Dyma’r cwestiwn yr wythnos hon. Ydi artistiaid o Gymru yn
fwy diddorol os ydynt yn fwy ‘Cymreig’ ? Hefo ‘Cymreig’ rwyf yn golygu eu bod
mewn rhyw ffordd yn cynnwys elfenau Cymreig yn eu gwaith, fe all hyn fod o fewn
cerddoriaeth, celf gweledol, llenyddiaeth, barddoniaeth, dramau neu beth bynnag
ffurf greadigol mae’r artist yn ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant.
Rydym
fel Cymry Cymraeg yn gyfarwydd iawn a’r syniad o “berthyn i le” yr hyn byddaf
yn ei alw yn “blwyfoldeb” ond yn yr ystyr positif. Dyma’r cysylltiad sydd yn
rhoi i ni wreiddiau a dealltwriaeth o pwy ydym, yr union beth sydd yn creu
gwell dinasyddion – rydym yn perthyn a felly yn parchu. Cwestiwn sylfaenol yma
wrthgwrs yw pam mor perthyn i’r darn bach yma o dir gallwn fod heb yr Iaith
Gymraeg – credaf fod bellach ddadl gref dros pawb yng Nghymru ddysgu’r Iaith er
mwyn gallu gwerthfawrogi’r lle yn ei gyfanrwydd.
Dwi
ddim yn son am orfodaeth na hawliau (ac efallai dyma un rheswm pam fod y frwydr
wedi methu gyda cymaint), rwyf yn awgrymu mae hanner darlun gaiff rhywun heb yr
Iaith Gymraeg ac os felly mae angen dysgu’r Iaith fel mae angen dysgu dreifio
neu ddarllen – mae’n sgil hanfodol ar gyfer bywyd llawn yng Nghymru yn 2013.
Mae gan y Byd Celf a’r Byd Hanes / Archaeoleg eu rhan yn y frwydr yma – mae
angen deall geiriau Gwilym Cowlyd os am werthfawrogi lun y dydd ar wyneb
llonydd llyn a fel byddaf yn dweud o hyd – mae’n amhosib ymdrin a Rhyd Ddu heb
werthfawrogiad o eiriau T.H Parry Williams. Hebddynt, gwydr hanner gwag sydd yn
eu dwylo.
Rwan, i
rhywun o Coed Duon neu Bontllanffraith, mae hyn yn mynd i fod ychydig bach yn
wrthyn. Dyma ni yng nghymoedd ol-ddiwydiannol De Cymru. Chafwyd ddim y cyfle i
ddysgu’r Gymraeg yn yr ysgol (efallai). Nid Cymraeg yw Iaith yr aelwyd (o
reidrwydd). Wrthgwrs rydym oll yn deall hyn hefyd. Ond, mae artistiaid Coed
Duon yn ymdrin a Chymreictod, mae dau frawd amlwg yn gwneud hynny a’r mwyaf
Cymreig yw eu celf y mwyaf diddorol yw eu gwaith.
Wythnos
yn ol roedd drama ddiweddaraf y bardd Patrick Jones (y “Manic Street Poet” fel
dwi’n ei alw a brawd Nicky Wire) yn cael ei llwyfanu yn Galeri, Caernarfon.
Drama o’r enw ‘Dandelion’ yn ymwneud a brwydr trigolion ‘hosbis’ i gadw silff
lyfrau ac ychydig bach o urddas wrth dreulio eu dyddiau olaf ar y Blaned hon.
Does dim angen canmol y cast, roedd Olwen Rees, Sharon Morgan. Anthnony Leader
a Lynn Hunter yn hollol, hollol gredadwy. Yn syml roedd yn ddrama rhagorol ond
drwyddi draw roedd rhywun yn clywed “geiriau” Patrick, y math o rythmau sydd yn
ei farddoniaeth gyda’r halen a pupur ar ffurff geiriau miniog fel “Taliban” neu
“dignity” yn ein procio nawr ac yn y man.
Ond,
petae’r ddrama wedi ei lleoli mewn hosbis yn Sheffield, a fydda ni wedi gallu
uniaethu yn yr un ffordd a’r cymeriadau ? Go brin, y Cymreictod a diwylliant y
Cymoedd oedd yn taro deuddeg ac yn gwneud hwn yn berthnasol i ni. Y mwyaf
Cymreig y cymeriadau, y mwyaf oedd ein cydymdeimlad fel cynulleidfa tuag at eu
sefyllfa yn yr hosbis.
Ei
frawd bach yw’r enwog Nicky Wire, basydd y grwp Manic Street Preachers, ac yn
ogystal ac ymddangos fel prif grwp ar Nos Sul, Gwyl Rif 6 ym Mhortmeirion gan
ddatgan “we are the Manic Street Preachers from ALL Wales” mae’r grwp neywdd
ryddhau sengl newydd o’r enw ‘Show me the wonder’. Rwan, fel mae cymaint o
ganeuon y Manics, mae hon yn gan bop ardderchog, alaw hyfryd afaelgar, digon o
egni a llais cryf James Dean Bradfield – felly dim byd chwyldroadol ond yr union
beth fydda rhywun yn ei ddisgwyl ganddynt.
Ond
wrth droi at y fideo sydd yn cyd-fynd ar gan mae’r holl beth yn hollol, hollol
Gymreig a wedi ei ffilmio mewn ‘Clwb Cymdeithasol’ rhywle yn y Cymoedd. Dyma
olygfa ar unrhyw nos Sadwrn yn Treorci, Porth neu Maerdy. Mae’n siwr i chi fod
y Manics wedi dechrau eu gyrfa yn canu mewn llefydd ddigon tebyg a wedi ysu am
gael gwell llwyfan. A’r Manics bellach yn hyderus yn eu Cymreictod (a hefyd yn gwybod
na fydd rhaid iddynt ganu mewn llefydd o’r fath
byth eto) dyma roi gwen ar ein gwynebau i gyd wrth gyfleu yr olygfa, fel
petae’r 70au rioed di gorffen.
Efallai
mae ail-greu y 70au yw’r bwriad ond wedyn dwi’n siwr byddai modd dod o hyd i’r
olygfa yma rhywle yng Nghwm Rhymni hyd yn oed heddiw. Yn y Byd Celf byddai
rhywun yn disgrifio golygfeydd y Manics yn y fideo fel rhai ol-eironig /
ol-ddiwydiannol Gymreig. Yn sicr mae’r ffilm yn hollol, hollol Gymreig ac yn
cysylltu’r grwp a’u gwreiddiau a dyna gryfder y peth. Y mwyaf Cymreig mae’r
Manic Street Preachers y mwyaf diddorol a pherthnasol ydynt fel grwp.
Dau frawd, dau Gymro, dau Gymro di-Gymraeg,
dau wydr hanner llawn – dychmygwch Mr Wire yn yr Orsedd a dramau Patrick ar S4C
– mi fydda hunna yn hyd yn oed mwy diddorol – a’n colled ni yw’r methiant i
gyflwyno’r Gymraeg i ddinasyddion Coed Duon.
No comments:
Post a Comment