Cwestiwn
diddorol mae ‘English Heritage’ yn amlwg yn ei wynebu gyda Cor y Cewri yw sut
mae ‘rheoli treftadaeth’, rheoli’r niferoedd a’r mynediad i’r safle. Dyma un o
5 Uchaf safleoedd treftadaeth mae ymwelwyr am eu gweld yn Ynysoedd Prydain,
rydym yn son am filoedd ar filoedd o bobl bob blwyddyn a dyma safle fel
Stratford upon Avon, Caeredin a Llundain y mae’n rhaid i ymwelwyr gael rhoi tic
yn y blwch.
Mae Mur Hadrian yn un arall sydd yn
yr un categori a Chor y Cewri yn yr ystyr ei fod yn safle archaeolegol ac yn anffodus
yn yr engraifftiau yma, nid son am gwrydro tref neu ddinas mae rhywun ond am
ymweld ac un safle penodol, sydd angen ei warchod ac un fyddai’n cael ei
ddinistrio petae pawb yn cael rhyddid i grwydro ymhlith y meini neu heb
reolaeth. Er fod llai yn ymweld, meddylich am lwybrau’r Wyddfa – gormod o bobl
yn troedio’r un llwybr yw rhan o’r broblem felly.
Yn
ystod blynyddoedd y 1920au amcanfyfrifid fod oddeutu 20,000 yn ymweld a Chor y
Cewri yn flynyddol. Erbyn 1951 roedd y ffigwr yn agosach i 124,000 ac ym 1971
roedd y ffigwr dros hanner miliwn (a finnau yn un ohonynt rhywbryd ddechrau’r
70au). Heddiw mae’r nifer dros filiwn yn flynyddol, dros hanner rheini o dramor
sydd efallai yn ategu’r pwynt uchod fod hwn yn safle i’w weld ar un o’r
gwybdeithiau o amgylch Ynysoedd Prydain.
Os
cofiaf yn iawn, ddechrau’r 70au cefais grwydro ymhlith y meini, byddwn felly
wedi cyffwrdd a rhai o’r meini gleision o’r Preseli ond heddiw wrthgwrs cerdded
mewn cylch o amgylch y cerrig mae rhywun gyda rhaff fach yn eich cadw at y
llwybr. Wrth gerdded o gwmpas ychydig ddyddiau yn ol roedd yn amlwg fod cwrs y
llwybr yn cael ei amrywio o flwyddyn i flwyddyn er mwyn caniatau i’r glaswellt
ail dyfu.
Dechreuwyd
wrthod (rheoli mynediad) i bobl gerdded ymhlith y meini ym 1978 o ganlyniad i
erydu sylweddol dan draed ac yn fwy siomedig, gan fod rhai yn fandaleiddio’r
meini. Anhygoel medda chi, ond mae hyn wedi arwain hefyd i CADW orfod rheoli’r
mynediad i safloeoedd fel Barclodiad – mae rhai yn dal i fynu crafu graffiti ar
y meni yn Barclodiad petae dim rheolaeth yno.
Roeddwn
am ymweld a Chor y Cewri i drio cael argraff o’r ‘profiad’. Yn ddigon naturiol,
yn reddfol efallai, roeddwn yn credu fod angen cerdded ymhlith y cerrig i wir
werthfawrogi’r safle ond ar y diwrnod hwn, holl bwynt yr ymweliad oedd bod yn
“ymwelydd”. A wyddo’chi beth doedd y profiad ddim hanner mor gynddrwg a’r
disgwyl. Oes wir mae gormod o ragfarnau weithiau yndoes.
Do
fe chwerthais wrth edrych ar yr holl geir yn y maes parcio, fel dywedodd un o’r
hogia, mae fel Steddfod fach – hynny yw, ‘dim’ o’i gymharu a maes parcio’r
Steddfod Genedlaethol a dim on tua tri bws oedd yn y maes parcio bysus wrth i
ni gyrraedd. Doedd hi ddim yn ffair wallgof o bell fordd, prysur oedd ond ddim
yn anifir felly.
Wrth
gerdded i mewn drwy’r fynedfa danddaearol (o dan yr hen A344 i Devises) braf
oedd gweld fod y ffordd honno bellach wedi ei chau am byth ger ochr y cofadail
a fod archaeolegwyr o gwmni Wessex Archaeology nawr yn clirio’r ffordd darmac
unwaith ac am byth cyn ei throsglwyddo yn ol i dir glaswellt. (Yma gyda llaw
mae llinell y cwrsws).
Rhaid
canmol staff ‘English Heritage’ oedd yn fwy na chyfeillgar a hwyliog, pawb yn
glen ac yn hapus – a phawb yn cydnabod yn syth na fydd y pedwar ohonnom yn
ymaelodi gan ein bod o Gymru a felly am ymaelodi a CADW. A dyma ni, o dan yr
hen ffordd ac i mewn ar safle’r cofadail. Mae digon o le i gymeryd lluniau, neb
yn stwffio, pawb i weld yn cymeryd sylw. Nifer fawr hefo’r teclynau tywys ar
gyfer y glust. Da iawn nhw yn cymeryd diddordeb go iawn !
Mae
nifer o’r ymwelwyr yn gorweddian ar y glaswellt o amgylch y safle, mae’n haul
poeth, ac unwaith eto braf gweld pobl yn cymeryd eu hamser. Nid mor hawdd i
gwsmeriad y bysiau wrth reswm achos bydd angen iddynt fod yn ol yn eu seddau
mewn hanner awr er mwyn cyrraedd Stratford erbyn amser te. Rydym rhy bell i
weld y cerfluniau bwyeill ar rhai o’r meini a rhy bell, a heb y golau
angenrheidiol, i weld yr hoel gweithio a siapio ar rhai o’r meni.
Rydym
hefyd rhy bell i gael gwir argraff o’r cylch meini gleision – dim ond cipolwg
geir ohonynt tu cefn i’r trilothonau – efallai mae dyma’r siom fwyaf i ni o
Gymru. Ar y llaw arall rydym yn cerdded yn ofnadwy o agos i’r Maen ‘Heel’, does
gennyf ddim syniad os rydym a hawl i gyfieithu ‘r garreg fel Maen Sawdl ?
Felly
sut brofiad yn union gafodd Mr Mwyn ? O feddwl ein bod yno ddechrau’r prynhawn
a fod y safle yn gymharol brysur roedd yn brofiad ddigon pleserus, chefais i
ddim fy siomi mewn unrhyw ffordd sylweddol. Cefais argraff hynod dda o’r staff,
fod pawb yno yn groesawgar ac yn gwerthfawrogi fod y mwyafrif yno mae’n debyg
ar wyliau ac yno i fwynhau.
Welais i fawr o neb yn ‘dadansoddi’
na thrafod, welais i neb oedd yn edrych yn amlwg fel archaeolegwyr a chlywais i
neb yn cyfeirio at Preseli ond mi welais rai cannoedd yn mwynhau yn hamddenol a
da o beth mae’n siwr yw hynny. Wrthgwrs mae’n biti fod y mynediad yn gorfod
cael ei reoli ond dyna bris rhoi cymaint o ffocws ar un safle – bellach does
dim modd newid hynny. Os am brofiad fwy agos a meini hirion, ewch draw i
Avebury ond am pa hyd fydd Avebury yn caniatau i ni grwydro ymhlith y meini –
dyna chi gwestiwn arall !
No comments:
Post a Comment