Wednesday 11 December 2019

Gigs Geraint Jarman, Herald Gymraeg 11 Rhagfyr 2019


Theatr Clwyd

Mae 40 mlynedd ers i’r Clash rhyddhau eu trydedd LP ‘London’s Calling’. Rhyddhawyd yr albym ar y 14eg Rhagfyr 1979. Roedd yr holl beth ‘Punk’ cychwynol wedi gwybio heibio a chwythu ei lwyth ac efallai mai’r Clash fwy na neb (ac eithro’r Slits) oedd yn symud yr agenda a’r gerddoriaeth yn ei flaen – yn sicr o ran y grwpiau oedd yna yn 1976 / 1977.

Fel un o’r recordiau mwyaf dylanwadaol ac uchel ei barch erioed, mae gan pawb ei farn am ‘London’s Calling’. Bydd gan bawb eu hoff gân neu hoff ganeuon. Pawb ei hoff neges neu lyric. Pawb ei hoff ‘riff’ neu ‘intro’. Gall y rhan fwyaf hefyd gytuno fod y record dal i swnio yn ffres iawn. Dyma record ryfeddol ym mhob ystyr – ac un sydd yn dal yn swnio yn gyfoes.

Ond mae yna ffactor arall pwysig wrth geisio dadansoddi ‘London’s Calling’. Er cystal y caneuon, er cystal y cynhyrchu, er cystal y basslines gan Paul Simenon ac er cystal cyfraniad Strummer a Jones – a hynny yw y drymio. Os gwrandewch yn ofalus ar y record mae drymio Topper Headon yn symud popeth yn ei flaen, yn rhoi’r pwyslais angenrheidiol, yn cadw popeth yn ei le ac ar yr amser iawn.

Byddwn yn dadlau fod modd gwrando ar y drymiau yn unig wrth wrando ar ‘London’s Calling’ ac y byddai hunna yn brofiad gwerth chweil ac un boddhaol dros ben. Y drymiau sydd yn gwneud y record yna yn glasur – ac wrth reswm heb y caneuon fydda hunna ddim yn bosib.Ond gwrandewch ar ddrymio Topper.

Bore Sul fel yr arfer, mae Cerys ymlaen ar BBC 6 Music a da ni fel teulu fel miloedd ar filoedd eraill dros y wlad yn coginio ein brecwast i gyfeiliant dewisiadau cerddorol Miss Matthews. Topper oedd ei gwestai fore Sul. 40 mlynedd ers yr albym dyma gyfle Topper i hel atgofion. Nid edrych yn ôl ar y ‘dyddiau da’ wnaeth Topper ond yn ei ffordd ddi-ymhongar ei hyn fe lwyddodd i gydnabod fod y record dal yn swnio’n dda.

Holodd os oedd modd cael clywed ‘Tha Card Cheat’ a chyflwyno’r gân i’w gariad. Dyma radio ar ei ora. Cerys yn ein tywys. Topper yn gofyn am gais i’w gariad. Ar fore Sul, dyma be di bendigedig.

Record arall ddylanwadol tu hwnt yw ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman. 1979 oedd blwyddyn rhyddhau y record hir yna hefyd. Hyd at heddiw mae’r prif gân ‘Gwesty Cymru’ yn swnio yn gyfuniad o’r perthnasol a’r hanfodol. Efallai fod y gân yn deillio o’r blynyddoedd ol-Punk a fod y dylanwad punk-reggae i’w glywed ond go brin gall unrhyw un ddi-ystyru’r gân ar sail ei fod wedi ‘dyddio’.

Dros y penwythnos roedd Jarman yn perfformio ddwywaith yng ngogledd Cymru. Theatr Clwyd oedd hi nos Wener a Cell B, Blaenau Ffestiniog ar nos Sadwrn. Er fod Jarman wedi chwarae mwy neu lai yr un set, roedd y ddau gig yn eitha gwahanol o ran naws y canolfannau a’r gynulleidfa.

Nos Wener dwetha dyma benderfynu ar ‘road-trip’ bach draw i’r Wyddgrug. Roedd peth amser ers i ni fod yn Theatr Clwyd a felly rhan o’r apel oedd cael gweld Jarman mewn canofan wahanol. A55. Awr a chwarter o Gaernarfon. Stop yn y garej 24awr ar y gylchfan am Caerwys / Chwitffordd.

Cell B

Nos Sadwrn roedd Jarman yn Cell B, Blaenau Ffestiniog, a gan ein bod wedi mwynhau’r gig gymaint yn Theatr Clwyd dyma benderfynu mynd draw. Er cymaint dwi’n hoffi cyfeirio at Gaernarfon fel ‘Gweriniaeth Cofiland’ rhaid cyfaddef mai ‘pobl ddwad’ fel fi sydd yn mynychu gigs yng Nghaernarfon. Pur anaml mae’r Cofis go iawn yn mynychu gigs – ta beth yw iaith yr artistiaid. Dwi ddim cweit yn dallt. Ond dwi’n cyfaddef mai’r dosbarth diwylliedig Cymraeg yw’r bobl fydda fwya tebygol o fynd i weld Jarman yng Nghaernarfon.

Efallai fod Blaenau Ffestiniog yn fwy o ‘weriniaeth’. Pobl leol oedd yn y gig yn Cell B – nid yr arferol ‘teips’ Cymraeg. Roedd rhywbeth braf yn hyn. Ar y cyfan cynulleidfa yn barod am eu reggae oedd criw Blaenau. Fe ath ‘Reggae Reggae’ a ‘Rocyrs’ lawr cystal ac unrhywbeth. Fe aeth ‘Hiraeth am Kylie’ lawr yn dda hefyd fel gwnaeth ‘Ethiopia Newydd’.

Fy argraff o’r gig yn Blaenau oedd mai fel hyn ddylia hi fod – canolfan wedi ei wreiddio yn y gymuned. Pawb yn siarad Cymraeg. Ond wedyn dyma ddau bwynt yn codi yn syth. Pam nad yw dilynwyr reggae gogledd Cymru sydd efallai ddim yn siarad Cymraeg ddim yn mentro draw i weld artist mor dda a Jarman? Yn ail – pam fod cyn llied o’r ‘teips diwyllianol’ yn fodlon teithio i rhywle gwahanol i weld gig?

Er fod y ddau gig yn barchus llawn fe ddylia nhw fod wedi gwerthu allan. Doedd yr un ganolfan yn ofod mawr. Fe ddylia dilwynwyr reggae – ar ôl 40 mlynedd a mwy o Jarman fod yn gallu mentro draw i ‘gig Cymraeg’. Os di cerddoriaeth yn Iaith Ryngwladol – does dim esgusion go iawn.

Rhaid mi ddweud fod gweld Jarman ddwywaith mewn penwythnos wedi gwneud synnwyr perffaith. Ar ôl Theatr Clwyd doedd fawr o ddewis a dweud y gwir. Be oedda’ni fod i wneud? Aros adre? Fel dwi’n dweud yn aml ar y sioe radio ar nos Lun ‘does dim byd ar y teli’.

No comments:

Post a Comment