Tuesday 1 April 2014

Castell y Bere, Herald Gymraeg 26 Mawrth 2014.


llun Cadw  / Hawlfraint y Goron.
 
Mewn cyfweliad diweddar gyda Golwg 360 fe awgrymais fod angen i ni Gymry hawlio mwy o berchnogaeth o’n hanes, peidio bod mor gaeth i’r busnas ’ma o fod “wedi cael ein gormesu ers 1282”, peidio beio Edward 1af am bopeth a pheidio rhoi’r bai ar y gyfundrefn addysg am y gweddill.

            Yr hyn oedd gennyf  dan sylw, yw ei bod yn amser bellach i newid y pwyslais. Hynny yw, rydym yn ymwybodol o ddiffygion y gyfundrefn addysg, rydym yn gwybod beth ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 1282 – ond dydi hynny ddim yn ein rhwystro rhag ymweld a’r cestyll Cymreig, cestyll Tywysogion Gwynedd ! Llai o hel esgusion – mwy o hawlio perchnogaeth a mwy o fynd allan i gerdded  – dyna oedd y neges.

            Cafwyd ymateb ddigon ffafriol i’r cyfweliad, wel cafwyd oleiaf tri sylw ar trydar yn cytuno a’m sylwadau, ac un arall yn pwysleisio diffygion y gyfundrefn addysg o ran y pwyslais ar Hanes Cymru. Ond dyna’r union bwynt roeddwn yn geisio ei wneud – sut mae goresgyn hyn, a sut mae symud yr agenda yn ei flaen ?

            Dydd Sul dwethaf cefais Castell y Bere, Llanfihangel y Pennant (ger Abergynolwyn) i mi fy hyn. Roedd hi wedi troi 5 o’r gloch, yr haul yn dechrau machlud a’r aer yn oeri yn gyflym wrth i mi frasgamu am y castell hynod yma. Dyma chi gastell Llywelyn ab Iorwerth a mae hanes sefydlu’r castell yn un diddorol dros ben.

            Rhaid cyfaddef fod yna bleser mawr cael safle fel hyn i mi fy hyn – dim golwg o gopawalltog arall yn unman a lle felly i’r enaid Mwyn gael llonydd. Treuliais awr go dda yma cyn iddi dwllu yn astudio pob twll a chornel o’r castell – yn cael sugno’r awyrgylch, yn cael dychmygu, yn cael cyffwrdd ac eistedd, mewn hedd perffaith hedd.

            Efallai y dyliwn wrth-ddweud fy hyn cyn cychwyn sgwennu’r golofn – dyd’n braf fod neb arall yma – ac eto yr holl bwynt o sgwennu yw i argymell pobl i ymweld, i ddarganfod un o’r cestyll Cymreig – felly tro nesa byddaf yn ymweld rwyf yn disgwyl gweld oleiaf dwsin o Gymry Cymraeg - yna ar y safle.

            Dyma’r unig gastell Cymreig yng Ngwynedd lle mae yna dystiolaeth hanesyddol am ei adeiladu, gan fod cyfeiriad yn Brut y Tywysogion fod Llywelyn wedi adeiladu castell ym Meirionnydd ym 1221 wrth iddo gymeryd rheolaeth am yr ardal oddi ar ei fab Grufffudd. A dyna chi y darn doniol, a mae hyn mor wir am Dywysogion Gwynedd, mae nhw yn ffraeo bron cymaint hefo aelodau’r teulu a mae nhw yn rhyfela hefo’r Saeson.

            Onid Llywelyn ap Gruffydd (Ein Lliw Olaf) a garcharodd ei frawd Owain yn nhwr Castell Dolbadarn am flynyddoedd maith ? Dwi ddim yn meddwl fod y tywysogion yma o reidrwydd y bobl mayaf dymunol. A phwy oedd y gwragedd ? Y gwragedd Normanaidd wrthgwrs, Llywelyn Fawr a Siwan a Llwywelyn Olaf hefo Elinor deMontford – dim Cymraes bur yn agos i’r lle (neu yn sicr ddim yn swyddogol). Rhaid chwerthin oleiaf ychydig yndoes ?

            A’r cestyll wedyn, yn mabwysiadu ac efelychu’r traddodiad pensaeniol Normanaidd – onid twr William Marshall, Penfro, hefo portcullis hyd yn oed, sydd wedi ei ail greu yn Nolbadarn ? Yr hyn sydd yn amlwg yma yw pwysigrwydd statws, gwleidyddiaeth a’r angen mawr i ddal gafael ar hyn oll yn y 13eg ganrif.

            Wrth gyrraedd y fynedfa orllewinol i Gastell y Bere mae cwt bach ger y llwybr. Ar wal y cwt mae rhywun wedi paentio arwyddbais Llywelyn ab Iorwerth. “Graffiti” mewn geiriau arall, a hynny yn weddol ddiweddar, ac eto dydi’r graffiti ddim yn ddrwg i gyd. Mae’r graffiti yn cyfleu’r ffaith fod rhai neu rywun allan yna yn dal i falio neu yn dal i gredu – mewn rhywbeth. Anibynniaeth i Gymru efallai ? Llai tebygol fod yr arlunydd am weld adfer teulu brenhinol Aberffraw ?
 

            Un o nodweddion amlwg ac unigryw y cestyll Cymreig yw’r tyrrau ar siap neu ffurf D. Dyma sut mae rhai o’r cestyll yn cael ei cynnwys neu eu hystyried fel rhai sydd yn perthyn i Dywysogion Gwynedd yn absenoldeb tystiolaeth ysgrifenedig hanesyddol. Felly eu ffurf yw’r pren mesur a’r cysondeb o adeiladu’r tyrrau shap D – gweler Carn Dochan, Cricieth, Ewloe.

            Ceir hyd i ddau dwr siap D yng Nghastell y Bere – y Neuadd ogleddol a’r twr, a fu am gyfnod, i raddau arwhanan i weddill y castell, ar yr ochr ddeheuol. Wrth gamu i fewn i’r adeiladau yma mae’r siap yn amlwg, mae yna wal gefn syth a wedyn wal a thro hanner cylch iddi ar yr ochr allan. Gellir gweld yr un peth yng nghastell Carn Dochan ger Llanuwchllyn er fod cyflwr y muriau yn yno yn wael iawn.
 

            Heb os un o’r pethau sydd yn creu argraff ar yr ymwelydd yw’r olygfa yma dros Ddyffryn Dysynni, dros Graig yr Aderyn ac yn ol i gyfeiriad Llanfihangel y Pennant – rhywle rhwng braf a bendigedig a llawer mwy. Dyma le sydd yn teimlo yn llonydd, rhywle lle mae’r cloc yn tician yn arafach a mae mor braf cael hyd i lecyn neu fangre fel hyn. Mae mor braf cael eistedd yma ar ddiwedd dydd a gwrando ar swn y Byd. Does fawr o swn y Byd modern, dim ond gwynt a bran, dafad ac oen ac ella tractor yn bell bell i ffwrdd.

            Felly yr hyn sydd yn anodd yw rhannu hyn oll, mae angen i ni Gymry Cymraeg fynychu a chymeryd diddordeb – ac efallai mae’r pris am hyn yw colli ychydig o’r distawrwydd.

 

No comments:

Post a Comment