Saturday 1 December 2012

Castell Dinefwr Herald Gymraeg 28 Tachwedd 2012




 
Mae yna dueddiad yndoes, a dwi’n siwr fy mod i yn euog o hyn, o son o hyd am Dywysogion Gwynedd fel Tywysogion Cymru a chanolbwyntio ar yr amlwg Llywelyn ap Iorwerth a Llywelyn ap Gruffydd. Hyd yn oed os am fentro at y tywysogion llai cyfarwydd efallai bod rhywun yn aros yn ei gynefin a son am Gruffydd ap Cynan neu Owain Gwynedd felly pleser mawr dros y Sul oedd cael ymweld a chartref yr Arglwydd Rhys a thywysogion Deheubarth yn Ne-orllewin Cymru.

                Saif Castell Dinefwr ar graig yn edrych dros Ddyffryn Tywi, rhyw filltir efallai tu allan i dref Llandeilo. Yn ol yr hanes roedd gan yr Arglwydd Rhys gastell yma erbyn 1163 a fod hynny yn ystod cyfnod o sefydlogrwydd gwleidyddol. Bydd nifer ohonnom yn cysylltu’r Arglwydd Rhyd a chyfnod o adfywiad yn y celfyddydau a diwylliant Cymraeg a Chymreig yn ogystal a chyfraith a threfn. Daeth y sefydlogrwydd yma i ben yn Neheubarth gyda marwolaeth Rhys a mae hanes wedyn am ei feibion yn cweryla a hyd yn oed Llywelyn Fawr yn rhoi gorchymyn i Rhys Grug (mab i’r Arglwydd Rhys) i ddymchwel y castell wrth i Llywelyn gryfhau ei ddylanwad a’i rym yn y rhan yma o Gymru ar ddechrau’r  G13eg.

                Wrth gerdded at fynedfa ddwyreiniol Castell Dinefwr gyda’r ffos anferth ar ochr y bryn, mae rhywun yn dychmygu castell mwnt a beili yma yn wreiddiol, sef tomen o bridd gyda twr pren ar y copa, yn y dull Normanaidd. Pwy a wyr faint o olion adeiladwaith yr Arglwydd Rhys sydd wedi goroesi o dan y ddaear ond mae’r waliau cerrig rydym yn eu gweld heddiw yn perthyn i’r G13eg a’r twr crwn, y gorthwr,  yn sicr yn nodweddiadaol o’r hanner cyntaf y G13eg.

                Twr crwn William Marshall yng Nghastell Penfro sydd yn gosod y safon a’r “ffasiwn” a mae awgrym fod twr Castell Dolbadarn er engraifft yn dangos faint oedd dylanwad  William Marshall ar Llywelyn Fawr. Yr hyn sydd yn gwneud y gorthwr crwn yng nghastell Dinefwr yn unigriw ac yn anarferol yw fod ystafell-haf wedi ei ychwanegu ar y to gan deulu Dinefwr yn ystod y ddeunawddfed Ganrif. Ar yr olwg gyntaf mae’r adeiladwaith ddigon tebyg i’r adeiladwaith Canol Oesol ond o edrych i fewn i’r “ystafell” mae rhywun yn gweld y llefydd tan “modern”. Yn y Saesneg rydym yn galw adeiladwaith o’r fath yn “folly”, hynny yw, ffug Ganol Oesol yn yr achos yma.

                Mae yna ffenestri mawr a drws i’r ystafell-haf, dyma le braf iawn gyda golygfa i bob cyfeiriad i deulu Dinefwr fwynhau te a theisen ar bnawn hyfryd o Haf. Rhaid dweud, mae’r golygfeydd yn ol dros Dy Newton a’r goedwig a’r parc  a’r ochr arall i gyfeiriad Dyffryn Tywi a Chastell Dryslwyn yn fendigedig. Mae Afon Tywi fel neidr dew yn gorwedd yn llonydd yn y dyffryn. Mae’r llawr wedi hen ddiflanu i’r ystafell-haf felly dim ond edrych i mewn fedra ni wneud heddiw.

                Edward 1, fel yng Ngwynedd, sydd yn dod a pethau i ben o ran perchnogaeth Cymreig a’r Tywysogion er fod hanes Castell Dinefwr yn parhau hyd at gyfnod Owain Glyndwr cyn i’r safle droi yn adfail-rhamantus erbyn y ddeunawddfed Ganrif.  Syndod arall oedd pam mor fach oedd buarth mewnol y Castell er fod rhywun yn dychmygu castell anferth o edrych draw am Dinefwr yn uchel ar ben y graig o Ddyfryn Tywi.

Wrth gerdded am y Castell cadwais olwg am y gwartheg gwynion, roedd un neu ddau i’w gweld yn y pellter ac yn ol y son mae’r gwartheg gwynion yma ers dros fil o flynyddoedd. Mae’r gair “sirloin” yn cael ei gysylltu a’r gwartheg ond roedd y gwartheg rhy bell i ffwrd i mi gael llun a roedd hi’n amser am banad ganol pnawn.

 

 Bellach wrthgwrs mae Parc Dinefwr dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd pobl yn cerdded o gwmpas hefo’u cwn, eraill yn jogio, doedd fawr yno i astudio’r Castell yn sicr ond roedd y parc yn amlwg yn atyniad lleol, yn le i fynd am dro ar y Sul ac yn amlwg yn adnodd pwysig i bobl Llandeilo.

Felly dyma gyrraedd yr  “Ystafell De” a chael bechdan caws a phinafal wedi ei dostio a pot o de. Roedd y staff yn groesawgar tu hwnt ond braidd yn denau oedd y Gymraeg yma am ryw reswm er doedd dim angen i mi droi at y Saesneg, roedd pawb i weld yn dallt. Y dyddiau yma rwyf yn tueddu i ddefnyddio llawer llai o’r Saesneg yn gyhoeddus, mae modd archebu, talu a diolch yn Gymraeg hyd yn oed gyda’r di-Gymraeg – synnwyr cyffredin yw hanner y peth.

Roeddwn bellach oddifewn i Dy Newton, ty a adeiladwyd oddeutu 1660 gan Edward Rice er fod son am dy Tuduraidd blaenorol  yma yn dyddio o gyfnod Syr Rhys ap Thomas, digon o waith fod adeiladwaith Rhys ap Thomas wedi goroesi. Diddorol oedd clywed hanes ymweliad Capability Brown a Dinefwr. Talwyd swm o £900 iddo fel “ymgynghorydd” ar y tirwedd a’r gerddi ac un canlyniad oedd fod y ffordd o’r ffarm ar gyfer nwyddau wedi ei guddio o olwg Arglwydd Dinefwr yn y ty drwy ei suddo yn y tirwedd.

Ar fy ffordd adre o Lanelli oeddwn i ar y diwrnod yma a rhaid canmol Dinefwr i’r cymylau, roedd popeth am y lle yn braf, hamddenol, diddorol, hawdd parcio, y bwyd yn dda ac yn sydun a’r hanes, y cysylltiad ag Argwydd Rhys a’r castell hynod drawiadol cystal ac unrhyw gastell arall yng Nghymru. Ewch am dro neu yn sicr galwch heibio os yn teithio heibio Llandeilo.

No comments:

Post a Comment