd roeddwn yn cytuno a Gareth ar ‘The Hill Farm’ BBC 1 Wales, pan awgrymodd fod angen i’r archfarchnadoedd werthu cynnrych lleol – mi brynaf gynnyrch gardd ei wraig Rhian a chroeso, ond anghofiwch y cig i mi !

Gyda cefndir trawiadol tirwedd hanesyddol y Carneddau byddai’n anodd i hon fod yn raglen wael ond mae Gareth wirioneddol yn deall y Byd teledu. Mae’n gyfathrebwr naturiol, yn olygus, yn ddoniol ond yn bwysicach na dim – mae’n mynegi barn – mae ei angerdd yn amlwg. Dawn Gareth bob amser yw gosod ei waith o fewn cyd-destyn ehangach – mae hyn yn wleidyddol a mae hyn y bwysig ! Sgwn’i os yw S4C yn sylweddoli y cyfle mae nhw di golli i gael hyn yn Gymraeg ?

Artsitiad ifanc, ail flwyddyn, Coleg Menai sydd yn cael eu harddangos yn Oriel Galeri, Caernarfon ar hyn o bryd. Ewch draw, mae dehongliad Sadie Williams o gysylltiad Caernarfon a Phatagonia – sef y cyfarfod cychwynnol hwnnw yng Nghapel Engedi, Stryd Newydd ym 1856 – ymhlith y darnau mwyaf diddorol.

 
 

Fe gysylltodd yr arlunwraig Sian Owen ar Facebook o flaen llaw i wneud yn siwr fy mod am ddod draw i’r agoriad, felly dyma roi sylw iddi am ei hymdrech i hyrwyddo ei chelf. Cafodd Sian gyngor o fath gan Dewi Prysor mae’n debyg cyn creu ‘byrddau’ crwn, cyfryngau cymysg sy’n ymdrin a’r Mabinogi. Celf cysyniadol sydd yma ar y cyfan, yn ymwneud a Mon a Chaernarfon.  A’r ffon fesur ?  Mae angen gwthio dipyn mwy ar y ffiniau, neu oleiaf ail wrando ar ddarlithoedd Reith y BBC, gan Grayson Perry. Rhaid gwneud fwy o swn !

Y diweddglo i’r daith-antur ddiwylliannol oedd mynychu sioe / sgwrs ‘The Adventures of Andy Kershaw’ yn y Magic Lantern yn Nhywyn, Sir Feirionnydd. Fe ddywedodd y darlledwr Kershaw sawl peth hollol, hollol berthnasol (doedd o ddim yn son am y cyd-destyn Cymreig wrthreswm, ond …..). Un, oedd fod cyfrifoldeb ar y BBC i fod yn ‘broadcaster’ nid ‘narrowcaster’. Yn ail, wrth hel atgofion am y diweddar John Walters, cynhyrchydd John Peel a Kershaw, dyfynnodd Walters yn dadlau hefo’r siwts a’r biwrocratiaid mae cyfrifoldeb y BBC oedd “nid cyflwyno i’r gynulleidfa yr hyn oeddynt eisiau ond i gyflwyno deunydd nad oeddynt yn gwybod fod ei eisiau arnynt”.
 

Mae yna wers yma yn rhywle yndoes ?  Piti na roddwyd ‘comps’ gan y trefnwyr i Ian Jones, S4C a Betsan Powys, Radio Cymru a’r siwts sydd yn penderfynnu “fod y bobl eisiau beth mae’r bobl yn ei gael” chwedl Paul Weller. Petae Kershaw yn Gymro Cymraeg byddai rhaid ymestyn hyd y ffon fesur.  Siaradodd am dros ddwy awr a hanner heb i neb wingo yn eu seddau na edrych ar eu wats – nid cymaint rhyfeddol ond hanfodol.

Wrth drafod diwylliant, y ffyn mesur sydd gennyf yw Janet Street Porter yn yr Independent neu Paul Morley ar BBC 2, Grayson Perry ar y Reith neu, ac er gwaethau ei holl ffaeleddau, Julie Burchill yn dweud ei dweud. Felly bydded mwy  o Gareth Wyn Jones, mwy o Rhian Blythe, mwy o Ani Saunders – y rhai sydd yn rhoi lliw ar y canfas, yn dod a’r haul i mewn drwy’r ffenestr, yn rhoi gwen ar wyneb - diolch byth amdanynt ac os cewch gyfle i weld sioe Kershaw ewch !
 

No comments:

Post a Comment