Heb os, mae hi wedi bod yn haf prysur o ran archaeoleg yng
ngogledd Cymru, a mae hynny diolch i waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd. Fe soniais am y gwaith cloddio ym marics Pen y Bryn yn chwarel
Dorothea yn Llafar Gwlad 145.
Un o’r pethau diddorol ddaeth i’r amlwg o’r gwaith cloddio
hwnnw oedd y defnydd o lytheren I fawr gyda llinell drywddi i ddynodi’r
llythyren J. Canfuwyd sawn engraifft o ‘graffiti’ lle roedd rhwyun wedi cerfio
enwau ar y graig naturiol ger y barics. Gan ddyddio i ddiwedd y 19ef ganrif
cafwyd amrywiaeth o J arferol a’r I fawr gyda llinell i gyfleu J.
Wrth i’r archaeolegwyr bendroni beth oedd ‘dirgelwch’ neu
arwyddocad yr I fawr gyda llinell, cofiais am stori o fewn ein teulu ni am fy
hen ewythr John Richard Thomas. Chwarelwr oedd John Richard yn Chwarel Cilgwyn.
Roedd yn frawd i fy nhaid, un arall o chwarelwyr y Cilgwyn. Gan fod nam ar goes
John Richards, gweithio yn glanhau’r siediau oedd o yn hytrach nac ar wyneb y
graig.
Rhywsut neu’i gilydd bu i’w garreg fedd gael ei gadael ar
ôl yn y cartref teuluol a dyma sut y bu i mi fod yn gyfarwydd a’r I ar gyfer J.
Darllenai’r garreg IRT – hefo llinell drwy’r I. Ond, gan mai carreg fedd John
Richard Thomas yw hi, gallais awgrymu yn ystod y gwaith cloddio ym Mhen y Bryn
fy mod yn weddol sicr beth oedd hanes y llythyren.
Ers hyn (mis Awst) mae David Hopewell o’r Ymddiriedolaeth a
finnau wedi dod o hyd i engreifftiau di-ri o gerrig wedi eu naddu gyda’r I fawr
gyda llinell. Ceir engreifftiau yn Nyffryn Ogwen felly roedd modd awgrymu nad
rhyw draddodiad yn perthyn i Ddyffryn Nantlle yw hyn. Ychydig yn ddiweddarach
wrth hel mwyar duon yn y Groeslon dyma weld postyn giat ger hen eglwys Sant
Thomas gyda’r union symbol.
Rydym a diddordeb clywed am engreifftiau eraill a byddwn yn
gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth – ebostiwch rhysmwyn@hotmail.co.uk.
Newid cyfnod oedd hi go iawn wedyn wrth adael Pen y Bryn a
dechrau cloddio ar fryngaer arfordirol Dinas Dinlle, ychydig i’r gorllewin o Gaernarfon.
Gan fod darnau o’r gaer yn disgyn i’r môr oherwydd erydiad arfordirol
penderfynwyd cynnal archwiliad o’r gaer. Dyma gyfle felly i gloddio o dan y
pridd a gweld beth sydd wedi goroesi yno.
Er fod awgrym fod cytiau crynion ar y safle, dyma’r tro
cyntaf i archaeolegwyr gael cloddio yma. Canfuwyd gwt crwn sylweddol ei faint
ger ymyl y clogwyn. O fy mhrofiad yn cloddio ym Meillionydd ger Aberdaron lle
cawn sawl cwt crwn o fewn safle cylchfur dwbl Oes Efydd Hwyr / Oes Haearn
Cynnar, roedd gwneuthuriad cwt Dinas Dinlle yn llawer mwy sylweddol.
Mesurai’r cwt oddeutu 8medr ar draws. Roedd sylfaeni cerrig
y cwt bron yn fedr ar draws. Wrth drafod arwyddocad hyn gyda’n cyd
archaeolegwyr ar y safle, anodd oedd peidio tynnu coes mai cwt y pennaeth oedd
hwn. Wrth reswm does dim modd o wybod pwy oedd yn byw yn y cwt crwn. Byddai
nifer o gytiau eraill o fewn y gaer yn creu cymuned o drigolion.
