Thursday 19 December 2019

Cloddio Haf 2019, Llafar Gwlad 146





Heb os, mae hi wedi bod yn haf prysur o ran archaeoleg yng ngogledd Cymru, a mae hynny diolch i waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Fe soniais am y gwaith cloddio ym marics Pen y Bryn yn chwarel Dorothea yn Llafar Gwlad 145.

Un o’r pethau diddorol ddaeth i’r amlwg o’r gwaith cloddio hwnnw oedd y defnydd o lytheren I fawr gyda llinell drywddi i ddynodi’r llythyren J. Canfuwyd sawn engraifft o ‘graffiti’ lle roedd rhwyun wedi cerfio enwau ar y graig naturiol ger y barics. Gan ddyddio i ddiwedd y 19ef ganrif cafwyd amrywiaeth o J arferol a’r I fawr gyda llinell i gyfleu J.

Wrth i’r archaeolegwyr bendroni beth oedd ‘dirgelwch’ neu arwyddocad yr I fawr gyda llinell, cofiais am stori o fewn ein teulu ni am fy hen ewythr John Richard Thomas. Chwarelwr oedd John Richard yn Chwarel Cilgwyn. Roedd yn frawd i fy nhaid, un arall o chwarelwyr y Cilgwyn. Gan fod nam ar goes John Richards, gweithio yn glanhau’r siediau oedd o yn hytrach nac ar wyneb y graig.

Rhywsut neu’i gilydd bu i’w garreg fedd gael ei gadael ar ôl yn y cartref teuluol a dyma sut y bu i mi fod yn gyfarwydd a’r I ar gyfer J. Darllenai’r garreg IRT – hefo llinell drwy’r I. Ond, gan mai carreg fedd John Richard Thomas yw hi, gallais awgrymu yn ystod y gwaith cloddio ym Mhen y Bryn fy mod yn weddol sicr beth oedd hanes y llythyren.

Ers hyn (mis Awst) mae David Hopewell o’r Ymddiriedolaeth a finnau wedi dod o hyd i engreifftiau di-ri o gerrig wedi eu naddu gyda’r I fawr gyda llinell. Ceir engreifftiau yn Nyffryn Ogwen felly roedd modd awgrymu nad rhyw draddodiad yn perthyn i Ddyffryn Nantlle yw hyn. Ychydig yn ddiweddarach wrth hel mwyar duon yn y Groeslon dyma weld postyn giat ger hen eglwys Sant Thomas gyda’r union symbol.

Rydym a diddordeb clywed am engreifftiau eraill a byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth – ebostiwch rhysmwyn@hotmail.co.uk.



Newid cyfnod oedd hi go iawn wedyn wrth adael Pen y Bryn a dechrau cloddio ar fryngaer arfordirol Dinas Dinlle, ychydig i’r gorllewin o Gaernarfon. Gan fod darnau o’r gaer yn disgyn i’r môr oherwydd erydiad arfordirol penderfynwyd cynnal archwiliad o’r gaer. Dyma gyfle felly i gloddio o dan y pridd a gweld beth sydd wedi goroesi yno.

Er fod awgrym fod cytiau crynion ar y safle, dyma’r tro cyntaf i archaeolegwyr gael cloddio yma. Canfuwyd gwt crwn sylweddol ei faint ger ymyl y clogwyn. O fy mhrofiad yn cloddio ym Meillionydd ger Aberdaron lle cawn sawl cwt crwn o fewn safle cylchfur dwbl Oes Efydd Hwyr / Oes Haearn Cynnar, roedd gwneuthuriad cwt Dinas Dinlle yn llawer mwy sylweddol.
Mesurai’r cwt oddeutu 8medr ar draws. Roedd sylfaeni cerrig y cwt bron yn fedr ar draws. Wrth drafod arwyddocad hyn gyda’n cyd archaeolegwyr ar y safle, anodd oedd peidio tynnu coes mai cwt y pennaeth oedd hwn. Wrth reswm does dim modd o wybod pwy oedd yn byw yn y cwt crwn. Byddai nifer o gytiau eraill o fewn y gaer yn creu cymuned o drigolion.

