llun Ani Saunders 'Coch'
Oes unrhywun
yn darllen y golofn hon sydd yn cofio cylchgrawn ‘The Face’ ddechrau’r 80au ?
Ar y pryd roedd y cylchgrawn arloesol yma yn cael ei ddisgrifio fel y “Beibl
Steil” ac i nifer o bobl oedd yn ymwneud a diwylliant poblogaidd (yng Nghymru
hefyd) yn ei holl amrywiaeth, The Face oedd y Beibl, yn hytrach na chyfieithiad
William Morgan, 1588 ! Llwyddiant y cylchgrawn oedd i ddod a gwahanol agweddau
o ddiwylliant at eu gilydd o fewn yr un clawr ac yn sicr i wthio ffiniau a
herio agweddau.
Fel cymaint o gerrig milltir
diwylliannol, mae’r Face yn parhau i fod yn bwysig o ran dylanwad a diwyg a mae
unrhywun sydd yn ymwneud ar maes heddiw angen bod yn ymwybodol oleiaf, o’r hyn
ddigwyddodd dan olygyddiaeth rhai fel Nick Logan a Sheryl Garratt, a’r ffaith
fod y cylchgrawn bellach yn cael ei arddangos (a’i gydnabod felly) yn yr Amgueddfa
Gynllunio yn Llundain fel rhywbeth o bwys o ran cynllun a chysodi.
Un elfen bwysig yn y Face oedd
ffotograffiaeth arloesol, boed hynny yn luniau o’r ffasiwn diweddaraf neu o
ddiwylliannau llwythol ieuenctyd fel y Mods neu Teddy Boys yn rhywle fel
Siapan, neu yn amlwg y ffasiwn “Rhamantaidd Newydd” ddaeth yn sgil y gwisgoedd
a gwalltiau heriol a wisgir gan Gymry fel Steve Strange a Lowri AnnRichards.
Roedd y “stryd” o hyd yn bwysig, sef
yr hyn oedd yn digwydd ar y stryd ei hyn neu mewn clybiau nos a mae’r broses
yma o ddehongli a chofnodi drwy ffotograffiaeth yn rhywbeth sydd wedi parhau
hyd heddiw. Beth yn union sydd i’w weld ar ein strydoedd yma yng Nghymru, o ran
adeiladwaith ac o ran pobl ac os ydym am gymeryd sylw o eiriau yr Archdderwydd
newydd Christine James, beth am y diwylliannau eraill yna sydd yng Nghymru, y
diwylliannau a’r lliwiau anweledig, yn enwedig yn y Byd Cymraeg ?
A dyma daro ar draws Blog hyfryd
cardifftothesee.com sef Cardiff to the See ond yn chwarae hefo geiriau a gweld
lluniau trawiadol Ani Saunders (cerddor / Pipette / cynllunydd ffasiwn).
Lluniau fydda wedi gorwedd yn gyfforddus yn The Face dan olygyddiaeth Garrett,
lluniau o “bethau a gwisgoedd” ar strydoedd Caerdydd, y brif-ddinas, Prif
Ddinas Cymru ac eto lle aml-ddiwylliant. Yr hyn am trawodd yn syth am luniau
Ani Saunders oedd fod hi yn ymdrin a Chaerdydd heddiw ond drwy lygaid sydd yn
gweld yr anweledig.
O edrych ar blog
cardidfftothesee.com y peth cyntaf amlwg yw fod Ani yn gallu ymdrin ac
adeiladau. Rwyf newydd orffen darllen y llyfr ‘Bloody Old Britain’ sydd yn ymwneud
a chofnodi drwy ffotograffiaeth pethau yn y tirwedd wledig a threfol / dinesig a
mae llun Ani o’r teils ar hen orsaf yr Heddlu yn Canton yn union y math o beth
fyddai wedi dwyn sylw O.G.S. Crawford yn ei ddydd.