Oes modd galw hyn yn bentref gaerog? Cwestiwn da! Roedd y
trigolion wedi eu hamddiffyn gan gloddiau a ffosydd y gaer – mae hynny yn sicr.
Beth bynnag y tynnu coes dros banad – roedd hwn yn adeilad sylweddol. Awgrymaf
felly bydda hwn wedi bod yn gartref ddigon urddasol yn y cyfnod Celtaidd /
Rhufeinig.
Rhywbeth arall pwysig ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod o
gloddio yn Ninas Dinlle yw’r diddordeb cynyddol ymhlith Cymry Cymraeg yn y Byd
Archaeoleg. Bellach mae Gerallt Pennant a chriw Heno S4C ac Aled Hughes, BBC
Radio Cymru, yn rhoi sylw cyson i’r maes. Prin fod unrhyw gloddio yn digwydd
heb gamerau Heno a meicroffon Radio Cymru yn ymddangos yn ystod y cyfnod
gwaith.
Daeth dros 400 i’r diwrnod agored yn Ninas Dinlle. Bu
pedwar ohnnom yn cynnal teithiau tywys ar ran yr Ymddiriedolaeth a bu’r pedwar
ohonnom allan gyda pump grwp gwahanol yn ystod y dydd. Fy nghyfrifoldeb i oedd y
teithiau tywys drwy gyfrwng y Gymraeg a roedd pob un yn orlawn.
Os nad oedd cael cloddio mewn chwarael lechi a bryngaer
Geltaidd yn ddigon i fodloni enaid unrhyw Gymro / archaeolegydd dyma gyfle
wedyn yn ystod mis Medi i archwilio rhan o’r pentref brodorol ar gyrion caer
Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon.
Saif hen safle Ysgol Pendalar ychydig i’r gogledd ddwyrain
o’r ffordd Rufeinig a redai o’r gaer i gyfeiriad is-gaer Hen Walia yn agos at
Afon Saint / Seiont. (Hyn yn ôl Mortimer Wheeler, 1924, Segontium and the
Roman Occupation of Wales). Rhywbeth y dylid ei drafod mewn erthygl yn y
dyfodol yw pwysigrwydd ei wraig, Tessa Wheeler.
Clywais son sawl tro mai Tessa oedd yn gwneud y gwaith
archaeoleg ‘go iawn’. Sgwn’i os oes unrhyw sail i hyn? Ta waeth am hynny am y
tro, awgrymodd Wheeler fod tai masnachwyr brodorol wedi eu gosod ar hyd y
ffordd Rufeinig. Heddiw bydda’r ffordd yma yn gyfochrog a Ffordd Cystennin
(A4085) sef y ffordd allan o Gaernarfon am Waunfawr / Beddgelert.
Yma y bydda’r vicus neu’r aneddle frodorol, lle
byddai’r brodorion wedi sefydlu gweithdai, siopau, tafarndai ac yn y blaen er
mwyn masnachu gyda’r milwyr yn y gaer. A dweud y gwir bydda’r ffordd Rufeinig
yn rhedeg o dan gerddi cefn y tai ar hyd Ffordd Cystennin.
Rydym wedi bod yn cloddio tu cefn i’r tai cyfnod Rhufeinig
fydda ar ochr ddwyreiniol y ffordd – felly rydym yn cloddio yn y iard / buarth
/ cwrt cefn. Awgrymodd Frances Lynch y byddai ardal o’r fath yn frith o olion
ad-hoc. Ac yn wir, dyma a ganfuwyd, ffynnon, oleiaf pedwar odyn neu bobty o
glai a sawl pydew a thyllau pyst.
Roedd llestri pridd Rhufeinig ym mhob man er gwaetha’r
ffaith fod fferm Cae Mawr wedi bod yma am rai canrifoedd cyn adeiladu’r ysgol.
Syndod go iawn fod cymaint o olion Rhufeinig wedi goroesi.
Tair safle hollol wahanol felly, ond rydym wedi dysgu
llawer o bethau newydd drwy wneud y gwaith cloddio.