Mostyn, yw’r
oriel gelf yn Llandudno sydd ddigon hyderus i beidio galw ei hyn yn oriel. Mae ‘Mostyn’
yn ddigon. Ddim cweit fel “Mistar” ond mae Mostyn yn feistar ar gelf. Tu mewn
cawn goncrit ol-fodern a thu allan y coch
terracota. Sefydlwyd yr oriel gelf ym 1900-01, y cyntaf o’i fath i’w adeiladu
yn bwrpasol ar gyfer menywod yn unig, gan y Foneddiges Augusta Mostyn.
Mae’n le sydd yn llawn hanes, mae’r
ffaith i Augusta ymateb i’r ffaith fod yr Academi Frenhinol Cambrian (dros y
dwr yng Nghonwy) yn gwrthod mynediad i fenywod drwy fynd ati wedyn i
sefydlu y ‘Gwynedd Ladies Arts Society’
yn ei hyn yn gwneud hwn yn safle o bwys hanesyddol. Rhan o hanes yr ymgyrch
dros gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru, yng Ngogledd Cymru, yn Llandudno.
Felly fe chwaraeodd y byd celf ei ran yn hyn o beth.
Gallwn sgwennu yn hawdd am Mostyn (yr
adeilad) ond yr hyn sydd yn hawlio’r sylw yr wythnos hon yw arddangosfa
ddiweddaraf yr artist Bedwyr Williams, Hotel 70°, sydd yn ymdrin ag adeilad
arall, sef y gwesty eiconaidd a arferai sefyll uwchben Bae Colwyn. Fel gormod o
adeiladau diddorol, hanesyddol, mae’r Hotel 70° wedi hen ddiflannu.
Wedi mynd yn ddiweddar gyda llaw,
mae adeilad ‘Arts & Crafts’ Ysbyty Bryn Seiont, Caernarfon, heb na wich na
floedd o wrthwynebiad, wrthdystiad na unrhywbeth arall. Fandaliaeth. Yn yr
agoriad yn y Mostyn rwyf yn cael sgwrs gyda artist amlwg am ddiflaniad y pwll nofio
awyr agored ger y Foryd, Caernarfon. Mae ganddo hen luniau mae’n debyg. Ddim
cweit yn ‘lido’ ond yn golled yn sicr – pam mor braf fydda hyn yn yr Haf ?
Heddiw 2014 ?
Ffilm yw’r prif gyfrwng gan Bedwyr
Williams yn yr arddangosfa hon, yn para oddeutu 20 munud, gyda sylwebaeth yr
artist. Taith bron yn seico-ddaearyddol ar hyd onglau’r adeilad. Popeth yn 70°
- mae sylwebaeth Williams yn ddau beth, diddorol a doniol. Mae sylwebaeth
Williams yn rhywbeth arall hefyd …. Efallai mae swreal yw’r gair gorau i
ddisgrifio hyn yn gelfyddydol gan feddwl am ddisgyblaeth artistig Ernst neu
Dali.
Heb os, mae’r ffilm yn hollol wych
ond mae’n tueddu i chwythu’r pen yn y broses. Beth yn union sydd yn gwthio’r
artist i wneud hyn ? Anodd dychmygu ond hawdd edmygu, ei ddawn, ei weledigaeth,
ei allu naturiol i wthio ffiniau drwy eu croesi os nad chwalu’n rhacs mor (ymddengys)
ddi-ymdrech. Rhaid i chi weld y ffilm a wedyn prosesu’r peth dybiwn i.
Eto, piti rhywsut na fydda’r ffilm
yn bodoli yn y Gymraeg. Dwi’n dal i ‘weiddi’ Popeth yn Gymraeg. Piti hefyd na
fydda’r Mostyn rhywsut yn fwy Cymreigaidd o ran yr iaith. Mae’r caffi yn wych,
y bwyd yn dda, y golygfeydd o’r llawr cyntaf yn atyniad ychwanegol wrth fwynhau
panad. Mae’r celf yn heriol ac yn ddigon ‘arty’ ond dyma ni yn Llandudno,
Gogledd Cymru, rhywsut mae angen rhywbeth i atgoffa rhywun nad yn Stuttgart mae
rhywun yn mwynhau ei gacan siocled. Ta fi sydd yn gofyn, angen, chwilio am –
ormod ?
