Wednesday 9 April 2014

David Dawson yn trafod Lucien Freud. Herald Gymraeg 9 Ebrill 2014.


 

Wyddoch chi beth, mae yna rhywbeth braf iawn cael mynd i wrando ar rhywun arall yn darlithio weithiau. A wedyn y ffaith fod y ddarlith am ‘gelf’, doedd dim modd gwrthod y gwahoddiad i fynd draw i Seiont Manor. Yn ychwanegol i’r ddau beth uchod, fod y sgwrs gan fy hen gyfaill o Sir Drefaldwyn, neu Ddyffryn Banw i fod yn ddaearyddol fanwl, David Dawson – wel, dyna hawlio sedd yn y rhes flaen felly ynde !

I’r rhai sydd ddim yn dilyn pethe y byd celf, bu David yn gweithio, a hynny yn gweithio mewn sawl ystyr a mewn sawl ffordd, gyda ac i’r arlunydd Lucien Freud. Hwnnw wnaeth y llun braidd yn anghyffredin o’r Frenhines os gofiwch. Mae’n debyg fod modd defnyddio’r gair ‘muse’ i ddisgrifio rhan, ond rhan yn unig, o berthynas, Dawson a Freud. Mae’n amlwg fod cyfeillgarwch, dealltwriaeth a rhywbeth dwfn iawn rhwng y ddau.

Trafod datblygiad gwaith Lucien Freud oedd Dawson, o’r lluniau cynnar yng Nghapel Curig, yr hunnan bortreadau o’r llanc tena ifanc, i’r cariad yn y gwely mewn gwesty ym Mharis a’r datblygiad wedyn i bortreadau llawer mwy pendant, yn rhannu rhan o ddisgyblaeth a’r un math o ddylanwadau a’i gyfaill, Francis Bacon. Mae’r ystafell yn Seiont Manor yn orlawn, a hynny ar fore Llun. Byddai dweud fod y sgwrs yn ddiddorol yn wir wrthgwrs, ond, mae gair mor gyffredin a diddorol yn gwneud anghymwynas fawr a gwir drydan y sgwrs.

Yr unig beth gwell na trafod celf yw trafod archaeoleg, mae hynny yn swnio fel un o ddyfyniadau John Ruskin (1819-1900), y sylwebydd celf adnabyddus, ond rhaid cyfaddef fod trafod celf yn rhywbeth sydd yn cyffroi. Fe allwn ddadlau, yn wir fe ddyliwn, fod damcanaiethau celf, fel damcaniaethau pop, yn holl bwysig – dyma ddiwylliant – a dyma rhywbeth sydd angen mwy ohonno yn y Gymraeg.(Popeth yn Gymraeg).

’Chydig iawn o Gymraeg oedd yn y Seiont Manor wrthgwrs, ond dwi’n amau mae y ni sydd yn gwneud y penderfyniad yna, i ymwrthod, i gadw at y Byd Cymraeg bach saff, yr hyn a elwir yn ‘bybl’, hefo’i ffiniau cyfarwydd. Dwi’n cael fy hyn yn aml y dyddiau yma yng nghwmni pobl a ‘thatan yn eu ceg’ – dwi ddim yn eu drwg-hoffi, i’r gwrthwyneb, ond rydwyf bob amser yn gofyn lle mae’r Cymry Cymraeg ? Ydi Lucien Freud tu allan i’n llythrenedd celfyddydol fel Cymry Cymraeg ? Anodd credu …….

Mae un o drefnwyr ‘Art Fund’ yn dod atof i achwyn am ddiffyg sylw i’r digwyddiad gan y Cyfryngau. Does dim modd cuddio yn hyn o beth. Y cyfryngau Cymraeg, Cymreig a’r rhai lleol mae hi’n gwyno amdanynt. Chwerthais yn ddistaw, mewn cyd-ymdeimlad rhywsut, gan drio cuddio’r ffaith fy mod yn or-gyfarwydd ar gwyn hon, ac awgrymais yn garedig “they don’t really have much interest in culture”. Dwi ’di treulio rhan helaeth o fy ngyrfa fel sylwebydd ar y pethe yn trafod diffygion y cyfryngau yng Nghymru. Chydig sydd wedi newid. Ond dyma ni, mae’r ystafell yn llawn – pa ots, pwy sydd eu hangen i hysbysebu digwyddiad mor llwyddiannus ?

Fe ddylia pawb fod yn gallu cyhoeddi digwyddiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol bellach ta beth. Ond wedyn, y dyddiau yma, rwyf yn treulio rhan helaeth o fy amser, a hynny drwy wahoddiad, yn ceisio darbwyllo cymdeithasau, grwpiau, mudiadau, fod werth iddynt gael cyfrif trydar. Dydi pobl a thatan yn eu ceg, cymdeithasau ac aelodau bell dros eu 60oed ar y cyfan ddim yn trydar – mae nhw’n dal i gredu fod gwerth mewn postar na fydd yn cael ei ddarllen na’i weld mewn cornel ffenestr siop ………

Petae y rhai sydd a diddordeb, yn dilyn Art Fund neu beth bynnag ar trydar. mae modd wedyn mynd yn syth at y cwsmer. Syml. Dim angen dibynnu o gwbl wedyn ar Gyfryngau oriog. Beth sydd mor anodd am hyn ?

Nid yw ‘raconteur’ yn addas fel disgrifiad o ddawn siarad Dawson, mae’n bersonoliaeth llawer rhy glen, addfwyn a distaw i hynny ac eto mae ei sgwrs yn hollol, hollol glir a mae modd clywed pob gair. Awgrymais iddo wedyn fod hon yn ddawn naturiol ganddo, er ei fod yn gyndyn iawn i siarad yn gyhoeddus. Cytunais i raddau, y mwyaf bydd ei berthynas a Freud yn cael ei drafod, y peryg yw bydd elfen o’r berthynas yn cael ei ddibrisio. Mae Dawson yn gwybod beth ddigwyddodd, fe ddaw’r peth allan mewn llyfrau  Hanes Celf yr Ugeinfed Ganrif mewn amser – pam dibrisio drwy or-drafod, or-siarad, or-ddamcaniaethu ?

Nod Lucien Freud oedd gadael i’r llun ddweud y cyfan. Yn aml, gwrthodai enwi’r gwrthrych yn y llun, yr ‘eisteddwr’, y model – roedd y llun yn dweud popeth oedd angen i’r darllenydd ei weld. Dim angen am enw bedydd na chyfenw. Rwyf yn amau fod Dawson yn ymwybodol o hyn. Pobl fel fi sydd wrth eu bodd yn damcaniaethu a sylwebu, a rydym yn cael ein talu i wneud hynny drwy golofnau fel hyn, ond mae yna ddadl, os mae chi yw’r person sydd yn creu fod lle i fod yn llawer mwy cynil hefo geiriau, i gadw’r dirgelwch ac i adael i’r celf siarad.

Roedd David Dawson yn wych, yn ddiddorol ac yn ysbrydoli – a hynny ar fore Llun mewn neuadd orlawn – dyna chi fraint felly oedd cael ei glywed yn sgwrsio – fydd hyn ddim yn digwydd yn aml !
 

No comments:

Post a Comment