Cefais
wahoddiad i agor arddangosfa ‘Materion Materol’, ac i anerch y gynulleidfa yn
Amgueddfa Gwynedd yn ddiweddar a fedrwn i ddim peidio taflu dyfyniad Dr Eurwyn
William i mewn i’r sgwrs. Eurwyn William gyhoeddodd yn y rhagair i’r llyfr ‘Discovered in Time’ (Amgueddfa Genedlaethol
Cymru) “fod dim brodorion yng Nghymru ….. rydym oll yn fewnfudwyr”.
Rwan neges Eurwyn oedd fod
gwrthrychau sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn ein galluogi i
ddeall y darn bach yma o dir yn well, i ddeall Cymru yn well, i ddeall pwy
yda’ni yn well ac i greu gwell dinasyddion. Felly mae modd i’r Somali ym Mae
Caerdydd (Tiger Bay) gael cysylltiad a’r lle drwy astudio’r gwrthrych – dyna’r
syniad. Rwyf wedi son am hyn o’r blaen ond mae’n werth ei ail adrodd (a hynny
yn aml).
Gan fod ‘Materion Materol’ yn
wahoddiad i artistiaid Cymreig ddehongli gwrthrychau sydd yn Amgueddfa Gwynedd
teimlais fod gosodiad Eurwyn yn rhywbeth ddigon teg i daflu at y gynulleidfa
a’r artistiaid – wedi’r cwbl, beth yw’r pwynt os nad yw hyn i gyd yn ysgogi
trafodaeth a felly teimlais mae fy swydd i ar y noson oedd gwneud nhw feddwl
chydig. Yr artistiad yw Carwyn Evans, Sian Green, Iestyn Gruffudd, David Hastie,
Helen Jones a Wanda Zyboroska. Helen sydd wedi curadu’r arddangosfa.
Dechreuais drwy herio’r iaith mae
artistiaid yn ei ddefnyddio i ddisgrifio eu gwaith. Disgrifiadau (ansoddeiriau)
anealladwy i unrhywun sydd ddim yn y Byd Celf, a synnwn i ddim, anelalladwy i’r
artistiad hefyd. Ychydig ddydiau wedyn roeddwn yn gwrando ar Ddarlith Reith, ‘Playing
to the Gallery’ ar BBC Radio 4 a dyma Grayson Perry (trawswisgwr / gwneuthurwyr
crochenwaith) mwy neu lai yn dweud yr un peth. Darllenodd Perry lith rhyw
artist cysyniadol ac ar ddiwedd y darn dyma fo yn cymeryd seibiant cyn ategu “…..nor
me !”
Rhaid dweud roedd Grayson yn wych yn
y ddarlith, gyda hiwmor a gonestrwydd roedd yn herio’r gyfundrefn Celf am eu ‘helitiaeth-drwy-ddewis’
ac yn wir rhan o’r pwynt oedd gennyf yn Amgueddfa Gwynedd oedd herio dipyn ar
yr artistiaid. Beth yw eich gwaith go iawn ? I bwy mae’r celf ? Be di pwrpas
hyn i gyd ? Sut gallwn ehangu’r gynulleidfa ?
Awgrymais yn garedig mae ein gwaith
ni (colofnwyr, artistiaid, cerddorion) go iawn, yw cyfathrebu, heb gynulleidfa
mae’r gwaith yn ddi-werth neu yn sicr yn cael ei ddi-brisio. Hynny yw, rhaid
wrth gynulleidfa, rhaid wrth y gallu i gyfathrebu ac i gysylltu ac i effeithio
ac i roi pleser ac i ofyn cwestiynnau. Wedyn awgymais fod rhaid i artistiaid
heddiw fod yn trydar ac yn blogio – rhaid bod allan yna yn cyfathrebu neu mae’r
celf yn aros fel rhywbeth hunanol a di-arffordd ?
Roedd cerddorion o hyd yn dweud yn
doeddan “dwi’n sgwennu i mi fy hyn ac os di rhywun arall yn hoffi’r gan mae o
yn bonws”, wel fy ymateb i hyn oedd, da chi peidiwch a prynu CD gan unrhyw
artist sydd yn dweud rwtsh o’r fath. Eto beth yw’r joban o waith ? Cyfeirias yn
sydun at ‘Bloody Old Britain’ sef damcaniaethau O.G.S Crawford am archaeoleg a
thirwedd gan awgrymu mae gweledigaeth Crawford sydd ei angen arnom os am fynychu
amgueddfa, os am ail ddehongli gwrthrychau – rhaid dysgu i ddarllen y tirwedd
ac i ddarllen gwrthrychau a wedyn mae’n bywydau yn gyfoethocach.
Er mwyn esbonio fod hyn i gyd yn
plethu, ac yn gwneud synnwyr, sef y darlun llawn , pregeth Cynefin a Chymuned
os mynnwch, sef y cyd-destun, darllenais ddarn o waith T.H Parry Williams gan
drafod sut mae deal a dehongli aradl Rhyd Ddu. Gwrandawodd pawb yn astud a
wedyn gwrthodais gyfieithu’r geiriau i’r Saesneg ! Edrychiadau nerfys, ambell
un yn chwerthin, distawrwydd…….a wedyn awgrymais fod yma her yndoes, i ddysgu’r
Gymraeg, wedi’r cwbl, hanner darlun gwech chi o Gymru heb yr Iaith. (And our
non-Welsh speaking friends took it in good humour).
Dwi dal yn fyw, nath neb wylltio na
gweiddi arnaf i gau fy ngheg ond dwi ddim yn siwr beth oedd pobl yn feddwl ?
Mae’n od dyddiau yma achos dydi’r gwleidyddol ddim yn yr eirfa boblogaidd, dydi
caneuon protest ddim yn naturiol Iaith gyntaf, dydi mynegi barn ddim yn rhan
o’r celf – mae gormod o artistiaid heddiw ddigon hapus hefo bod yn greadigol
ond yn osgoi’r gwleidyddol – a bellach dwi’n tueddu i ddisgrifio fy hyn fel
ffosil o Oes arall pan roedd y gwleidyddol yn hanfodol ac yn hwyl, heb unrhyw
wrthdaro.
Rhaid cyfaddef fy mod mor falch o
wrando ar Grayson Perry yn cyflwyno’r darlithoedd ‘Playing to the Gallery”
eleni, achos mae’n cadarnhau fod y
gwleidyddol yn Iaith gyfoes, ac efallai mae’r sefyllfa yng Nghymru ar y funud
sydd wedi ymwrthod a’r peth fel rhyw adwaith i’r Ymgyrch Iaith, Peintio’r Byd
yn Wyrdd a Thryweryn – mi newidith pethau eto yn fuan siawns ………
Mae arddangosfa ‘Materion Materol’
yn Amgueddfa Gwynedd Bangor hyd at 16 Tachwedd. Mae fy araith i’w weld ar safle
we culturecolony.com/videos