Herald Gymraeg 16 Hydref 2013.
Roedd hi’n
mynd i fod yn un o’r “dyddiau hynny”, roedd rhywbeth yn yr awyr ac eto doedd
dim modd rhaglweld sut byddai’r diwrnod yn datblygu nac yn wir yn gorffen.
Felly dyma ddechrau gyda agenda ddigon syml, roeddwn am ymweld a rhai o’r
cytiau crynion (cytiau’r Gwyddelod) ar y llethrau rhwng Carmel a’r lon i
Benygroes yn Arfon.
Rwan fel archaeolegydd, y peth
cyntaf i’w wneud yw sicrhau caniatad cyn troedio ar unrhyw dir preifat. Dwi
rioed di cael fy ngwrthod, mae’r mwyafrif o bobl a diddordeb mawr yn yr
henebion ar eu tir neu yn wir am gael gwybod mwy ond wrth ddod ar draws y
perchennog lle roeddwn am ymweld roedd yn amlwg fod yna ddrwgdybiaeth. I bwy
roeddwn yn gweithio ac yn y blaen a finnau yn trio esbonio fy mod yn gwneud
gwaith i bob math o gyrff ond fod yr ymweliad yma yn un o ran ddiddordeb a dim
mewn unrhyw gyd destyn gwaith (heblaw am sgwennu pennod am Gytiau’r Gwyddelod i
lyfr ar gyfer gwasg Carreg Gwalch).
Bu rhiad gweithio yn galed, bod yn
hynod bwyllog a chwrtais, oedd wir roedd diddordeb gennyf mewn pentwr o gerrig
er bod “dim byd yno i’w weld”, ac yn y diwedd dyma gytuno a rhoi caniatad i mi
groesi’r cae (ar ol galwad ffon a chryn betruso) a dyma gyrraedd y lloc gyda’r
cytiau crynion mewnol. Un pwynt yma yw fod y tir feddianwyr yn fewn-fudwyr, a
oedd hyn yn ffactor gofynais, y drwgdybiaeth (di-angen)? Fysa hyn ddim wedi
digwydd hefo Cymry Cymraeg (er fod rhywun yn aml yn treulio hanner awr yn
sgwrsio am bopeth heblaw y rheswm am yr ymweliad hefo ffarmwrs medda fi hefo
gwen fawr).
Ond beth fydda ymateb rhywun petae
rhywun wirioneddol wedi gwrthod caniatad – wedi’r cwbl dyma ddarn bach o hanes
Cymru, bach a di-arffordd efallai, gweddol ddibwys o bosib, ond nid felly i mi.
Fydd ddim rhaid ateb y cwestiwn yna am y tro.
Roedd fy nhad hefo mi, yr ail beth
ar yr agenda oedd hel mwyar duon cyn gwynt y diafol ym Mis Hydref (chwedl
ofergoelion Pen Llyn). Diolchais fod fy nhad yn hel mwyar duon ar y pryd achos
byddai gwrthod caniatad iddo groesi cae lle arferai chwarae fel plentyn wedi
bod yn ddipyn o beth yn bydda. Eto doedd dim rhai croesi’r bont honno, ond dim
ond drwy drwch blewyn a llond troll o fynadd a gwen. Efallai fod angen gwers ar
gymuned i’r mewnfudwyr drwgdybus ?
Yn raddol dyma lenwi’r bocsus
plastig a mwyarduon a theimlo fod angen un helfa fach arall cyn ddiwedd y pnawn
a dyma awgrymu mynd lawr at hen Eglwys Sant Thomas ger Groeslon – a oedd i’w
weld o lle roedd y cytiau crynion – ond pam penderfynu mynd am St Thomas – dyma
oedd y cam cyntaf i’r anarferol a’r arall fydol y pnawn hwn.
Os oedd fy nhad wedi son am Eglwys
St Thomas hefo mi, doeddwn ddim yn cofio yn iawn, a dweud y gwir roedd y syniad
o weld yr adfeilion tra’n hel mwy o fwyar yn apelio, felly heb feddwl fawr mwy
am y peth dyma droedio hi lawr am fynedfa mynwent yr hen Eglwys. Wrth gyrraedd
y giat mae fy nhad yn aros tu allan i’r fynwent ac yn rhoi yn fy llaw hen ffon
gerdded mae o yn ei ddefnyddio, ffon gerdded fy hen ewythr John Richard Thomas.
Esboniodd fy nhad fod fy hen, hen
daid, Edwin Bullock wedi ei gladdu yma a dyma’r rheswm am y ffon yn dod yn
amlwg yn syth. Ychydig fisoedd yn ol roedd fy nhad wedi bod yma gyda aelod
arall o’r teulu, un Alan Bullock, a wedi rhoi y ffon iddo gan ofyn iddo ddod o
hyd i garreg fedd yr hen Edwin gan ddefnyddio’r ffon heb unrhyw gyfarwyddyd gan
fy nhad. Fe lwyddodd Alan o fewn munudau.
Rwan creadur sinigaidd sydd ddim yn
‘credu’ ydi Mistar Mwyn, ond dwi hefyd yn fodlon mentro a chael hwyl felly wrth
i fy nhad aros tu allan i’r fynwent dyma ddechrau crwydro, ffon yn fy llaw a
dyma drio gweld os gallwn ‘deimlo rhywbeth’ cael hyd i’r ‘vibes’. Cerddais gan
ddilyn y ffon, nes i ddim petruso na mwydro, roeddwn yn hapus fy mod yn cerdded
yn weddol bwrpasol ond yn raddol dyma ddechrau anobeithio yn yr ystyr, doeddwn ddim
yn teilmlo unrhywbeth.
Dyma weiddi ar fy nhad, “Dwi ddim yn
teimlo dim byd, dwi ddim yn gweld y ffon yn cyflawni unrhywbeth” ond dyma ddal
i gerdded yn fy mlaen. Yn y diwedd, digon yw digon, mae’n fynwent sylweddol,
does fawr o obaith fod hyn yn mynd i weithio, rwyf wedi rhoi cais arni, ymuno
yn hwyl y peth ond does dim pwynt parhau a’r ffolineb yma !
Cerddodd fy nhad atof a finnau yn
gwneud stumiau o fethiant, bron yn ymddiheuro am fod yn “fethiant llwyr ac yn
aelod anghyflawn o’r teulu”. Roedd gwen enfawr ar ei wyneb. Cerddodd fy nhad tu cefn i mi a rhoi ei law
ar y garreg fedd lle roeddwn wedi rhoi gorau i’r chwilio. Camodd tu cefn i’r
garreg gan fy nhywys i edrych ar yr ysgrifen “yr hwn a fu farw 22 Rhagfyr 1894,
Edwin Bullock”.
Ie wir, roeddwn wedi anobeithio a
rhoi’r gorau iddi reit wrth y garreg ond heb drafferthu i ddarllen yr ysgrif,
roedd ffon John Richard Thomas wedi gweithio unwaith eto. Sut mae egluro hunna
felly ? Does dim dadl fod y peth wedi gweithio, ella na theimlais ddim gan y ffon
ond fe aeth a’r ffon a fi yn syth yno. Er yr holl fwydro cwta tri munud fuais
mewn mynwent anferth gan gerdded heb droi nac ail adrodd cyn sefyll ger yr hen
Edwin.
Rhaid credu mewn rhywbeth, mi gredaf
yn ffon John Richard Thomas felly !
No comments:
Post a Comment