O bryd i’w
gilydd byddaf yn galw mewn i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, fel mae rhwyun, yn
teithio o gwmpas y wlad, a mae’r eglwys yn le gwych i dreulio rhyw hanner awr
yn ‘sbrotian’. Fel arfer y Beiblau sydd yn dwyn fy sylw, Salesbury, Morgan,
Parry, ond wythnos yn ol dyma benderfynu
astudio’r gwrthrychau a nodweddion o fewn yr Eglwys gyda chydig fwy o fanylder.
Ar ochr ddeuhol corff yr eglwys dyma
gist neu feddrod gyda milgi “tew” yn hela ysgyfarnog wedi ei gerfio ar wyneb y
gist. Does neb i weld yn sirwr beth yw hanes y feddrod ond yn ol y son mae un
tebyg yn Abaty Glyn y Groes. Wrth ei ymyl mae beddrod i Archesgob Anian (o
bosib) sydd yn marw yn 1293 a mae hanes diddorol iawn i Anian.
Yn ol y son, yn dilyn Cytundeb
Trefaldwyn 1267, roedd Anian a Llywelyn ap Gruffydd wedi dod i gytundeb a sedd
Anian felly yn sicr, ac yn 1269 roedd Anian yn rhan o’r broses o gyfamodi rhwng
Llywelyn a’i frawd, Dafydd ap Gruffydd,ond erbyn 1276-77 roedd Anian yn ochri
gyda’r Brenin wrth i Llywelyn gael ei ddatgan yn ‘Rebal’. Doedd perthynas Anian
a’r frenhiniaeth ddim i bara yn hir achos wrth i Edward 1af ymateb i wrthryfel
1282 mae’r Gadeirlan yn cael ei llosgi gan filwyr y brenin.
Dwy flynedd yn ddiweddarach mae
Anian ac Edward 1af yn cyfamodi diolch i Archesgob Peckham ac wrth i Anian
newid ei wrthwynebiad i ail leoli Abaty Aberconwy i Maenan. Felly os mae cist
Anian yw hon, mae’n garreg fedd i gymeriad a chwaraeodd ran flaenllaw yn y
cyfnod cythryblus hwnnw yn ystod rhyfeloedd Llywelyn ap Gruffydd ac Edward 1af.
Cofeb ychydig fwy ‘dadleuol’ sydd
ger llaw, i Henry Moreton Stanley (1841-1904) sydd yn cael ei ddisgrifio fel
‘Explorer of Africa’ ar y gofeb. Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglyn a chofeb
Stanley ger y llyfrgell yn Nimbych ac yn ddiweddar iawn bu sawl achos o
“weithred-gelfeddydol” fel gwrthdystiad yn erbyn Stanley, neu oleiaf yn awgrymu
fod angen bod yn ymwybodol o ochr fwy anymunol, llai dyngarol y dyn. Fel byddaf
yn ei ddweud o hyd, rhaid delio hefo’r hanes ond dydi hynny ddim yn golygu fod
rhaid cytuno a’r gweithredoedd neu’r cymeriadau.
Dreuliais i fawr o amser hefo
Stanley cyn symud ymlaen at gerflun rhyfeddol o’r ‘Crist Noeth’ gan Michelle
Coxon. Mae hwn yn fy atgoffa o ‘Ecce Homo’ Jacob Epstein yn yr ystyr ei fod yn
gerflun trawiadol, heriol, amgen,arswydys bron. Mae ‘Ecce Homo’ Epstein yn hen
gadeirlan Coventry wrth gwrs, sef yr adfail, yr un a chwalwyd gan fomiau’r
Almaenwyr ac er fod mwy o gig ar gerflun Epstein mae’r ddau yn creu delwedd
eith anghysurus o Grist.
Rhyfeddais fod cerflun Coxon wedi
cael caniatad i fod yma bron. Mae’n fwy addas ar gyfer ‘Tate Modern’. Does fawr
o gysur ynddo os di rhywun yn “credu”. Does gennyf fawr o grefydd yn fy esgyrn,
felly dydi’r cerflyn yn poeni dim arnaf ond rhaid cyfaddef os di rhywun yn chwilio
am gysur, mae’n debyg fod rhywbeth fel y reredos hyfryd tu cefn i’r allor yn
cynnig rhywbeth tawelach ei naws, rhywbeth llai ymosodol i’r llygaid.
Treulias
amser yn y gangell, yn astudio’r seddau ac yn enwedig sedd yr Archesgob a wedyn
yn nodi’r gwrthgyferbyniad llwyr a’r ‘sedilia’ sef y seddau cerrig sydd ar ochr
ddeheuol y gangell wedi eu gosod o fewn bwa miniog – ydi hwn yn yr arddull
‘gothig’ holais, sef y bwa miniog ?
A
dyma gyrraedd wedyn ochr ogleddol yr Eglwys, y capel i’r chwith o’r gangell ac
yma mewn blwch gwydr cawn engreifftiau o gyfieithiad William Salesbury o’r
Testament Newydd 1567, Beibl William Morgan wrth reswm a Beibl Richard Parry
1626. Does dim modd osgoi pwysigrwydd cyfieithu’r Beibl, 1588 yw 1066 y Cymry
Cymraeg (os nad 1282) pwynt mewn hanes sydd yn golygu fod yr Iaith am oroesi.
Diolch i William Morgan fod gennym yr hawl i wylio operau sebon yn y Gymraeg
heddiw yn 2013.
Ar
y lawnt tu allan i’r Eglwys Gadeiriol mae’r gofeb hynod drawiadol, tywodfaen
coch, i’r gwyr hynod yma a chwaraeodd ran yn y broses o gyfieithu’r Beibl. Cawn
gerflun o Dr John Davies Mallwyd, dyn y bu’m yn edrych ar ei garreg fedd yn
ddiweddar yn Eglwys St Tydecho, Mallwyd wrth wneud y daith A470.
Dechreuais
astudio’r cerfluniau unigol, Morgan yn ei wisg “Archesgobaidd” ond yr hyn am
trawodd rhywsut oedd fod Salesbury yn edrych fel un o gyfoedion y Stiwardiaid,
bron fel rhyw dandi yn llys Siarl 1af. Am ychydig o hwyl rhoddias ei lun i fyny
ar y We gan awgrymu mae o’r holl bobl fu’n cyfieithu’r Beibl, mae Salesbury
oedd wedi gwisgo orau !
No comments:
Post a Comment