Roeddwn wedi
teithio draw i Lanrhaeadr ym Mochnant i drafod “Sgwennu Colofnau” hefo’r gangen
lleol o Ferched y Wawr a dyma weithredu’r union beth roeddwn yn ei drafod, mae
fy ymweliad wedi ysbrydoli’r golofn yr wythnos hon.
Y peth cyntaf am trawodd wrth ddodd
allan o’r car yng nghanol y pentref oedd yr acen “Sir Drefaldwyn”, yr acen gora
yn y Byd wrth gwrs a hyfryd i’w ei chlywed bob amser, yn enwedig felly i
fi sydd bellach rhy ddiethr a bro fy
magwraeth ac yn clywed yn amlach na pheidio acen ‘Cofi’ neu acen hyfryd Pen
Llyn (gan fy mod yn treulio gymaint o amser yno). Dyna chi ddadl arall, dwi
ddim ond yn ochri hefo Maldwyn achos yno cefais fy ngeni ond mae acen Gymraeg Pen
LLyn hefyd yn drysor Cenedlaethol heb os.
A dyma ni felly ar y Gororau, agos
i’r ffin, ardal a diwylliant a gwleidyddiaeth a deinameg sydd yn gyfarwydd iawn
i mi wrthgwrs felly rwyf hefyd yn clywed acenion y mewnfudwyr ac acenion
di-Gymraeg ochrau Dwyrain Maldwyn. Cymysgedd
od o synnau a phrysurdeb pentref cefn-gwlad sydd yn unrhywbeth ond distaw. Mae
yma fwrlwm o fynd a dod a 4x4’s.
Rwyf
yn sefyll ar y sgawr yn tynnu llun o gampwaith pensaerniol Giles Gilbert Scott,
un o’r blychau ffon coch a gynllunwyd ganddo yn ol ym 1924 yn wreiddiol, sef y
blwch K2, er fedrw’ ni ddim taeru hefo
neb ac unrhyw awdurdod os yw’r blwch coch yn Llanraeadr yn un K2 neu yn gynllun
diweddarach. Ond gallawn gytuno fod yma engraifft o’r blwch ffon coch
eiconaidd. Wrth ei ymyl blwch llythyrau yn yr un lliw.
Giles Gilbert Scott yw pensaer yr Eglwys
Gadeiriol yn Lerpwl (yr un hen nid Paddy’s Wigwam fel mae’r Sgowsars yn galw’r
un Gatholig) a Giles hefyd oedd pensaer pwerdy Battersea sydd yn amlygu ei hyn
mor drawiadaol yn fideo ‘London’s Calling’ gan The Clash. Ar ol cael blas o’r acenion
a chael lluniau o waith Giles Gilbert Scott roedd yn hollol amlwg fod William
Morgan a’r Eglwys St Dogfan yn galw.
Braf
oedd canfod fod drws yr eglwys yn parhau i fod ar agor er ei bod wedi troi
5-30pm a dyma gael mynediad a mynd yn syth i chwilio am Garreg Cwgan, hen
garreg fedd sydd a hanes diddorol iawn. Mae’n debyg fod y maen yn dyddio o’r
9fed Ganrif Oed Crist ond ei bod wedi cael ei hail ddefnyddio wedyn fel carreg
fedd yn yr 11fed ganrif. Mae’r busnas ‘ma o ail ddefnyddio cerrig ddigon cyffredin,
dyma ail-gylchu ganol oesol os mynnwch.
Llwyd
yw’r maen gyda cerflun o groes hir arni a chylch am y groes a wedyn cerfluniau
lled “Geltaidd” cain wrth ymyl coes y groes. Saif y garreg ger un o golofnau
corff yr Eglwys gyferbyn a’r organ a ger yr arddangosfa i William Morgan. To
hynafol pren sydd uwch ben y gangell a mae’r bedyddfaen yn dyddio i 1663. Tu
cefn i’r allor gwelir olygfa o’r Swper Olaf ar y sgrin bren “reredos”. Hyfryd
iawn.
Doedd
dim amser gennyf i chwilota am garreg fedd Gwallter Mechain ond mae o yma yn y
fynwent yn rhywle, ar ochr ddeheuol i’r Eglwys yn ol y son, felly dyma rhywbeth
i’w ychwanegu at y rhestr ‘pethau i’w gwneud tro nesa dwi’n Llanrhaeadr’. Mae
maen hir arall ger yr hen ysgol ar waelod yr allt, ochr Llanfyllin i’r pentref felly
dyma grwydro draw at honno. Dyma engraifft arall o ail-gylchu hanesyddol o fath
gan fod rhywun wedi ychwanegu’r pellter i’r Amwythig a Llundain ar wyneb y
garreg.
Felly
dyma faen hir, dychmygaf o’r Oes Efydd, sydd wedi cael ail wynt yn hanesyddol
fel carreg filltir. Os darllenais y rhifau Rhufeinig yn gywir mae 26 milltir i’r
Amwythig a 280 i Lundain. Os gwnes gangymeriad dyma gyfle i bobl Llanrhaeadr i
ymateb. Nodwedd arall hynod ddiddorol gyferbyn a’r maenhir oedd y garreg
filltir yn dyddio o 1894. Camargraff efallai yw disgrifio hon fel carreg
filltir gan mae plat metal wedi ei osod yn y wal yw’r arwydd ond wrth reswm yr
un yw’r pwrpas.
Felly
ar yr arwydd filltir cawn weld mae Wrecsam oedd yn gyfrifol am osod y plat ac
yn wir yma cawn gadarnhad fy mod wedi’r cwbl wedi darllen y rhifau Rhufeinig yn
gywir a mae 26 milltir sydd i’r Amwythig. Yr hyn oedd yn amlwg oedd y cyfoeth
oedd yma i’w weld,sef y nodweddion bach diddorol sydd yn cael sylw O.G.S
Crawford yn Bloody Old Britain a dyma roi ei ddamcaniaethau i waith ar
strydoedd Llanrhaeadr.
Cyn
wynebu Merched y Wawr (sydd bob amser yn bleser cofiwch) roedd angen panad a
byrbryd a dyma lle mae Llanrhaeadr yn rhagori – roedd caffi y “Gegin Fach” ar
agor a hithau wedi troi 6pm erbyn hyn. Chefais i ddim fy siomi gan y croeso, yr
awyrgylch a’r datan drwy grwyn caws rhagorol ond uchafbwynt fy ymweliad a’r
Gegin Fach oedd sylwi fod Bryn Fon, ie Y Bryn Fon y canwr pop Cymraeg enwog
wedi gadael llofnod a dymuniadau gorau i’r staff ar ochr y cownter.
No comments:
Post a Comment