Heulwen ar hyd y
glennydd - a haul hwyr
A’i
liw ar y mynydd
Felly
Llyn ar derfyn dydd,
Lle
i enaid gael llonydd.
Efallai i J.
Glyn Davies grisialu popeth yn y llinell olaf yna. Sawl gwaith rwyf wedi ei
ddyfynu yn y golofn hon, a dyna pam mae rhywun yn cerdded llwybrau, mynyddoedd,
yr afordir, coedwigoedd ynde, yn y gobaith fod ein henaid bach gor-brysur yn
cael y mymryn lleiaf o lonydd – i ffwrdd o swn y Byd.
Ond
wedyn mae yna linell gan T.H Parry Williams sydd hefyd yn crisialu popeth, sef
i ni beidio meddwl ein bod mor bwysig a hynny, pethau bach gymharol di-bwys, yma
am gyfnod byr, ydym wedi’r cwbl, yn gobeithio ein bod yn gwneud rhyw
wahaniaeth, yn cael rhyw effaith ond yn y bon, beth ydym “ond swp o esgyrn mewn
gwisg o gnawd ?”.
Does
dim dwy waith fod Cymru wedi cynhyrchu toreth o feirdd a llenorion sydd wedi
gallu mynegi pethau oedd angen eu mynegi ond ychydig iawn sydd wedi gallu son
am beth sydd ar y tirwedd yn hytrach na chanmol ei brydferthwch. Byddaf yn
dweud yn aml iawn mae’r broblem fawr hefo Cymru yw fod y golygfeydd mor hyfryd
a’r cwmni mor dda rydym yn treulio ein hamser cerdded yn rhyfeddu ar yr olygfa
ac yn mwynhau sgwrs ac o ganlyniad does neb byth yn edrych i lawr i weld beth
sydd o dan ein traed.
Un
o fy fyfyrwyr gyflwynodd y llyfr ‘Bloody Old Britain’ i mi gyntaf. Gweithred
gyfeillgar a chymwynasgar o rannu gwybodaeth drwy fenthyg a dyma ddarllen y llyfr o glawr i glawr o fewn
dyddiau. Yn ddiweddar bu rhaid i mi brynu’r llyfr, gan fy mod am ei ail
ddarllen a gan fy mod angen copi yn y llyfrgell, mae’n lyfr mor hanfodol a
hynny !
Yn
y bon, cynnwys y llyfr yw adroddiad gan Kitty Hauser, sydd bellach yn
ymchwilydd ym Mhrifysgol Sydney, o fywyd a syniadaeth gwr o’r enw O.G.S
Crawford. Mae teitl y llyfr ‘Bloody Old Britain’ yn ategu teitl llyfr Crawford
o’r 1930au na chafodd ei gyhoeddi gan fod cynnwys y llyfr llawer rhy negyddol a
sinigaidd wrth i Prydain ymbaratoi am ryfel gyda’r Almaen. Dim ond dogfennau ac
ambell gopi felly sydd yn bodoli o lyfr Crawford, does dim pwynt chwilota
amdano ar Amazon.
Bu
Crawford yn hedfan dros y ffosydd yn ystod y Rhyfel Mawr, ei waith oedd edrych
ar safleoedd yr Almaenwyr o’r awyr er mwyn cyfeirio y bomiau i’r cyfeiriad iawn
dros y ffosydd, ac wrth reswm i osgoi gollwng bomiau ar y Fyddin Brydeinig. Dyn
mapiau oedd Crawford felly roedd ei gyfnod olaf yn y Rhyfel yn ymwneud ar ochr
gwybodaeth yn hytrach na saethu yn uniongyrchol. Er hynny, gwaith peryglus iawn
oedd hedfan dros linellau’r Almaenwyr a bu i’w awyren gael ei saethu i lawr a
fe’i anafwyd ond bu’n lwcus iawn o gymharu a chymaint o’i gyd filwyr a’i
gyfoedion – daeth adref yn fyw.
Rhwng
y rhyfeloedd bu’n gweithio i’r Ordnance Survey fel eu hunig swyddog archaeoleg
ac mae diolch mawr i Crawford am ychwanegu cannoedd o safleoedd a henebion i’r
mapiau OS rydym yn eu defnyddio ac yn eu gwerthfawrogi gymaint heddiw.
Diddordeb arall gan Crawford oedd ceisio sicrhau ‘gwell Byd’, lle roedd
rhesymeg gwyddonol yn trechu ofergoeliaeth a chrefydd ac i’r perwyl hyn bu’n
teithio’r Undeb Sofietaidd fel roedd Stalin wrthgwrs yn dechrau’r newidiadau
mawr yn y Byd amaethyddol yno.
Fel
nifer o’i gyfoedion mae awgrym fod Crawford wedi bod yn ddall i rai o
erchylltera amlwg Stalin ond yng nghyd destyn y cyfnod efallai fod pobl yn
gobeithio fod comiwnyddiaeth yn mynd i gynnig rhywbeth gwell na’r drefn
gyfalafol. Yn y bon roedd Crawford yn iawn o ran ei gymhellion ond doedd neb efallai yn rhagweld pam mor
eithafol yr oedd Stalin am fynd a hawdd yw i ni ei feirniadau am ei
ddiniweidrwydd heddiw drwy sbectol yr unfed ganrif ar hugain.
Ond
beth sydd wrth wraidd llyfr Hauser a holl ddamcanaiaethau Crawford yw
pwysigrwydd y tirwedd a’r angen i ni fel y boblogaeth i fagu a meithrin y
sgiliau i allu darllen a dehongli yr hyn sydd o dan ein traed. Sais oedd Crawford ac ardaloedd sialc De
Lloegr oedd ei gynefin, ond mae ei syniadau yn cyfieithu a mae modd eu
trosglwyddo yn uniongyrchol i’r hyn sydd
ei angen yng Nghymru heddiw. Rydym angen gwell dealltwriaeth o’r darn bach yma
o dir, y lle yma rydym yn perthyn iddo, yn brwydro dros ei Iaith a dadl
Crawford yn ei hanfod yw fod archaeoleg a dealltwriaeth o’r tirwedd yn rhywbeth
gwleidyddol, rhesymol, gwyddonol sydd yn ein harwain at well dinasyddiaeth a
mwy o barch at ein cyd-ddyn.
Wrth
reswm mae hyn yn ddweud mawr, ond o ystyried sylwadau Crawford mae rhywun yn
gweld pam mor bwysig a pherthnasol yw’r tir, y tirwedd a hanes a datblygiad y
tirwedd yna i ni fel Cymry. Dyma’r tirwedd a’r hanes sydd wedi ein creu !
Yn
ol Crawford mae gwyddoniaeth yn ein harwain tu hwnt i “genedlaetholdeb” yn
ogystal a chrefydd, a hyn oll wedi ei ysgrifennu yn y 1920au a’r 30au. Dyn
diddorol heb os a dyn lle gallwn fabwysiadau, dwyn neu addasu rhai o’i
syniadau.
No comments:
Post a Comment