Wednesday 11 December 2013

Magic Lantern, Tywyn Herald Gymraeg 11 Rhagfyr 2013


 

‘I Bought a Mountain’ oedd yr enw gwych ar lyfr Thomas Firbank a gyhoeddwyd ym 1940 yn disgrifio ei ymdrechion i ddygymod a ffermio yn Nyffryn Mymbyr. Ac yn rhyfedd iawn, dyma’r union ddisgrifiad ddaeth i’m meddwl Dydd Gwener dwetha wrth gyfarfod a Geoff Hill yn y Sinema yn Nhywyn, Sir Feirionydd ond fy mod yn rhoi Sinema i mewn yn y disgrifiad yn hytrach na mynydd.

            Gwr diddorol iawn yw Geoff Hill, gallai fod yn hawdd iawn yn un o’r bobl hynny lle byddaf yn cymeryd yn ei erbyn o’r eiliad cyntaf ond nid felly y bu hi. Coblyn o beth ynde, ond mae’r eiliadau cyntaf yna mor bwysig, a dyma rannu gwen yn syth a sylwais yn syth bin ein bod yn rhannu’r un math o hiwmor a mwy na thebyg yr un math o wleidyddiaeth.

            Roeddwn wedi cael fy ngwahodd i lawr i’r hen Sir Feirionydd gan fy nghyfaill Dewi Llwyd, yn bennaf i gael cyfarfod Geoff ac i gael golwg ar rai o fentrau diweddara’r gwr mewn du, roedd hyd yn oed yr het gowboi yn ddu. Teithiom lawr i Fachynlleth i gyfarfod Geoff cyn symud ymlaen i’r Iard Gychod ger Aberdyfi lle mae Geoff yn cadw cychod yn ogystal a newydd sefydlu busnes newydd i werthu stofs llosgi pren ar gyfer gwresogi tai.

            Chwerthais wrth feddwl am y gair “ymryddawn”, a Dewi yn ei ddisgrifio fel “serial entrepreneur” ond nid yn yr un modd a Sugar et all, dyma entrepreneriaeth amgen, di-ffwdan, di-lol – dyn sydd yn gwneud yw Geoff yn hytrach na rhywun sydd am bwyllgora ei ffordd drwy fywyd. Unwaith eto, dyma glosio ato o ran meddylfryd, mae gwir wrthgwrs yn yr hen fantra “Gwneud Nid Dweud” fel sydd yn cael ei arddel gan y grwp dub / hip hop Cymraeg Llwybr Llaethog ar gloriau eu recordiau.

            Dyma ni felly yn sefyll yn edmygu cychod ar lan y Dyfi, a finnau prin yn gwybod pa ochr yw ‘starboard’ a rioed di hwylio yn fy mywyd, ond eto rhaid chwerthin, mae hyn rhysut mor “cwl” yntydi – bod yn berchen ar Iard Gychod. Trodd y sgwrs at y ffaith ein bod yn byw mewn lle fel Caernarfon ac eto rydym bellach wedi ein datgysylltu yn llwyr o’r mor, rhyfedd sut mae’r oes wedi newid.

            Dydi fy ngwybodaeth am ‘stofs’ fawr gwell na fy ngwybodaeth am gychod felly Duw a wyr pam y penderfynais gytuno hefo Geoff wrth iddo egluro manteision stofs o Ddwyrain Ewrop dros rhai o’r wlad yma, cwrteisi efallai, ond doedd gennyf ddim clem go iawn. Yn dilyn y stofs a’r cychod dyma gytuno fod cinio yn galw, cawn ginio yn Nhywyn felly ar ol cael ein tywys o amgylch y sinema, y ‘Magic Lantern’.

            Rywf yn gyfarwydd a’r sinema er nad wyf rioed di mynychu’r lle o ran gwylio ffilm neu un o’r gigs byw sydd yn cael eu cynnal yno. Y peth pwysig yma yw fod Geoff a’i bartneriaid wedi cymeryd gofal am y sinema. Fel arall mae’n debyg bydda’r lle wedi cau. A dyma lle daeth enw llyfr Firbank i’m meddwl – ‘I Bought a Cinema’. Unwaith eto,ac ymddiheuraf am y Gymraeg sal, ond mae hyn mor “cwl” yntydi.

