Wednesday 23 October 2013

Murlun Siartwyr Casnewydd Herald Gymraeg 23 Hydref 2013



Erbyn i chi ddarllen yr erthygl yma bydd Murlun y Siartwyr, Kenneth Budd, 1978, wedi hen fynd, wedi ei chwalu yn rhacs yn llythrennol a hynny gan beiriant ‘jac codi baw’. Dyma chi engraifft o fandaliaeth yn erbyn treftadaeth sydd wedi polareiddio barn pobl yng Nghasnewydd, y werin bobl yn erbyn y gwleidyddion, bron yn ategu’r olygfa o John Frost a chwalwyd ar y murlun ei hyn.

            Son wyf wrthgwrs, am ddymchwel Murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd yn ddiweddar er mwyn codi canolfan siopa newydd. Yr hyn sydd yn ofnadwy o ddiddorol am yr achos yma, yw fod yr holl beth wedi amlygu pam mor allan o gysylltiad yw’r gwleidyddion a chynghorywr a barn y bobl mae’r union bobl yma i fod i gynrhychioli. Dim ots fod 4,000 o enwau ar y ddeiseb ‘Save our Mural’, dydi 4,000 o bobl (etholwyr) felly ddim yn agos at unrhyw fesur o ddemocratiaeth, ddim yn cyfri  – anwybyddwch nhw !

            Erbyn i chi ddarllen yr erthygl yma bydd adeilad A.T.S yng Nghaernarfon wedi hen fynd, wedi ei chwalu yn rhacs gan beiriant ‘jac codi baw’. Y tro yma rydym wedi colli darn o bensarniaeth ‘modernaidd’o’r 20fed ganrif, talp mawr concrit, bron yn Gomiwnyddol ei olwg, ond dyna fo, mae wedi mynd. Rhy hwyr, rhy hwyr i awgrymu cadw’r wyneb yn unig a’i gynnwys yn y datblygiad newydd.

            Cyn bo hir bydd Pont Briwet wedi mynd, a fydd dim deiseb, dim 4,000 o enwau, a’r tebygrwydd yw na fydd neb yng Nghasnewydd hyd yn oed yn sylweddoli, nid eu bod yn ddifater ond dydi’r cysylltiadau ddim yno nac ydynt ? Felly er fod y bont bren a agorwyd ym 1867 gan yr ‘Aberystwyth & Welsh Coast Railway’ yn adeilad sydd wedi ei restru (Gradd II) mae’n debyg fod y gost o gynnal a chadw yn ormod. Mae angen y ffordd lydan newydd er mwyn cyrraedd rhywle yng nghynt. Pawb ar frys i siopa efallai ?

            Efallai mae dyma pris datblygiad, ond pob tro mae hyn yn digwydd rydym yn colli darn bach o hanes, rydym yn colli’r nodweddion bach hynny sydd yn gwneud Cyrmru yn wahanol, y nodweddion diddorol ar y tirwedd sydd yn rhoi naws i’r lle. Yn sicr mae’n golled.

            Wrth chwilio am rhywbeth calonogol ymhlith yr holl fandalaieth treftadol yma, mae’n amlwg fod y gwrthdystiadau yng Nghasnewydd yn dangos fod pobl yn malio am eu treftadaeth, yn ymddiddori yn eu hanes a rhaid cyfaddef, er mor drist yw colli’r murlun, fod hyn wedi dod a’r holl gwestiwn o berthynas pobl Cymru a’u hanes yn ol yn flaenllaw ar yr agenda. Does ond rhaid edrych ar y sylw diweddar i gofio canmlwyddiant ers trychineb Synghennydd i weld engraifft arall amlwg o bwysigrwydd hanes i bobl yr ardal yn benodol ac ar raddfa Genedlaethol.

            Efallai mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd oedd un o’r rhai a fethodd fwyaf i bwyso a mesur cryfder teimladau ei etholwyr wrth ddatgan fod digon o gofebion eraill yng Nghasnewydd i gofio am y Siartwyr er ei fod yn cydnabod fod chwalu murlun Kenneth Budd yn ‘golled’.

Wrth sgwrsio a Good Evening Wales ar BBC Radio Wales dyma oedd gan Flynn i’w ddweud "It's a whole series of ideas and aspirations, principles that will continue to be commemorated in Newport." Wrth geisio awgrymu fod hanes y Siartwyr yn fwy nac un murlun. Gwir wrth reswm, ond hollol ansensitif o deimladau amlwg ei etholwyr (neu 4,000 ohonynt).