Fuais i rioed i mewn i’r Hotel 70°,
efallai mae nawr yw’r amser i ddifaru. Ond yn sicr mi af yn ol i’r Mostyn i ail
wylio ffilm Bedwyr. Mi brynais ei lyfr ‘Bedwyr, I Think I Missed Your
Performance’. Rhyw fath o gofnod o berfformiadau’r artist. Roedd y llyfr wedi
ei lofnodi – a dwi’n gasglwr pethau.
Un o’r darnau celf mwyaf adnabyddus
gan Bedwyr yw ei ail-gread o’r llun enwog ‘The Bard’, gan Thomas Jones (1742-1803) gyda
Bedwyr yn cymeryd lle y bardd. Enw'r darn yw 'Bard Attitude'. Wrth esbonio’r gwaith yma mae Bedwyr yn datgan
“What post-punk was for punk, bards were for druids”. Dyna chi llygad ei le. A
bod yn onest mae Bedwyr yn haeddu medal aur, coron neu gadair mewn pa bynnag Steddfod am y
dyfyniad yna yn unig.
‘The Bard’ wrthgwrs yw’r llun hyfryd
hwnnw o’r bardd olaf, ei delyn fechan dan ei fraich, sydd yn dewis
hunnan-laddiad yn hytrach na chael ei ddal gan y gormeswr Edward 1af. Dyna ch
be di safiad. Pam fod y llun yma mor anghyfarwydd i ni fel cenedl ? Ac yn well
byth, mae Thomas Jones, fel roedd pawb yn y cyfnod ‘Rhamantaidd’ yn ychwanegu,
mae cerrig tebyg i Gor y Cewri i’w gweld yn y cefndir. Ewch i’r Amgueddfa
Genedlaethol.
Unwaith eto mae lle i amau fod Thomas
Jones yn gyfarwydd a llyfr arloesol Henry Rowlands ‘Mona Antiqua Restaurata’ (1723),
sef y cofnod o Henebion Mon. Yn y llyfr yma mae’r llun o’r derwydd, dyma
ddechreuodd yr holl beth – barf, y ffon a’r dillad llaes. Dyma ddylanwadol
Cynan yn ei dro, hyd yn oed os yn eil-dwym drwy Iolo Morganwg.
Dydi’r gwaith celf / addasiad o’r Bardd
gan Bedwyr ddim yn y Mostyn – ond ewch i chwilio amdano. Dwi’n siwr mae
Aberglaslyn / Beddgelert yw’r cefndir. Beth sydd yn digwydd yma felly, yw creu
cysylltiadau rhwng cyfnodau, digwyddiadau, adeiladau, cymeriadau – does dim
ffiniau go iawn. Os yw Bedwyr yn ‘artist gweledol’ mae o hefyd yn archaeolegydd
hefyd - drwy gofnodi Hotel 70°. Mae’r ffin rhwng hanes a chelf wedi ei ddrysu,
yn niwlog a da o beth yw hynny.
Rydym yn greaduriaid deallus sydd yn
gallu gwerthfawrogi celf a hanes, ac ar y funud mae’r Mostyn yn pontio.
Meddianwch y Mostyn felly, ewch yna am banad ar bob cyfri, ewch yna i fod yn
‘ddilynwyr celf heriol’ ar bob cyfri ond yn bwysicach byth – perchnogwch.
Perchnogwch artistiaid fel Bedwyr Williams – dyma’r ‘Salem’ newydd yn yr ystyr
mae gwaith celf Bedwyr yw’r Cymru heddiw a fory.