Wednesday 14 November 2012

Archaeoleg yn Gymraeg Herald Gymraeg 7 Tachwedd 2012



Rhyfedd weithiau sut mae rhywun yn llwyddo i sgwennu rhywbeth hollol anaddas neu ansensitif a hynny heb wneud yn fwriadol. Yn fy ngholofn wythnos dwetha (31 Hydref) roeddwn yn trio cyfleu’r syniad fod gennym yma yng Ngogledd Cymru orielau a sefydliadau celf sydd yn gallu dal eu tir ochr yn ochr a’r orielau welir dyweder yn Efrog Newydd. Fe allwn, yr un mor hawdd, fod wedi son am orielau ym Manceinion, Lerpwl neu Gateshead fel cymhariaeth, y bwriad oedd cyflwyno’r syniad fod angen mwy o falchder, fod angen canu’r clychau, fod angen canmol yr orielau Cymreig fel Oriel Ynys Mon a Mostyn.

                Wrth sgwennu doedd gennyf ddim syniad am y storm oedd ar fin chwythu fel melltith dros afordir dwyreiniol yr Unol Daliaethau a rhywsut wrth ddarllen yr Herald yr wythnos dwetha dyma deimlo fod “amseriad” yr erthygl yn anffodus, ond fel dywedais nid yn fwriadol. Y broblem wrthgwrs wrth sgwennu yw fod angen herio weithiau i wneud pwynt, dyna hanner y rheswm dros sgwennu, yr hanner arall mae’n debyg yw i ddiddanu a dyma ni yr wythnos hon angen herio ychydig ar y Byd Archaeolegol.

                Dydi Archaeoleg a’r Gymraeg ddim yn cael eu cysylltu mor aml a hynny. O ystyried y Cyfryngau Cymraeg, waeth i ni ddweud nad ydynt wedi “darganfod” archaeoleg eto ac un o’r pethau rwyf yn ei ddweud bellach yn wythnosol os nad pob yn ail ddiwrnod yw fod archaeoleg Cymreig mewn gwirionedd yn ddim mwy na Hanes Cymru heb yr hanes ysgrifenedig. Felly dyma ni, Prifysgol Bangor ar y cyd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn trefnu Ysgol Undydd ‘Trafod Archaeoleg yn Gymraeg’, unwaith eto mae’r amseru yn amserol – rhaid mynychu.

                Rwyf yn cael gwahoddiad i gadeirio un o’r sesiynau trafod, ar y cyd a Ken Brassil a Nancy Edwards. Cafodd Ken sylw yn y golofn wythnos dwetha a mae Nancy Edwards o Brifysgol Bangor newydd fod yn gwenud gwaith cloddio arloesol a hynod bwysig ar Biler Eliseg ger Llangollen. Wrth i mi gyrraedd ben bore yn Neuadd Reichel ar Ffordd Ffriddoedd rhyfedd oedd gweld cymaint o gyd-gloddwyr a’r joc wrthgwrs oedd mae doeddwn yn eu hadnabod yn eu dillad glan a pharchus, fel arfer rydym yn cloddio yn y baw mewn tywydd drwg.

                Y siaradwr cyntaf oedd John Roberts, archaeolegydd  Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn son am y gwaith cloddio diweddar yn Ty’n y Mwd, Abergwyngregyn. Wedi dysgu’r Gymraeg mae John, a dyma’r ail-waith i mi wrando arno yn siarad yn gyhoeddus eleni. Rwyf yn ei edmygu yn fawr, mae ei Gymraeg yn dda ac yn ddealladwy ond yn amlwg mae John yn ymdrechu yn galed. Dyma chi engraifft gwych o sut mae’r rhaid i ni fel Cymry Cymraeg roi croeso i ddysgwyr, rhaid dangos parch a chefnogaeth ond yn bwysicach byth rhaid dangos ychydig o amynedd, amynedd iddynt cael baglu weithiau ac anghofio weithiau heb i ni dynny trwyn a chywiro.

                Yn anfwriadol efallai, ond roedd John yn gyfrifol am yr hyn fyddwn yn ei ddisgrifio fel “joc y diwrnod”. Efallai fod rhai ohonnoch yn ymwybodol fod peth trafodath hanesyddol ynglyn ac union safle Llys Llywelyn yn Abergwyngregyn a fod yr hen dy Pen y Bryn wedi cael ei grybwyll ond yn sicr o ran gwaith cloddio Neil Johnstone yn y 90au a’r gwaith mwy diweddar yn Aber mae’r archaeolegwyr yn weddol gytun ac yn eitha sicr, mor sicr a fedrith rhywun fod yn y maes Archaeolegol, fod safle’r Llys ym muarth yr hen gastell mwnt a beili yn Ty’n y Mwd.

                Bu i Huw Edwards ar “The Story of Wales” gyhoeddi mae ym Mhen y Bryn oedd Llys Llywelyn a hyn mae’n debyg oedd wedi cythruddo’r mwyafrif ohonnom yn yr Ysgol Undydd, sef fod y teledu yn cyflwyno rhywbeth fel “ffaith” lle yn sicr mae yna amheuaeth. Bu i mi drydar Huw Edwards gan ei herio am hyn a’r tebygrwydd yw fod twr Pen y Bryn yn edrych yn well ar y teledu na cae hefo dim olion ar y wyneb !

                Y piti mawr am y ddadl hon yw fod drwg deimlad wedi ei greu yn hanesyddol a fod “pawb” neu gormod o bobl ofn trafod y peth yn gyhoeddus. Neu efallai ei bod yn amhosib cael trafodaeth call ? Duw a wyr. Rwyf wedi hen arfer hefo pethau “dadleuol” o fy nghyfnod yn y Byd Pop Cymraeg, dydi’r pethau yma ddim yn fy mhoeni o gwbl. Yn wir rwyf wedi dechrau profi pam mor finiog mae rhai tafodau archaeolegol yn gallu bod yn enwedig os yw rhywun yn cynnig ffyrdd newydd o edrych ar bethau. Ta waeth cafwyd digon o hwyl a gonestrwydd a thynnu coes am Abergwyngregyn.

                A dweud y gwir roedd papurau Ffion Reynolds ar Tinkinswood a Llwyneliddon, David Gwyn ar allforio llechi Gogledd Cymru, John Hines ar Archaeoleg y Brifddinas a phapur hynod ddiddorol John Llywelyn Williams ar lestri pridd cyn-hanesyddolyn yr Ynysoedd Aeolaidd oll yn bapurau gallwn fod wedi rhoi sylw unigol iddynt yn y golofn hon.

                Yr hyn oedd yn amlwg o’r dechrau oedd fod pob copa walltog yn yr Ysgol Undydd yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod Archaeoleg yn y Gymraeg. Papur Jon Llywelyn oedd y lleiaf Cymreig o ran cynnwys ond eto gwnaeth John y pwynt fod angen gallu trafod archaeoleg rhyngwaldol yn y Gymraeg er i John Hines awgrymu efallai fod angen cyfyngu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i faterion neu astudiaethau archaeolegol Cymreig.

                Diolch mawr i Nancy Edwards ac Mari Elin William o Brifysgol Bangor am ddod a phawb at ei gilydd. Mewn ffordd roedd hwn yn ddiwrnod hanesyddol a mae teimlad cyffredinol (sydd angen ei gadarnhau yn fwy swyddogol efallai) o blith y mynychwyr fod cyfle yma i sefydlu Cymdeithas Archaeoleg Gymraeg.

No comments:

Post a Comment