Wednesday 21 November 2012

Hanes Canu Pop yn y Trefi Llechi Herald Gymraeg 21 Tachwedd 2012.


 

Yn rhyfedd iawn fe ddychwelais (dros dro) i’r Byd Pop Cymraeg yr wythnos dwetha, ond nid yn y ffordd fydda pawb yn ei ddisgwyl efallai, ond  drwy roi darlith i Gymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen ar “Ganu Pop yn y Trefi Llechi”. Gwahoddiad gan Dr Dafydd Roberts o’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis oedd hwn yn dilyn sgwrs rhyngthom yn gynharach eleni yn yr Amgueddfa.

                Roedd y syniad yna yn fras yn barod gan i mi gyd-weithio a BBC Radio Cymru/C2 ym Mangor rhyw ddwy flynedd yn ol ar gyfres radio yn olrain hanes Canu Pop Cymraeg mewn gwahanol drefi yng Nghymru ac wedyn yn ceisio gofyn y cwestiwn – beth oedd dylanwad y lle ar y gerddoriaeth neu’r artistiaid ? Yn ystod y gyfres bu’r cynhyrchydd Gareth Iwan a minnau yn teithio i lefydd fel Llanrwst i drafod grwpiau fel y Cyrff ac Aberteifi i drafod grwpiau fel Ail Symudiad a Datblygu ond dwi’n credu i ni deimlo fod rhywbeth ychwanegol yn mynd ymlaen yn y trefi chwarelyddol.

                Un o’r termau oedd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y gyfres radio i ddisgrifio rhai o’r trefi oedd “ol-ddiwydiannol”, y syniad yma fod y chwareli wedi cau, does dim gwaith, beth arall yda ni yn mynd i’w wneud ond ffurffio grwpiau roc Cymraeg ? Ond, wrth i ni drafod hyn ym Methesda roedd Dafydd Roberts yn berffaith iawn i ofyn y cwestiwn i ba raddau mae Bethesda yn dref ol-ddiwydiannol, os o gwbl, gan fod Chwarel Penrhyn dal mewn bodolaeth ac yn dal i gyflogi. Cwestiwn da.

                Fe gyfeirias yn fy narlith at lyfr Simon Reynolds, ‘Rip it up and Start Again’, astudiaeth o gerddoriaeth ol—pync rhwng 1979 ac 1983 a mae Reynolds yn gwneud yn fawr o ddylanwad y lle ar y gerddoriaeth. Mae ganddo bennod gyfan ar Sheffield er engraifft, y dref dur, a pob grwp yn arbrofi hefo synnau electronig, synnau y dyfodol, synnau diwydiannol. Dadl Reynolds wrthgwrs yw mae dim ond Sheffield fydda’n gallu cynyrchu grwpiau pop fel Cabaret Voltaire neu’r Human League. Fy niddordeb i wedyn oedd trawsblannu damcaniaethau Reynolds i’r cyd-destyn Cymreig a Chymraeg.
 

                 Roedd yn hollol amlwg i Gareth Iwan a minnau wrth recordio y gyfres radio mae dim ond Bethesda fel lle fydda wedi creu Maffia Mr Huws a dim ond Blaenau Ffestiniog fydda wedi creu Anweledig, dau grwp hollol wahannol o ddwy dref chwarelyddool hollol wahannol. Wrth sgrwsio a Gai Toms o Anweledig roedd yn amlwg fod dylanwad Maffia arnynt, nid yn gerddorol ond yn yr ystyr fod band fel Maffia wedi gallu ffurfio mewn tref ol-ddiwydiannol (efallai / o bosib / neu ddim). Mae Anweledig ddipyn fengach na Maffia Mr Huws ac o genhedlaeth wahannol o ran Hanes Canu Pop Cymraeg.

                Ond mewn ffordd roedd hwn yn engraifft da iawn, defnyddiol iawn a pherthnasol iawn achos roeddwn eisiau trafod ‘effaith a dylanwad’ fel rhan o fy narlith, hynny yw beth sydd yn symud pethau ymlaen yn ddiwyllainnol ac yn greadigol, beth yw’r dylanwad, beth yw’r gwers lyfr ar gyfer y genhedlaeth nesa ?

                Wrth fentro yn ol i’r Byd Pop roedd yn amhosib peidio herio ychydig, a rhoddias y gosodiad canlynol ger bron y gynulleidfa :

“Nid gor-ddweud yw y byddai’r Sin Roc Gymraeg fel da ni yn ei adnabod heddiw wedi diflannu erbyn canol yr 80au heblaw am Maffia Mr Huws”.

Cyn esbonio mwy iddynt, awgrymais fod rhain yn eiriau doeth iawn, cyn esbonio mae y fi oedd yr awdur a fod y geiriau yma yn ymddangos ar glawr y CD o gasgliad o holl ganeuon Maffia Mr Huws. Do fe lwyddias i gael ambell un i chwerthin. Cynulleidfa gymysg oedd gennym, selogion y Gymdeithas Hanes ac efallai un neu ddau oedd wedi dod yn benodol i wrando ar ddarlith am Ganu Pop Cymraeg – doedd dim llawer o rheini er fod un gwr amlwg, Toni Schiavone wedi dod yr holl ffordd o Bandy Tudur.
 

Pwynt y dyfyniad a’r datganiad yna oedd fod y rhan fwyaf o “ser” y Byd Pop Cymraeg wedi arall gyfeirio ym 1982, nawr roedd y cantorion am fod yn gyfarwyddwyr ffilm ac am neidio ar y tren-grefi “S4C” a Maffia oedd bron yr unig rai ar ol yn canu hyd a lled Cymru (a Dafydd Iwan wrthgwrs). Heb os, fydda fy nghenhedlaeth i ddim wedi gallu gweithio yn y Byd Pop Cymraeg onibai am fodolaeth Maffia, er yn eironig ein gwaith ni mewn ffordd oedd di-sodli Maffia a chroesawu y cyfnod Tanddaearol, y cyfnod o herio’r hen drefn a dechrau’r broses a ddatblygodd yn y diwedd i fod yn Cwl Cymru hefo Super Furry’s a Catatonia ar Top of the Pops.

Fel Dafydd Roberts fe gyfrannod Schiavone i’r sgwrs gan awgrymu fod angen i Hanes Canu Pop Cymraeg gael ei ddyledus barch, fel pwnc o ddifri, mae yr hyn oedd dan sylw ganddym ar y noson yma yn rhan o Hanes Cymru a Hanes Diwylliant Cymraeg – cytuno yn llwyr. Unwaith eto beth sydd yn braf am y broses yma yw fod hyn yn digwydd bellach yn naturiuol yn ein broydd a’n cymunedau. Rwyf newydd wneud dau ddosbarth Hanes Canu Pop Cymraeg hefo ieuenctyd Bethesda ac yn Ysgol y Creuddyn. Y sefydliadau a’r Brifysgol a’r Colegau sydd ar ei hol hi – fel arfer !
 

 

               

3 comments:

  1. Rhys, oes recordiad o dy ddarlith?

    Gyda llaw wyt ti wedi darllen Retromania gan Simon Reynolds? Mae cofnod blog ar Y Twll amdano fe.

    ReplyDelete
  2. Diddorol iawn - wrthi'n sgwennu traethawd MA ar gerddoriaeth Gymraeg ddiweddar yn digwydd bod!
    O lle ddaw'r cartwn ar y diwedd?

    ReplyDelete