            Atgoffwyd mi rhywsut o’r ddrama ar golygfeydd yn ‘Coming Up Roses’, ffilm Stephen Bayly, 1986, gyda Ifan Huw Dafydd, Mari Emlyn a Gillian Elisa Thomas, un o’r ffilmiau gorau Cymreig wrthgwrs. Dyna oedd y teimlad wrth gamu mewn i’r Magic Lantern, braidd yn hen ffasiwn, seddau o’r 1940au, a rhyw elfen D.I.Y (gwna fo dy hyn) oedd ond yn ychwanegu at yr awyrgylch.
 

            Cymaint yw’r elfen gwna fo dy hyn yma nes bod Geoff yn gorfod eistedd yn y blwch tocynnau ar fore Sadwrn, dyma’r matinee wrthgwrs, y ffilmiau i blant, pam mor wych yw hynny, mor syml ond dyna’r modd o gadw pethau i fynd dyddiau yma – darpariaeth ar gyfer gwahanol bobl, gwahanol oedran ar wahanol amser – ond mae rhywbeth bytholwyrdd am y matinee yndoes ?

            Yn ogystal a ffilmiau, mae’r Magic Lantern yn cynnal nosweithiau byw a syndod mewn ffordd yw deall fod y cerddor Robin Hitchcock newydd fod yno yn canu. Rwan mae Hitchcock yn ffigwr “cwlt”, mae ganddo ddilynwyr, mae’n uchel ei barch ond rhywsut dydi rhywun ddim yn disgwyl ei weld ar lwyfan yn Nhywyn. Diawliais na wyddwn am y peth, achos mi fyddwn wedi mynd draw jest am y profiad.

            Bu Dr Who yn cael ei ddathlu yma yn ddiweddar, sef dathlu ei benblwydd yn 50 a bu’r Magic Lantern yn dangos Dr Who mewn 3D yn fyw ar y 23ain o Dachwedd – ar flaen y gad ddiwylliannol yma yn Sir Feirionydd – eto pam mor wych yw hyn ?

            Efallai mae’r pwynt rwyf yn ei wneud, neu’r pwyntau i fod yn fanwl gywir, yw fod pethau yn digwydd yng nghefn gwlad Cymru, ond efallai nad yw’r pethau yma yn cael digon o sylw. Mae’n braf gweld rhywun fel Geoff Hill yn gwneud yn lle dweud, a fod y sinema bach hanesyddol yma nid yn unig yn dal i fodoli ond yn ffynu.

            Oherwydd yr A470 mae Tywyn allan o’r ffordd, nid anghysbell ond rhaid penderfynu mynd yno. Mae Aberdyfi yn drysor bach sydd o bosib yn colli’r Gymraeg – dyna mae nhw’n ddweud a mae penal lawr y ffordd wedyn gyda’i gaer Rhufeinig a’i lythyr gan Glyndwr yn le bach arall lle mae angen treulio amser.

            Atgoffwyd mi o pennod yn ‘On The Road’ wrth i Dewi fy nhywys o gwmpas y gornel fechan hon o Sir Feirionydd, dyma’r lonydd cefn, diarffordd (braidd) sydd angen eu hail ddarganfod. Doedd dim amser i fynd draw i Gastell y Bere, campwaith Llywelyn ab Iorwerth, ac anodd iawn oedd peidio mynnu ein bod yn galw heibio. Tro nesa medda ni, a mi fydd tro nes yn fuan gallaf eich sicrhau.

Diwrnod lle cefais fy ysbrydoli, cipolwg o ddarn bach arall o Gymru a chymeriadau diddorol, ychydig yn ddoniol, rhywle rhwng ‘Coming Up Roses’ a Llareggub wedi ei drawsblanu i Feirionydd. Nid pob amser yn Gymraeg na Chymreig ac eto yma yng Nghymru felly “deal with it” fel dyweda’r Sais.

No comments:

Post a Comment