Bron fod y teils ar yr orsaf heddlu
yn eich tywys i wlad Islamaidd, rhywle yn Tunisia neu Morocco a rhywsut neu’i
gilydd mae’r ffenestri budr wedi troi yn las a’r ffaith fod paent gwyn y ffram
angen cot newydd yn ein harwain yn daclus at enw Ani i’r llun ‘teilie di
treulio’. Ond nid llun o adeilad mo hwn, darn yn unig, nodwedd wedi ei amlygu,
darlun sydd yn arwain at y disgrifiad, bron byddwn yn awgrymu a’r un cynildeb
a’r bardd.
Rhyfedd, achos rywf yn adnabod yr
adeilad yma, fel unrhywun arall sydd wedi cerdded neu yrru trwy “downtown
Canton”. Dyma’r pethau mae Crawford yn ei annog i ni sylwi arnynt, i’w cofnodi,
i’w cadw lle bosib ond yn sicr i’w gwerthfawrogi. Felly os yw Ani Saunders yn
defnyddio ei chamera fel mae’r bardd yn trefnu geiriau mae hi hefyd, heb yn
wybod ddychmygwn i, yn dilyn llwybr Crawford. Mae hi yn gofnodwraig, yn
archaeolegydd celfyddydol yn y tirwedd ddinesig, yn creu ar gyfer yr oriel gelf
(blogiau) yn hytrach na’r adroddiadau
Comisiwn Brenhinol. Celf yw hyn go iawn nid cofnod pur ond mae’n gofnod o
gyfnod gan ddal eiliadau ar gamera fydd byth yn digwydd, neu’r un fath, eto.
Wrth reswm mae ei lluniau o
gymeriadau, ffasiwn a diwylliannau yn llawer llai parhaol na’r adeiladau, er
fod rhywun yn pryderu bellach pam mor
sydun a hawdd mae adeiladau yn diriwio neu yn diflannu. Cymeriadau o dras neu
gefndir Affricanaidd / Dwyrain Canol /
Islamaidd sydd yn cael ei sylw ac un o’r lluniau wnaeth i i chwerthin yw’r un o’r ddau hogyn ifanc yn
ei gwisg traddodiadol ond gyda jeans ac un gyda
‘trainers’. Yma mae’r ddau ddiwylliant yn cyfarfod – fel Constantinople,
y Dwyrain a’r Gorllewin.
Dim ond yn y ddinas mae modd cael
hyn, dydi hyn ddim mor hawdd yn Llanrug neu Ffostrasol ond mae’n gwneud i ni
feddwl, os nad gwenu, a mae geiriau Christine James wedi fy nghyffwrdd go iawn
ers y Steddfod eleni. Beth yw ein perthynas a’r Somalis yn y Dociau (Bae
Caerdydd bellach), lle mae’r Gymraeg yn hyn i gyd, beth yw Cymru a Chymreictod,
cwestiynau mawr ?
Ewch am dro i safle cardifftothesee,
dyma gipolwg drwy chwyddwydr neu sbeinddrych amgen, dyma olwg arall ar Gymru yn
2013. Ac wrthgwrs, a dwi’n derbyn hyn, mae dyddiau’r Face drosodd go iawn, ond
rwyf yn defnyddio’r gymhariaeth fel modd i awgrymu fod yr hyn sydd gan Ani
Saunders yn wirioneddol dda ac yn ychwanegu at y peth amhrisiadwy yna
“diwylliant Cymraeg a Chymreig” yn ei holl amrywaith.
Dyma luniau sydd yn ysbrydoli rhywun
i drio adanabod y lle yma yn well, i ddarganfod onglau gwahanol ac i agor ein
llygaid yn union fel pregethodd O.G.S. Crawford. Roeddwn mor, mor falch o daro
ar draws y lluniau yma achos y Face oedd fy meibl i a rwyf yn dal i gredu !
No comments:
Post a Comment