Oes modd galw hyn yn bentref gaerog? Cwestiwn da! Roedd y trigolion wedi eu hamddiffyn gan gloddiau a ffosydd y gaer – mae hynny yn sicr. Beth bynnag y tynnu coes dros banad – roedd hwn yn adeilad sylweddol. Awgrymaf felly bydda hwn wedi bod yn gartref ddigon urddasol yn y cyfnod Celtaidd / Rhufeinig.

Rhywbeth arall pwysig ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod o gloddio yn Ninas Dinlle yw’r diddordeb cynyddol ymhlith Cymry Cymraeg yn y Byd Archaeoleg. Bellach mae Gerallt Pennant a chriw Heno S4C ac Aled Hughes, BBC Radio Cymru, yn rhoi sylw cyson i’r maes. Prin fod unrhyw gloddio yn digwydd heb gamerau Heno a meicroffon Radio Cymru yn ymddangos yn ystod y cyfnod gwaith.

Daeth dros 400 i’r diwrnod agored yn Ninas Dinlle. Bu pedwar ohnnom yn cynnal teithiau tywys ar ran yr Ymddiriedolaeth a bu’r pedwar ohonnom allan gyda pump grwp gwahanol yn ystod y dydd. Fy nghyfrifoldeb i oedd y teithiau tywys drwy gyfrwng y Gymraeg a roedd pob un yn orlawn.



Os nad oedd cael cloddio mewn chwarael lechi a bryngaer Geltaidd yn ddigon i fodloni enaid unrhyw Gymro / archaeolegydd dyma gyfle wedyn yn ystod mis Medi i archwilio rhan o’r pentref brodorol ar gyrion caer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon.

Saif hen safle Ysgol Pendalar ychydig i’r gogledd ddwyrain o’r ffordd Rufeinig a redai o’r gaer i gyfeiriad is-gaer Hen Walia yn agos at Afon Saint / Seiont. (Hyn yn ôl Mortimer Wheeler, 1924, Segontium and the Roman Occupation of Wales). Rhywbeth y dylid ei drafod mewn erthygl yn y dyfodol yw pwysigrwydd ei wraig, Tessa Wheeler.

Clywais son sawl tro mai Tessa oedd yn gwneud y gwaith archaeoleg ‘go iawn’. Sgwn’i os oes unrhyw sail i hyn? Ta waeth am hynny am y tro, awgrymodd Wheeler fod tai masnachwyr brodorol wedi eu gosod ar hyd y ffordd Rufeinig. Heddiw bydda’r ffordd yma yn gyfochrog a Ffordd Cystennin (A4085) sef y ffordd allan o Gaernarfon am Waunfawr / Beddgelert.

Yma y bydda’r vicus neu’r aneddle frodorol, lle byddai’r brodorion wedi sefydlu gweithdai, siopau, tafarndai ac yn y blaen er mwyn masnachu gyda’r milwyr yn y gaer. A dweud y gwir bydda’r ffordd Rufeinig yn rhedeg o dan gerddi cefn y tai ar hyd Ffordd Cystennin.
Rydym wedi bod yn cloddio tu cefn i’r tai cyfnod Rhufeinig fydda ar ochr ddwyreiniol y ffordd – felly rydym yn cloddio yn y iard / buarth / cwrt cefn. Awgrymodd Frances Lynch y byddai ardal o’r fath yn frith o olion ad-hoc. Ac yn wir, dyma a ganfuwyd, ffynnon, oleiaf pedwar odyn neu bobty o glai a sawl pydew a thyllau pyst.

Roedd llestri pridd Rhufeinig ym mhob man er gwaetha’r ffaith fod fferm Cae Mawr wedi bod yma am rai canrifoedd cyn adeiladu’r ysgol. Syndod go iawn fod cymaint o olion Rhufeinig wedi goroesi.

Tair safle hollol wahanol felly, ond rydym wedi dysgu llawer o bethau newydd drwy wneud y gwaith cloddio.

No comments:

Post a Comment