Herald
Gymraeg 18 Rhagfyr 2013
Rhyw amser od
o’r flwyddyn yw’r wythnos neu ddwy olaf yma mewn blwyddyn. Amser i edrych yn ol
ac wrthgwrs amser i gychwyn edrych ymlaen am flwyddyn newydd. Dwi ddim yn amau
fod pawb di blino yn lan, ac yn barod am wyliau dros y Dolig, mae’r dyddiau yn
fyr, mae’n dywyll toc ar ol tri o’r gloch ac o fewn ychydig ddyddiau byddwn yn
profi diwrnod byra’r flwyddyn.
Rhywbeth y byddaf yn ei ddweud bob
blwyddyn yw “argian dan mae’r flwyddyn yma wedi gwybio heibio”, ac yn sicr mae’n
teimlo felly, dwi’n teimlo fod amser yn
mynd yn gynt fel rwyf yn mynd yn hyn, ond y cysur rwyf yn ei gael bob blwyddyn
yw’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni. Neu oleiaf mae rhywun yn gobeithio fod
rhywbeth wedi ei gyflawni.
O ran archaeoleg mae hi wedi bod yn
flwyddyn gyffrous a boddhaol iawn. Cawsom gwblhau y gwaith cloddio ar y cwt
crwn deheuol ym Meillionydd, Pen Llyn a’r newyddion da yw ein bod yn dychwelyd
yn ol i Feillionydd Haf nesa 2014. Y tro nesa rydym yno am ddeufis sydd yn
caniatau i ni wneud mwy o waith a gobeithio gallu cwblhau darnau cyfan o’r
safle yn hytrach na gorfod llenwi tyllau a’u hail agor eto mewn blwyddyn.
Rhaid dweud ei bod yn fraint cael
gweithio ym Meillionydd, mae’n safle hynod ddiddorol yn dyddio rhwng oddeutu
800 a 200 cyn Crist, mae’n safle yn y rhan gora o’r Byd a mae’r brawdgarwch
ymhlith yr archaeolegwyr yno heb ei ail. Y flwyddyn nesa yma fydd fy mhedwaredd
mlwyddyn ym Meillionydd.
Cafwyd wythnos yn Llanbeblig yn
ystod mis Gorffennaf hefo criw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn
archwilio darn o dir ger Ysgol yr Hendre yn y gobaith o gael hyd i fwy o olion
Rhufeinig ac er i’r archaeoleg fod yn siomedig (hynny yw doedd fawr o ddim yno)
roedd y brawdgarwch, y sgyrsiau, y trafodaethau a’r angerdd yn ysbrydoli rhywun
yn ddyddiol. Welais i rioed y math yma o gyfeillgarwch na brawdgarwch yn fy
nghyfnod yn y Byd Pop a rhaid cyfaddef, er fod archaeoleg yn golygu edrych yn
ol, dwi ddim yn colli’r Byd Pop o gwbl – dim edrych yn ol, dim diddordeb, ddim
yn ei golli !
Criw arall i mi ddod i’w hadnabod
dros yr Haf oedd criw Dr Iestyn Jones, Archaeology Wales a chwmni teledu
Trisgell. Rwan dyma chi hwyl go iawn a bydd y canlyniadau ar S4C rhywbryd yn
ystod 2014. Cefais wahoddiad i ymuno a nhw yn Llwydfaen ger Tal-y-Cafn, Dyffryn
Conwy. O flaen llaw roeddem ar ddeall ein bod am gloddio eglwys Normanaid
gynnar wedi ei ddarganfod o’r awyr gan Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol.
Wrth gloddio dyma’r stori yn
datblygu ac yn newid, efallai i rai ohonoch glywed am hyn ar y newyddion, ond am
y tro rwyf am awgrymu eich bod yn cadw golwg allan am y rhaglen ar S4C felly
dwi ddim am ddweud dim mwy. Unwaith eto dyma’r ‘gang’ archaeoleg yn dod at eu
gilydd, roedd Beaver a Geoff yno o griw GAT, daeth criw Meillionydd draw am
ychydig ddyddiau a wedyn y “cavalry” go iawn Bill a Mary Jones Dolwyddelan. Ar
y diwrnod olaf ymunodd George Smith o GAT a ni, un o’r archaeolegwyr maes gorau
sydd ganddom ar hyn o bryd.
Unwaith eto, braint yw cloddio ochr
yn ochr a rhywun fel George, petae ffasiwn beth a ‘crefftwr’ yn y Byd
Archaeoleg, dyna fydda George, meistr wrth ei waith – fedra ni ond dysgu wrtho.
Ond y brawdgarwch a’r hwyl oedd yn cadw rhywun i fynd yn y tywydd drwg. Ar y
Dydd Mercher mi fwrwodd gymaint nes ein bod yn fwd o’n pen i’n sodlau a mae
gennyf lun doniol ohonnof hefo un o grow Meillionydd yn edrych fel rhyw aelodau
coll o lwyth y mwd o Ddyffryn Conwy – does dim darn glan na sych i weld arnom !
Galwad arall, anisgwyl, ond un a
werthfawrogais yn fawr iawn oedd i gael ail ymuno a Iestyn a chriw Trisgell, y
tro yma yn Cynffig, De Cymru. O bosib, mewn rhai ffyrdd yn sicr, efallai mae
hwn oedd fy uchafbwynt personol i yn ystod 2014 oherwydd cefais gyfle i gloddio
Melin Wynt a oedd yn dyddio oddeutu 1500. Rwan, da ni ddim yn cloddio melinau
gwynt yn aml, a dweud y gwir dyma’r tro cyntaf.
Bwriad y gwaith yn Cynffig oedd
edrych ar safle bryn gaer Oes Haearn a hefyd edrych am safle castell Iestyn ap
Gwrgant, tywysog Morgannwg ond fel mae lwc cloddio fe fu Jerry a finnau yn y
“twll crwn” sef safle’r felin wynt am yr wythnos gyfan. Y rheswm am y felin
wynt wrthgwrs yw ein bod ar ben bryn, dim cysylltiad fel arall hefo’r bryn gaer
na Iestyn ap Gwrgant. Eto bydd canlyniadau hyn ar S4C yn ystod 2014.
Felly yr hyn sydd yn sefyll allan i
mi am 2013 yw’r brawdgarwch yn y Byd Archaeoleg, y cyffro a’r wefr a’r fraint o
fod yn rhan o gloddio’r safleoedd yma a gwneud darganfyddiadau newydd. O ran
edrych ymlaen felly ? – wel cael dychwelyd i Meillionydd a chael mwy o gloddio
yn 2014.
Llechi to Rhufeinig @ Llwydfaen
No comments:
Post a Comment