Dyma ni bythefnos cyn yr Etholiad Cyffredinol. Oherwydd fy
ngwaith hefo’r BBC, yn cyflwyno’r sioe nos Lun, rwyf wedi cael cyfarwyddyd i gadw
draw o’r maes gwleidyddol tan fod yr etholiad drosodd (yn yr ystyr datgan barn
cyhoeddus). A wyddoch chi beth, mae hyn fel cael gwyliau ger Fôr y Canoldir ar
rhyw ynys fechan i ffwrdd o sŵn y byd. Yr ail beth da am hyn yw fy mod yn cael
canolbwyntio ar fy ddau hoff beth: archaeoleg a cherddoriaeth.
Cerddoriaeth roddodd y rheswm i fyw i mi wrth gyrraedd fy
arddegau, cerddoriaeth hefyd roddodd gyfarwyddiadau gwleidyddol i mi o ystyried
fy mod yn gwrando ar grwpiau fel Jarman, y Slits a Steel Pulse. Drwy gydol fy
arddegau roedd fy mryd ar fod yn archaeolegydd. Dros y blynyddoedd mae’r ddau
lwybr wedi bod yno – weithiau yn cyd-redeg, weithiau yn dechrau diflanu o dan
dyfiant. Ond mae archaeoleg a cherddoriaeth dal hefo fi – yn fwy felly nac
erioed wrth edrych ymlaen at 2020.
Byddaf yn datgan yn aml ar nos Lun wrth ddarelledu yn fyw o
BBC Bangor faint rwyf yn gwerthfawrogi’r cyfle i baratoi tair awr o gerddoriaeth
ar gyfer y gwrandawyr. Mae’r gwaith hefyd wedi ail-gynna’r tân i fynd allan i weld
grwpiau ac artistiaid yn canu yn fyw. Yn aml iawn byddaf yn mynd i weld gigs
mae Owen Cob yn drefnu, cerddoriaeth ‘roots’ / gwlad / Byd ran amla. Bydd CD ar
gael ar ddiwedd y noson – bydd traciau newydd i chwarae ar y radio.
Wythnos yn ôl fe es draw i’r Fic ym Mhorthaethwy i weld
canwr o Appalachia o’r enw Riley Baugus. Pwysleisiodd Riley ar ddechrau’r sioe
mai o Appalachia oedd o yn dwad a NID yr Appalachians. Rhwng pob cân roedd gan
Riley storiau difyr oedd yn rhoi cefndir a chyd-destun i’r caneuon. Wrth drafod
hefo fo wedyn soniais fel roedd ei storiau yn creu darlun yn ein meddyliau –
ond Duw a ŵyr os oedd y darlun yn un cywir. Chwerthodd Riley, mewn
gwerthfawrogiad.
Cerddoriaeth ‘traddodiadol’ ar y banjo. Banjo roedd wedi ei
adeiladu ei hyn. Mynnodd nad oedd angen unrhyw effaith nac atsain ar ei lais
drwy’r sustem sain – yn enwedig felly gyda unrhyw ganeuon di-gyfeiliant.
Traddodiadol - ond yn fyw, yn berthnasol ac yn gyfoes. Dwi’n dal i synnu na fyddwn
yn gweld mwy o gerddorion Cymraeg / Cymreig yn y gigs yma.
Os di rhywun yn gweithio yn y maes ‘traddodiadol’ / gwerin
mae’n gwneud synnwyr gweld a dysgu o artistiaid arall. Mae’n gwenud synnwyr
cysylltu a gweddill y Byd. Dyma un bregeth diweddar. Dwi ddim am bregethu
gormod. Jest gwneud y pwynt. Doeddwn ddim yn adnabod llawer yn y gynulleidfa. Canran
isel o Gymry Cymraeg? Dwn’im.
Ta waeth roedd Riley Baugus yn fendigedig, cefais gopi o’r
CD a rwyf yn siwr o chwarae traciau ganddo cyn bo hir ar y sioe nos Lun.
Y dydiau gorau yw’r rhai allan yn y maes yn gwneud gwaith
archaeoleg. Does dim all guro awyr iawch Cymru. Hyd yn oed yn y gwynt a’r glaw
mae rhywun yn mwynhau. A dyma alwad gan fy hen ffrind a chyd-weithwraig o’r
dyddiau cloddio ym Meillionydd, Llŷn. Carol bellach hefo Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd.
Roedd Carol yn holi os oeddwn ar gael am wythnos i gynnal
archwiliad o’r Ffatri Fwyeill Neolithig ger Llanfairfechan. Sut gallwn wrthod.
Digwydd bod dwi newydd orffen sgewnnu llyfr a thra mae’r golygydd yn edrych
dros fy ymdrechion – dwi’n weddol rhydd.
Tyllu beth sydd yn cael eu galw yn ‘test pits’ neu dyllau
profi oedd y gwaith. Y bwriad oedd asesu beth oedd y potensial archaeolegol ar
y llethrau uwchben Llanfairfechan. Pum mil o flynyddoedd roedd y garreg leol
(carreg Graiglwyd) yn addas ar gyfer creu bwyeill. Y cyfnod oedd y Neolithig
4000CC – 2000CC. Rhain oedd yr amaethwyr cyntaf.
Ar ôl deuddydd o gloddio daeth yn amlwg fod angen diwrnod a
hanner i gloddio a recordio pob twll – hyd yn oed hefo dau ohonnom yn gweithio
gyda’n gilydd. Gyda nifer fawr o wirfoddolwyr yn dod i gloddio am y tro cyntaf
rtoedd cryn amser yn mynd ar eu cynorthwyo a chyfarwyddo. Gwaith pwysig – a gwaith
pleserus.
Yr hyn roeddem yn eu canfod oedd darnau carreg oedd wedi
torri (flakes) er mwyn creu bwyeill. Yn ystod y Neolithig y drefn oedd cael hyd
i garreg addas a wedyn gwenud fwyell fras (roughout) ar y safle cyn mynd a’r garreg
fras lawr at y cartref / fferm i’w chwblhau a pholisio yn llyfn.
Bwriad y prosiect, ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd, Cadw a Pharc Cenedlethol Eryri yw gweld os oes modd
datblygu hyn i fod yn brosiect ehangach flwyddyn nesa. Felly ein gwaith ni oedd
asesu’r potensial archaeoleg. Cyda pob twll yn cynhurchu naddion gwastraff creu
bwyeill roedd yn weddol amlwn fod gwaith ar raddfa enang iawn wedi digwydd yma
pum mil o flynyddoedd yn ôl.
Gwibiodd yr wyth diwrnod o gloddio heibio ddigon sydun. Mwynhais
pob eiliad. Fel dwedais – dyma’r dyddiau gora – allan mewn cae yn cloddio. Roedd
un o fy nghyfeillion archaeolegol pennaf, ‘Beaver’ ym methu bod yno – dyna oedd
yr unig biti am y cloddio.
Yn ystod yr wythnos cloddio cefais weld Natacha Atlas a
Riley Baugus yn fyw a chymerais rhan hefo’r darllediaid o ffilm y Manic Street
Preachers ym Mangor. Roedd y llwybrau yn cyd-redeg yn braf.
No comments:
Post a Comment