Ar safle we Newyddion BBC De Ddwyrain Cymru, 3dd Hydref mae clip fideo yn dangos y jac codi baw yn chwalu’r murlun teils, a rhaid cyfaddef nad oes modd dod o hyd i unrhyw ansoddair ond fandaliaeth onibai fod rhywun yn cyfeirio at y weithred fel un gwarthus.

Ffactor arall yn hyn i gyd yw fod Cyngor Casnewydd wdi cael dyfynbris (un yn unig yn ol y son) o £600,000 i symud y murlun a felly fod y penderfyniad wedi cael ei wneud i’w chwalu yn hytrach na ei gadw. Dyma rhywbeth sydd wirioneddol wedi gwylltio’r gwrthdystwyr – pam un dyfynbris yn unig ? A rhaid gofyn am £600,000 beth oedd y cynllun – ei symud yr holl ffordd i Oman ?

            Yn olaf, roedd penderfyniad y Cyngor i chwalu’r murlun heb fawr o rybydd yn gangymeriad pellach oedd yn peri i’r gwrthdystwyr amau fod hyn yn fwriadol rhag galluogi mwy o wrthdystio i atal y weithred. Erbyn y 9fed o Hydref roedd Wil Godfrey Prif Weithredwr Cyngor Casnewydd yn ymddiheuro am y penderfyniad (wrth gwrs ei fod achos mae 4,000 o’i etholwyr a Chymru gyfan bellach wedi digaloni hefo’r modd chwalwyd y murlun)

             Dyma oedd gan Godfrey i’w ddweud wrth y BBC "I apologise for this shortcoming but our focus was upon ensuring that the demolition could proceed with as little danger as possible to the public. "The decision was not informed by any planned demonstration on 5 October, notification of which was in the public domain but of which the council was not formally notified."

            Y piti mawr yma yw fod pawb wedi colli’r cyfle i wneud rhywbeth gwell neu rhywbeth amgen gyda’r murlun. Y ddelwedd mwyaf trist, os nad eironig, oedd yr un o’r heddwas yn rhoi darnau o’r teils i’r gwrthdystwyr drwy’r ffens wrth i’r jac codi baw ei chwalu am byth. Colled enfawr a rhag ein cywilydd am adael i hyn ddigwydd –a dwi’n awgrymu ein cywilydd – mae hwn yn adlewyrchu yn ddrwg ar bawb !

 

 

1 comment:

  1. Gan fod hwn yn ffordd ryfeddol o drahaus i swyddogion cyhoeddus i ymddwyn a ni ddylai wedi digwydd, mae dinistriad y murlun hwn yn rhoi cyfle i gywiro rhywbeth pwysig:
    Nid oedd gair o Gymraeg arni o gwbl.

    Cymraeg oedd iaith y Siartwyr o Gymru - yn hollol bendant. Roedd yn iaith y mwyafrif helaeth ar draws y wlad yn eu hamser nhw, gan gynnwys y de ddwyrain, ac mae absenoldeb yr iaith o'r murlun hwn yn creu argraff gref o'r gwrthwyneb.

    Dwi'n byw yn yr ardal, a gan fod rhywfaint o Gymraeg gan fwy na 18000 o bobl yn y ddinas (13%: ffigurau Cyfrifiad 2011), mae agwedd wrth-Gymraeg gan rhai pobl, yn dod o'r gred nad oes siaradwyr Gymraeg yma, neu unrhyw draddodiad neu hanes o ddefnydd yr iaith o gwbl yn yr ardal (dwi wedi clywed pobl yn rhannu'r farn anghywir hon yn hollol ddiffuant!).

    Dwi'n credu mai'n bwysig bod unrhyw beth newydd sy'n coffáu y Siartwyr yn gwneud yn hollol amlwg y Gymraeg oedd eu hiaith. Mae'n gyfle arbennig i ddathlu'r gymuned Cymraeg hanesyddol a bresennol yn yr ardal, ac yn gwneud e'n fwy amlwg ei bod yn bodoli o hyd, ac i ymateb i ragfarn gwrth-Gymraeg yn yr ardal.

    ReplyDelete